Module Information

Cod y Modiwl
FG12910
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
PH12910, MT12910, MP12910
Rhagofynion
Gofynion mynediad ar gyfer gradd anrhydedd Ffiseg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 14 x Sesiynau Ymarferol3 Awr
Tiwtorial 3 x Tiwtorial 1 Awr
Darlith 13 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Taenlen  25%
Asesiad Semester Rhaglennu Macro  25%
Asesiad Semester Poster Grŵp  15%
Asesiad Semester Dogfen CV  15%
Asesiad Semester Sgwrs Unigol  20%
Asesiad Ailsefyll Ail-adrodd y rhan(nau) a fethwyd  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen ar gyfer cyfrifiadau, cymhwyso rhaglenni macro, ac arddangos crynodebau a siartiau o'r data.
2. Defnyddio pecynnau meddalwedd i baratoi dogfennau ar gyfer cyflwyno i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
3. Adnabod gyrfaoedd ar gyfer graddedigion Ffiseg a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
4. Egluro testun mewn Ffiseg mewn cyflwyniad llafar.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i amrywiaeth o becynnau meddalwedd: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyno, taenlenni a rhaglennu macro. Mae'n defnyddio syniadau mewn mathemateg a ffiseg i ddangos defnydd o'r meddalwedd a sgiliau yn y gweithle.

Yn y modiwl mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau fel canllaw ar gyfer paratoi ceisiadau am swyddi. Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau i ymchwilio gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg a defnyddio'r meddalwedd a gyflwynwyd i baratoi poster ar eu canfyddiadau. Mae myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad unigol byr ar destun mewn Ffiseg.

Cynnwys

Pecynnau prosesu geiriau (fel Word, Latex): cyflwyniad, dogfennau, fformatio, mynegiadau mathemategol, a chyfeiriadau llyfryddol.

Taenlenni (fel Excel): trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin, delweddu set ddata (mawr), a rhaglennu macro.

Arddulliau cyflwyno a phecynnau (megis Powerpoint): ar gyfer posteri ac ar gyfer cyflwyniadau llafar unigol.

Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau gan y Gwasanaethau Gyrfaoedd i ddangos sut i baratoi dogfennau fel llythyr cyflwyno neu CV.

Poster grŵp i dynnu sylw at yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg a'r sgiliau a ddatblygir ar gyfer y rhain.

Cyflwyniad unigol ar destun mewn Ffiseg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebir yn ysgrifenedig yn yr aseiniadau. Cyfathrebir ar lafar yn y cyflwyniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl yn dangos pwysigrwydd datblygiad personol a cynllunio gyrfa ac mae'n cynnwys paratoi dogfen CV.
Datrys Problemau Caiff sgiliau datrys problemau eu cymhwyso yn yr aseiniadau taenlen a rhaglennu macros ac yn y cyflwyniad ar destun mewn Ffiseg.
Gwaith Tim Mae'r aseiniad poster yn weithgaredd grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Caiff ei annog drwy gydol y modiwl yma sy'n datblygu sgiliau.
Rhifedd Defnyddir cysyniadau a thechnegau rhifyddol gyda thaenlen a macros.
Sgiliau pwnc penodol Rhaglennu drwy raglennu macro mewn Excel. Datrys problemau mewn ffiseg ar gyfer y cyflwyniad unigol.
Sgiliau ymchwil Caiff sgiliau ymchwil eu defnyddio i ymchwilio testun mewn Ffiseg a gyrfaoedd mewn Ffiseg.
Technoleg Gwybodaeth Mae amrywiaeth o becynnau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4