Module Information
Cod y Modiwl
GA10100
Teitl y Modiwl
Tiwtorial Gwyddor Amgylcheddol Lefel 1
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad 1 Aseiniad 1: Dod o hyd i ffynonellau amrywiol o wybodaeth. cael mynediad atynt a’u beirniadu | 20% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 Aseiniad 2: Dadl mewn grŵp ar bwnc o fewn Gwyddor Amgylchedd. (5 % yn seiliedig ar waith grŵp paratoadol a chyfraniad at y ddadl; 15 % yn seiliedig ar adroddiad ysgrifenedig unigol yn crynhoi’r ddadl) | 20% |
Asesiad Semester | Aseiniad 3 Aseiniad 3: Traethawd ysgrifenedig | 20% |
Asesiad Semester | Aseiniad 4 Aseiniad 4: Traethawd ysgrifenedig | 20% |
Asesiad Semester | Aseiniad 5 Aseiniad 5: Traethawd ysgrifenedig | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1 - ailgyflwyno Aseiniad 1: Dod o hyd i ffynonellau amrywiol o wybodaeth. cael mynediad atynt a’u beirniadu. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Aseniad 2 - ailgyflwyno Aseiniad 2: Dadl mewn grŵp ar bwnc o fewn Gwyddor Amgylchedd. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant. Bydd y marc ar gyfer y gwaith grŵp yn aseiniad 2 yn sefyll. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 3 - ailgyflwyno Aseiniad 3: Traethawd ysgrifenedig. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 4 - ailgyflwyno Aseiniad 4: Traethawd ysgrifenedig. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 5 - ailgyflwyno Aseiniad 5: Traethawd ysgrifenedig. Ailgyflwyno elfennau a fethwyd os yw marc terfynol y modiwl yn fethiant. | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod ffynonellau priodol o ddata ac adnoddau ar gyfer Gwyddor yr Amgylchedd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a gwefannau, gan ddangos gwerthfawrogiad o'r materion sy'n ymwneud â'u defnyddio.
Trafod cysyniadau a syniadau allweddol mewn Gwyddor yr Amgylchedd mewn modd deallus.
Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig sydd o arddull a safon priodol i waith cwrs lefel prifysgol.
Ymgymryd â gwaith paratoadol annibynnol priodol ar gyfer dosbarthiadau, gan gynnwys darllen ac ymchwil.
Gweithio yn gynhyrchiol fel rhan o grŵp.
Gwneud cyflwyniad llafar i grŵp bach.
Testun Llyfryn
Mae'r modiwl tiwtorial wedi'i gynllunio i fod yn fodiwl ategol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Gwyddor yr Amgylchedd (Rhan Un). Mae'n darparu sail ar gyfer cyswllt goruchwylio agos a rheolaidd gyda myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Nod
1 ) I gynorthwyo myfyrwyr i allu pontio rhwng Safon Uwch a phrifysgol
2) I gyflwyno myfyrwyr i gysyniadau allweddol a syniadau mewn Gwyddor Amgylcheddol
3) I helpu myfyrwyr i nodi a defnyddio ffynonellau priodol o ddata a gwybodaeth Gwyddor Amgylcheddol yn effeithiol.
4) I ddarparu cymorth ar gyfer, a chydlyniad rhwng, modiwlau craidd Gwyddor Amgylcheddol
5 ) I ddatblygu sgiliau astudio myfyrwyr
6) I ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy personol myfyrwyr.

Cynnwys
Mae craidd Gwyddor yr Amgylchedd yn cynnwys elfen tiwtorial a asesir gyda thiwtoriaid academaidd personol mewn grwpiau bach o tua pump o fyfyrwyr. Yn y modiwl datblygir sgiliau astudio personol, archwilir uchelgeisiau gyrfaol a bydd trafodaeth academaidd yn digwydd o gwmpas maes llafur wedi ei ddiffinio ym maes Gwyddor Amgylcheddol.
Mae’r gwaith cwrs academaidd yn y modiwl Tiwtorial Lefel 1 yn edrych ar y themâu sy'n deillio o'r pynciau a drafodir ym modiwlau Gwyddor Amgylcheddol y flwyddyn gyntaf a thrwy ymchwiliad o'r fath yn datblygu amrywiaeth o sgiliau astudio academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys:
Cynllunio arferion gwaith a gosod targedau academaidd a phersonol;
Defnyddio’r Llyfrgell a sut i adeiladu rhaglen ddarllen effeithiol; arddulliau o wneud nodiadau / anodi a chyfeirnodi llyfryddiaethol;
Casglu data, dadansoddi a dehongli;
Ysgrifennu o fewn Gwyddor Amgylcheddol, Ysgrifennu Traethodau a thechneg arholiad (caiff myfyrwyr eu cyflwyno i sgiliau ysgrifennu da a'r nodweddion a ddefnyddir i asesu gwaith ysgrifenedig).
Gellid datblygu ac asesu’r sgiliau astudio hyn ar ffurf dau aseiniad byr. Yn y semester cyntaf, er enghraifft, gallai'r rhain gynnwys sgiliau Llyfrgell: yn yr ail semester, gallent gynnwys sgiliau ymchwil wrth gasglu ac adrodd ar ddata maes eilaidd neu leol. Bydd y marciau ar gyfer y ddau aseiniad hyn yn cael eu defnyddio yn yr asesiad terfynol. Yn ogystal, rhaid cyflwyno o leiaf pedwar traethawd a osodir gan y tiwtor, a bydd marciau o dri o'r rhain yn cael eu defnyddio yn yr asesiad terfynol. Bydd y pynciau ar gyfer y traethodau yn amrywio. Mae'r traethodau yn ffurfiannol a chrynodol a dylai myfyrwyr ddisgwyl adborth gan y tiwtor ar ôl pob darn o waith ar sut y gallant wella traethodau dilynol.
Mae'r modiwl tiwtorial yn rhoi cyfle i gymryd rhan yn uniongyrchol yn eu dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eu gwaith i grŵp bach o fyfyrwyr. Ochr yn ochr a’i rôl academaidd, gall trafodaeth o adeiladu CV a gyrfaoedd ddigwydd. Bydd dyfarniad tiwtor o berfformiad cyffredinol myfyriwr yn ystod y rhaglen lawn yn ffurfio elfen olaf, fach, o asesiad y modiwl.

Disgrifiad cryno
Mae craidd Gwyddor yr Amgylchedd yn cynnwys elfen tiwtorial a asesir gyda thiwtoriaid academaidd personol mewn grwpiau bach o tua pump o fyfyrwyr. Yn y modiwl datblygir sgiliau astudio personol, archwilir uchelgeisiau gyrfaol a bydd trafodaeth academaidd yn digwydd o gwmpas maes llafur wedi ei ddiffinio ym maes Gwyddor Amgylcheddol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd, yn nhrafodaethau tiwtorial. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd, wrth ddatblygu portffolio CDP a CV |
Datrys Problemau | Bydd, trwy ymarferion tiwtorial. |
Gwaith Tim | Bydd, trwy trafodaethau tiwtorial / gweithgareddau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd, trwy fyfyrio ar adborth ysgrifenedig ac ar lafar. |
Rhifedd | Bydd, wrth baratoi traethodau/adroddiadau. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd, trwy’r traethodau a osodwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd, wrth baratoi traethodau/adroddiadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4