Module Information

Cod y Modiwl
GW12420
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
Gwylio Ffilm 1 x Sesiwn Wylio 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adolygu erthygl (1,000 gair)  25%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2,000 gair)  40%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad beirniadol (oddeunydd darllen dethol (1,500 gair)  35%
Asesiad Semester Adolygu erthygl (1,000 gair)  25%
Asesiad Semester Traethawd (2,000 gair)  40%
Asesiad Semester Adolygiad beirniadol (oddeunydd darllen dethol (1,500 gair)  35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos gwybodaeth feirniadol o brif gysyniadau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol

Dangos gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn mewn amgylchiadau penodol a’u mireinio a/neu eu beirniadu yn unol â'r cyd-destun

Amlinellu synnwyr eang o’' ddisgyblaeth a'i dyfodol

Dangos gallu i gyflwyno dadl gydlynol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Dangos gallu i ddilyn confensiynau wrth gyflwyno a chyfeirio mewn gwaith academaidd

Cynnwys

Adran 1 – Beth yw’r Rhyngwladol?
Bydd darlithiau’r adran hon yn edrych ar y ffordd y mae’r rhyngwladol yn cael ei ddiffinio trwy ofod rhyngwladol, y gwahaniaeth rhwng y domestig a’r rhyngwladol, y drefn wladwriaethol, sofraniaeth gwladwriaethau a hunaniaeth genedlaethol a phynciau o ddiddordeb i’r wlad. Trwyddo draw, mi fydd yn archwilio sut y mae’r cysyniadau hyn sy’n sail i ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol yn parhau i fynegi realiti gwleidyddiaeth y byd cyfoes tra’n cael eu tanseilio (a’u profi’n annigonol) gan brosesau globaleiddio.
Bydd y seminarau yn trafod penodoldeb y rhyngwladol a phroblemau gofod rhyngwladol mewn oes newydd o globaleiddio.
Adran 2 – Beth yw ei wreiddiau?
Bydd darlithiau’r adran hon yn edrych ar ffurfiad hanesyddol y rhyngwladol, gan ganolbwyntio’n benodol ar drefn gwladwriaethau Ewropeaidd a globaleiddio yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif trwy drefedigaethu, dad-drefedigaethu a diwedd y Rhyfel Oer. Trwy’r safbwynt hanesyddol hwn, bydd trefniadau amgen i’r system hon yn cael eu hystyried, yn enwedig yn sgil bygythiadau diweddar a chyfoes i’r ddynoliaeth (yr amod niwclear, newid hinsawdd, ansefydlogrwydd economaidd ac ariannol yn y byd, a.y.y.b.).
Bydd y seminarau yn trafod hanes y rhyngwladol, ei hierarchiaethau a’r dychymyg gwleidyddol amgen heddiw.
Adran 3 – Beth yw ei actorion?
Bydd darlithiau’r adran hon yn archwilio’r rhyngwladol trwy lygaid ei actorion. Rhoddir sylw dyledus i wladwriaethau cryf a gwan o fewn i ddulliau ‘trefn o wladwriaethau’, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddamcaniaeth hegemonaidd a pholisi tramor diweddar UDA. Trwy symud grym i’r Dwyrain, a hefyd i fathau eraill o actorion, bydd yr adran hon wedyn yn ystyried pwysigrwydd swyddogaeth Actorion Anwladwriaethol (Mudiadau Rhyngwladol, Cyrff Anllywodraethol, dinasoedd, terfysgwyr) wrth ffurfio trefn y byd cyfoes.
Bydd y seminarau yn trafod gwladwriaethau ac actorion anwladwriaethol ac arweinyddiaeth wleidyddol

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cynnig ystod o wahanol safbwyntiau ar y rhyngwladol i’r myfyrwyr: damcaniaethol, hanesyddol, empiraidd, beirniadol. Cyflwynir y safbwyntiau hyn trwy dri chwestiwn penodol: Beth yw’r Rhyngwladol? Beth yw gwreiddiau’r Rhyngwladol? Beth yw actorion allweddol y Rhyngwladol? Bydd y cwestiynau hyn, yn eu tro, yn ymwneud â dwy brif ystyriaeth yn nisgyblaeth gwleidyddiaeth ryngwladol: 1) plethu’r cenedlaethol, y rhyngwladol a’r byd-eang, a’r croesddywediadau rhyngddynt; a 2) y cwestiwn o’r rhyngwladol modern fel ffenomen fyd-eang o darddiad y Gorllewin – herio Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy’n troi o amgylch y Gorllewin.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut fanteisio ar hynny. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio’r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu’r drafodaeth. Dylai’r modd y cyflwynir y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i’r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno ystod o asesiadau bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata a llunio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tîm yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o’r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grŵp. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, ac yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael â phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli, ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a’r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy’n benodol i’r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy’n berthnasol i’r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau gwleidyddol cyfoes a hanesyddol cymhleth
Sgiliau ymchwil Gofynnir i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith i’w asesu. Bydd hynny’n golygu defnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno’u gwaith yn electronig. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau trwy ffynonellau gwybodaeth electronig

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4