Module Information

Cod y Modiwl
GF37810
Teitl y Modiwl
Cyfraith Gofal Iechyd
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 3 x Seminarau 1 Awr
Darlith 16 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau erbyn wythnos 10  100%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
Dehongli a dadansoddi'r perthynas rhwng y gyfraith, meddygaeth, moeseg a pholisi;
Dadansoddi a gwerthuso cryfderau a gwendidau'r darpariaethau cyfreithiol cyfredol;
Ystyried yn feirniadol sut mae'r gyfraith yn gweithio ac adnabod ei ddiffygion;
Ystyried sut mae materion moesol yn dylanwadu ar y gyfraith;
Ystyried dylanwad y Ddeddf Hawliau Dynol;
Dangos ymwybyddiaeth o unrhyw ddiwygiadau a'r polisiau sydd yn effeithio ar unigolion;
Trafod y deunydd a gyflwynir yn y modiwl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y dulliau traddodiadol academaidd;
Ehangu sgiliau ymchwil

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn trafod rhai o themau pwysig Gofal Iechyd (fel iechyd cymunedol, agweddau gwledig, cyfyngder adnoddau a dulliau cwyno) gan ganolbwyntio ar ddarpariaethau'r Cynulliad ar ol datganoli.
Fe fydd y modiwl yn edrych ar ddiwygiadau yn y ffordd y rheolwyd gofal iechyd ers datganoli, gan gymharu Gwasanaeth Iechyd Cymru gyda Gwasanaeth Iechyd gweddill y Deyrnas Unedig.

Nod

Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:
Datblygu ymwybyddiaeth o'r perthynas rhwng polisiau cymdeithasol, y gyfraith a meddygaeth trwy edrych ar ddatblygiad a rheolaeth gofal iechyd yng Nghymru


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6