Module Information

Cod y Modiwl
FG05700
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ffiseg Labordy
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
PH05720, Ddim ar gael i fyfyrwyr ar gynllun gradd BSc (Anrhydedd) 3 blynedd na chynllun gradd MPhys
Rhagofynion
TGAU Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gyfatebol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 11 x Sesiynau Ymarferol3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dyddiadur labordy ysgrifenedig  60%
Asesiad Semester Adroddiad ffurfiol ysgrifenedig  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  20%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y bwrdd arholi adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Cyflawni arbrofion syml mewn ffiseg sylfaenol
2. Cyflawni dadansoddiad cyfeiliornad sylfaenol ar fesuriadau
3. Llunio casgliadau priodol o ganlyniadau
4. Cyflwyno a dadansoddi gwaith mewn dyddiadur labordy
5. Disgrifio gwaith mewn adroddiad ffurfiol
6. Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn ar Ffiseg Labordy yn gyflwyniad i ffiseg arbrofol. Rhoddir pwyslais ar hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio offerynnau sylfaenol, gwneud cyfrifiadau cyfeiliornadau syml ac asesu'r canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynadwy. Mae'r arbrofion wedi'u cynllunio i adlewyrchu testunau damcaniaethol a gyflwynir mewn modiwlau eraill – felly mae'r arbrofion yn cwmpasu priodweddau mater, grymoedd a mecaneg yn ogystal ag agweddau eraill o ffiseg sylfaenol. Datblygir sgiliau cyflwyno yng nghyd-destun yr arbrofion.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys set o arbrofion o wahanol feysydd o Ffiseg sy'n cynnwys: Osgiliadau a Thonnau, Ffiseg Thermol, a Thrydan a Magnetedd. Bydd y myfyrwyr yn cyflawni'r arbrofion yn eu tro yn ystod y semester.
Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith mewn Dyddiadur Labordy lle nodir cynnydd manwl pob arbrawf, ysgrifennu adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a rhoi cyflwyniad llafar

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cofnodi arbrofion yn y dyddiadur labordy. Cyd-weithio mewn grwpiau bychain i gyflawni arbrofion. Cyfathrebu canlyniadau drwy adroddiad ffurfiol a chyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Caiff myfyrwyr eu hannog i gyflawni'r arbrofion a chynnig dulliau a datrysiadau.
Gwaith Tim Mae'r myfyrywr yn gweithio mewn grwpiau bychain ar bob arbrawf ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ystyried y gwaith yn feirniadol ac adlewyrchu i asesu'r modd y cyflawnwyd arbrawf a sut y gellid ei wella.
Rhifedd Mae sgiliau mathemategol yn ganolog i ddeall a chymhwyso ffiseg. Cofnodi data wrth wneud arbrofion ffiseg. Cymhwyso dadansoddiad cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau. Asesir drwy ddyddiaduron labordy ac adroddiad ffurfiol
Sgiliau pwnc penodol Cymhwyso ffiseg sylfaenol i ddulliau arbrofol.
Sgiliau ymchwil Mae angen ymchwil cefndirol a sgiliau cyfeirio elfennol ar gyfer adroddiad ffurfiol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir prosesydd geiriau i baratoi'r adroddiad ffurfiol. Defnyddir PowerPoint neu becyn cyfatebol yn y cyflwyniad llafar. Defnyddio offer arbrofol sylfaenol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3