Module Information
			 Cod y Modiwl
		
FGM5800
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Prif Brosiect
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2016/2017
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
 PHM5860
 
Rhagofynion
 PH37540 neu FG37540 (neu CC39440 neu CS39440 ar gyfer cynllun gradd Gwyddor y Gofod a Roboteg)
 
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) | 10% | 
| Asesiad Semester | Adolygiad Llyfryddiaeth (Gall unigolyn gyflwyno'i adolygiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) | 15% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (yn Gymraeg) | 15% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) | 60% | 
| Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu. | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu: 
 
 1.	Dangos dealltwriaeth fanwl o'r ffiseg yn eu testun astudio.
 2.	Adolygu'r datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil dan sylw fel a gofnodir yn y llyfryddiaeth a arfarnwyd.
 3.	Cynllunio a gweithredu prif brosiect ymchwil.
 4.	Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun.
 5.	Cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol.
 
 
Disgrifiad cryno
 
 Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a chyfnod cynllunio y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn cyflawni prosiect sydd fel arfer gydag un o grwpiau ymchwil y sefydliad o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
 
Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.
 
 
Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.
Cynnwys
Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
