Module Information

Cod y Modiwl
HA13820
Teitl y Modiwl
Oes y Fictoriaid
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 18 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 5 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  30%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  70%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  30%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau yn y maes yn perthyn i'r cyfnod.

Myfyrio ar a dadansoddi'r feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.

Gweithio'r annibynnol.

Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i hanes diwylliannol a deallusol oes Fictoria. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i astudio ystod o themau megis addysg, crefydd, diwylliant poblogaidd a gwyddoniaeth. Fe fyddant yn cael cyfle i brofi nifer o agweddau hanesyddiaethol gwahanol tuag at y cyfnod ac i ddatblygu gwybodaeth o'r adnoddau hanesyddol gwahanol sydd ar gael er mwyn astudio oes Fictoria.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr i nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol ar gyfer seminarau a thraethodau.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gydweithio o fewn tïm drwy weithgarwch y seminar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dychwelir gwaith ysgrifenedig o fewn tiwtorial a rhoddir cyngor ar sut i wella ar dechnegau ymchwil ac ysgrifennu y myfyrwyr.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Datblygu ymwybyddiaeth o ffynonellau priodol a llenyddiaeth hanesyddol yn gysylltiedig ag astudiaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu gwaith academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r rhyngrwyd yn addas

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4