Module Information

Cod y Modiwl
FGM4410
Teitl y Modiwl
Cyfathrebu Pynciau Mewn Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
PH25520 neu FG25520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar ar bwnc cyfredol mewn ffiseg  20%
Asesiad Semester Ymarferion ar gynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil  ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru ar PHM5760 neu Cyflwyniad ac arholiad llafar ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar PHM5760  40%
Asesiad Semester Erthygl ysgrifenedig ar bwnc cyfredol mewn ffiseg  40%
Asesiad Ailsefyll Ail-sefyll cydrannau a fethwyd  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos dysgu annibynnol drwy ymgymryd ag adolygiad o bapur ar bwnc amserol mewn Ffiseg a llenyddiaeth atgyfnerthu.

Cyflwyno a chyfleu y pwnc amserol i gynulleidfa anarbenigol mewn erthygl wyddoniaeth boblogaidd.

Dangos y gallu i gyflwyno pwnc gwyddonol cyfredol i gynulleidfa nad ydynt yn arbenigwyr ac ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa.

Arddangos y sgiliau sy'n sail i gynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil (myfyrwyr nad sydd wedi cofrestru ar PHM5760).
neu
Dangos y gallu i gyflwyno'r wyddoniaeth sy'n sail i'w prosiect blwyddyn olaf a mynd i'r afael a chwestiynau manwl ar y gwaith mewn arholiad llafar (myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar PHM5760).

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu yng nghyd-destun pynciau Ffiseg. Ystyrir dwy agwedd gymharus. Mae'r gyntaf yn mynd i'r afael a chyflwyniad o bwnc Ffiseg amserol mewn erthygl ysgrifenedig a anelir at y cyhoedd cyffredinol a chyflwyniad byr ar y pwnc i gynulleidfa o'u cyfoedion. Mae'r ail agwedd yn ystyried sgiliau cyfathrebu sy'n bwysig ar gyfer gweithrediad llwyddiannus prosiect ymchwil. Mae'r ail agwedd yn amrywio ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl PHM5760 Upper Polar Atmosphere yn UNIS yn eu hail semester, a disgwylir i'r myfyrwyr yma baratoi cyflwyniad a chael arholiad llafar.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn anelu at ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu myfyriwr israddedig yng nghyd-destun pynciau a phrosiectau mewn Ffiseg. Mae'r sgiliau yn hanfodol ar gyfer Ffisegwyr proffesiynol, i gyfathrebu cysyniadau Ffiseg i'w cyd-weithwyr ac i'r cyhoedd cyffredinol.

Cynnwys

Yn rhan gyntaf y modiwl bydd y myfyrwyr yn cynnal adolygiad o bapur diweddar, amserol mewn ffiseg. Byddant yn cynnal adolygiad llenyddiaeth ac yna bydd gofyn iddynt ddarparu erthygl ar yr papur ar ffurf gwyddoniaeth boblogaidd (e.e. New Scientist). Trafodir yr adolygiad a pharatoad yr erthygl yn y seminarau wythnosol. Yna bydd y myfyrwyr yn rhoi cyflwyniad ar y papur i'w cyd-fyfyrwyr a chant eu hasesu ar ansawdd y cyflwyniad a'r ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa. Bydd y cyflwyniad hwn ganol y semester. Gall y pwnc fod yn berthnasol i faes ymchwil yn yr adran (deunyddiau, cysawd yr haul, astroffiseg, ffiseg ddamcaniaethol a chyfrifiaduro) er nad oes yn rhaid iddo fod wedi ei gyfyngu i'r rhain. Bydd y cyflwyniad llafar yn Gymraeg.

Caiff cynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil (ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru ar PHM5760) sylw mewn cwrs sgiliau ymchwil preswyl byr. Fel arfer, caiff y cwrs ei drefnu ar y cyd gan staff Ffiseg ym Mhrifysgolion Aberystwyth , Caerdydd ac Abertawe a chaiff ei gynnal yng Ngregynog ar ddiwedd Semester 1. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau.

Ar gyfer y cyflwyniad ac arholiad llafar (myfyrwyr wedi'u cofrestru ar PHM5760 ) mae disgwyl i'r myfyrwyr roi cyflwyniad am eu prosiect Blwyddyn 4 i banel bychan o aseswyr ac yna ymateb ar lafar i gwestiynau manwl ar y maes astudio. Bydd yr arholiad llafar yn Gymraeg.

Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno fel cyfres o seminarau wythnosol o 1 awr yr un. Mae yna hefyd gwrs preswyl 5-diwrnod.

Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r cyflwyniad llafar a sefyll yr arholiad llafar yn Gymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig yn ganolog i'r modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Anelir y modiwl at baratoi myfyrwyr i gyflwyno ffiseg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae'r sgiliau cyflwyno yma yn ran bwysig o unrhyw yrfa Ffiseg a maent yn drosglwyddadwy i unrhyw ddisgyblaeth neu lwybr gyrfa.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn elfen hanfodol o'r modiwl: papurau ymchwil ffiseg, prosiect ymchwil a phrosiect blwyddyn-olaf cwrs israddedig.
Gwaith Tim Mae gwaith grwp yn rhan o'r cwrs preswyl ar sgiliau ymchwil.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Caiff fyfyrwyr adborth ar eu cyfathrebu ac ansawdd eu gwaith i wella eu sgiliau cyflwyno.
Rhifedd Mae sgiliau Mathemategol yn ran hanfodol o bapurau ymchwil Ffiseg a hefyd o waith prosiect yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Mae'r rhain yn dibynnu ar y testunau a ddewisir i'w hystyried.
Sgiliau ymchwil Mae ymchwiliadau llenyddiaeth a holi gwyddonol yn ran ganolog o'r modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio adnoddau electronig ar gyfer ymchwil berthnasol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7