Module Information

Cod y Modiwl
BG34010
Teitl y Modiwl
Taith Astudio Amaethyddol a'r Amgylchedd Gwaith
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Taith Maes 5 x Teithiau Maes 8 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig am y daith astudio  (4,500 gair). Seminarau ar y daith astudio  70%
Asesiad Semester Portffolio Profiad Gwaith a Phortffolio Cynllunio Gyrfa  30%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau asesu sy'n gyfwerth â'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos dealltwriaeth o'r cyswllt rhwng polisi, lleoliad, arferion amaethyddol a'r economi wledig.

2. Defnyddio dull beirniadol, arfarnol a dadansoddol wrth ystyried amaethyddiaeth a'r economi wledig.

3. Deall pa mor gymhleth yw'r prosesau penderfynu wrth reoli ac arallgyfeirio yng nghefn gwlad y DU.

4. Myfyrio'n ddwys am brofiad y gweithle a nodi eu cryfderau a'u gwendidau, gan nodi strategaethau ar gyfer ymdrin â'r gwendidau.

5. Cyfleu profiad yn y modd y bydd cyflogwyr yn ei ddisgwyl a chynllunio ar gyfer strategaeth i ddatblygu gwell gyrfa yn y dyfodol.

6. Datblygu a chynnal portffolio ar gyfer myfyrio ynghylch profiadau gwaith yn y dyfodol ar ôl i'r modiwl ddod i ben.

Disgrifiad cryno

Bydd y myfyrwyr yn ymweld â sir neu ranbarth o fewn gwledydd Prydain ar gwrs maes neu daith astudio a fydd yn para wythnos, gan feithrin dealltwriaeth o nodweddion daearyddol, cymdeithasol ac economaidd yr ardal honno. Bydd ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a chyrff sy'n chwarae rhan yn rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn darparu astudiaethau achos a fydd yn amlygu'r prif faterion dan sylw.
Ar ben yr ymweliadau a'r cyfraniadau y bydd y myfyrwyr yn eu gwneud yn y seminarau gyda'r hwyr, byddant yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig am y rhanbarth. Byddant bob amser yn gweithio mewn modd dadansoddol, beirniadol ac arfarnol a bydd eu gwaith yn cynnwys adolygiad o'r testunau priodol. Bydd y myfyrwyr yn myfyrio ynghylch eu profiad yng nghyd-destun datblygu eu cyflogadwyedd, gan anelu at gynhyrchu adnoddau i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i'r myfyrwyr lunio dogfen gyfarwyddo a anelir at eu cyd-fyfyrwyr, a fydd yn rhoi proffil o'u gyrfa, gan ganolbwyntio ar sgiliau, heriau a chyfleoedd. Ar ben hynny, bydd disgwyl i'r myfyrwyr lunio cyflwyniad byr, sef 10 munud, i'w rhoi i'w cyd-fyfyrwyr gyda sesiwn holi ac ateb wedyn.
Disgwylir i'r myfyrwyr hefyd wneud o leiaf 50 awr o brofiad gwaith gwirfoddol neu gyflogedig (rhan amser neu amser llawn) yn ystod blwyddyn 2 - yn ystod y tymor neu'r gwyliau. Rhaid i'r profiad gwaith hwnnw gydymffurfio â set o feini prawf ac mae'n rhaid i'r gwaith fod yn uniongyrchol berthnasol i'r cynlluniau gradd. Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol yn ystod eu profiad gwaith a chwblhau cyfres o asesiadau ffurfiannol. Ar ddiwedd y cyfnod gwaith, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno portffolio lle y byddant yn myfyrio ar eu profiad, yn nodi'r sgiliau sydd angen eu datblygu (a'r cyfleoedd sydd i wneud hynny) ac yn llunio cynllun CAMPUS (SMART), fel rhan o'r portffolio profiad gwaith a fydd yn anelu at wella eu cyflogadwyedd yn ystod blwyddyn 3 a'r tu hwnt.

Cynnwys

Dysgir y modiwl drwy gyfuniad o ymweliadau yn ystod y cwrs maes / taith astudio a fydd yn para wythnos. Cynhelir seminarau gyda'r hwyr ar ôl yr ymweliadau. Ar ben hynny bydd darlith gyfarwyddo ar ddiwedd y semester blaenorol a fydd yn ymdrin â gofynion y modiwl ac fe drefnir 4 darlith a 4 seminar a gynhelir ar ôl i'r myfyrwyr ddychwelyd.
Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol am 50 awr gyntaf y gwaith. Darperir ffurflen a bydd disgwyl i'r myfyrwyr wneud cofnod unwaith bob diwrnod gwaith (neu fesul cyfnod 8 awr olynol os rhan amser yw'r gwaith). Bydd adnoddau ar gael i gynorthwyo'r myfyrwyr ar-lein (fe'u darperir ar Blackboard (ac ar ffurf pecynnau y gellir eu lawrlwytho neu eu hargraffu ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd)). Bydd y dyddiadur myfyriol yn rhan o'u portffolio.
Ar ôl cwblhau'r 50 awr o brofiad gwaith, bydd y myfyrwyr yn gwneud cyfres o ymarferion er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r sgiliau a feithrinwyd ganddynt, o sut y bydd cyflogwyr yn gweld y sgiliau hynny, a sut y gallent gyfleu eu cyflawniadau. Datblygir yr ymarferion drwy ymgynghori â'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.
Disgwylir i'r myfyrwyr lunio portffolio a fydd yn cynnwys (yn ogystal â'r dyddiadur):
a. tystiolaeth o'r cyfnod gwaith
b. archwiliad sgiliau wedi'i gwblhau (a seiliwyd ar yr AGAPh cyfredol)
c. tystiolaeth o'u cyswllt â'r Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blynyddoedd 1 a 2
d. cynllun gweithredu CAMPUS/SMART a fydd yn nodi'r camau a gymerir ym mlwyddyn 3
e. CV yn cynnwys y profiad a gafwyd yn ystod y lleoliad gwaith
Darperir templedi priodol er mwyn i'r myfyrwyr allu ymgorffori profiad gwaith pellach yn eu portffolio, a fydd yn tyfu ac yn dal i fod yn adnodd defnyddiol ar ôl i'r modiwl ddod i ben.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu drwy'r daith astudio (gan gynnwys y seminarau gyda'r hwyr ar y daith), yr adroddiad ysgrifenedig a'r portffolio cynllunio profiad gwaith / gyrfa.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Industry contacts will be made during field trip and the portfolio will form part of the career planning and job seeking process.
Datrys Problemau Bydd hyn yn rhan o'r gwaith cwrs a osodir
Gwaith Tim Mae'r daith astudio a'r gwaith cwrs cysylltiedig yn darparu cyfleoedd sylweddol am rhyngweithio a thrafodaethau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrio ynghylch y profiad gwaith a'r cynllunio gyrfaol yn gwella dysgu a pherfformiad y myfyrwyr eu hunain.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Meithrinir cysylltiadau â byd diwydiant yn ystod y daith maes a bydd y portffolio yn rhan o'r broses cynllunio gyrfaol a chwilio am swyddi.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn cael profiad o ymchwil cyn y daith astudio ac ar y daith, yn ogystal â chwblhau gwaith cwrs
Technoleg Gwybodaeth Bydd cyflwyno'r gwaith cwrs yn datblygu TG ymhellach

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6