Module Information

Cod y Modiwl
HC11520
Teitl y Modiwl
Cymru a'r Byd: Cysylltiadau a Dylanwadau 1860 - 2000
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
WH11520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 5 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  30%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  70%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  30%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth o brif ddigwyddiadau hanes Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol yn y cyfnod rhwng 1860 a'r mileniwm newydd, ynghyd â deall prif syniadau a mudiadau'r oes a'u heffaith ar gymdeithas Cymru.

Myfyrio ar a dadansoddiâ'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.

Gweithioâ'n annibynnol ac mewn tîm.

Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themâu pwysig yn hanes modern Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at droad y mileniwm. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach yn Hanes Cymru yn rhan 2.

Disgrifiad cryno

Bydd y cwrs yma yn cyflwyno hanes modern Cymru trwy drafod lle Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Trwy astudio themâu hanesyddol allweddol bydd yn archwilio i ba raddau mae Cymru yn gysylltiedig â’r byd tu hwnt i Brydain. Yn dechrau yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau ac yn gorffen â datganoli, bydd yn amlinellu effaith Cymru a’r Cymry ar draws y byd, ac i’r gwrthwyneb. Nod allweddol y modiwl yw deall y nodweddion sydd yn debyg ac yn annhebyg yn y profiad Cymreig a phrofiad cenhedloedd eraill yn y cyfnod modern, yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth o brif ddigwyddiadau a syniadau'r amser gan ddeall eu heffaith a dylanwad ar hanes Cymru.

Cynnwys


Darlithoedd
1. Cymru – 1860
2. Y Cymry yn yr Unol Daleithiau
3. Ymerodraeth: Pobl a Chyfranogi
4. Y Wladfa: Y Cymry ym Mhatagonia,
5. Cenhadon: Crefydd, Cymru a’r Byd
6. Mewnfudiad i Gymru 1860-1945
7. Yughesovka – Cornel o Gymru yn y Wcrain
8. Argyfwng yr Ymerodraethau 1914-1918
9. Llafur mewn Cyd-destun Rhyngwladol
10. Sefydlu Plaid Cymru; Dylanwadau Ewropeaidd
11. Rhyngwladoldeb, Ffasgiaeth a Chomiwnyddiaeth
12. Y Cymry a’r Ail Ryfel Byd
13. Cymdeithas yr Iaith: Dylanwadau Rhwngwladol
14. Diwylliant Poblogaidd: Cerdd a Chwaraeon
15. Celtigiaeth, neo-Rhamantiaeth a Thwristiaeth yng Nghymru
16. Ymfudo i Gymru yn y Byd Ôl-drefedigaethol
17. Ble mae Cymru? Ewrop a Datganoli ar Ddechrau’r Mileniwm
18. Casgliadau

Seminarau
1. Cysylltiadau Cymru a’r Byd yn Oes yr Ymerodraethau
2. Ymfudo a Mewnfudo: Cymru a’r Byd Ddiwydiannol
3. Cymru yn Oes yr Ideolgau
4. Milwyr a Charcharorion Rhyfel: Cymru a’r Rhyfeloedd
5. Lle Cymru yn y Byd Ôl-drefedigaethol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd n/a
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud â'r cyfnod dan sylw yn hanes Cymru.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4