Module Information

Cod y Modiwl
CY30120
Teitl y Modiwl
Darllen y Tywydd: llên yr hin a’r amgylchedd hyd tua 1800
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   60%
Arholiad Semester 2 Awr   60%
Asesiad Ailsefyll traethawd 3000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd 3000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

medru diffinio ecofeirniadaeth a dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig ecofeirniadol ehangach.

medru diffinio a thrafod y prif dueddiadau ym maes llenyddiaeth y tywydd: Meteoroleg Glasurol, y bydolwg Beiblaidd, meteoroleg wyddonol, Oes yr Iâ Fechan a hinsoddeg hanesyddol &c.

cymhwyso theori ecofeirniadol i’r testunau a drafodir yn fanwl.

medru gosod llenorion a thestunau unigol yn eu cyd-destun hanesyddol a llenyddol, gan gynnwys eu perthynas â phrif dueddiadau maes llenyddiaeth y tywydd.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno egwyddorion un o’r tueddiadau beirniadol mwyaf poblogaidd a pherthnasol, sef beirniadaeth ecofeirniadol. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr roi’r theori honno ar waith wrth astudio ystod o destunau gan lenorion o’r Canol Oesoedd a’r Cyfnod Modern Cynnar. Yn ogystal â darllen testunau trwy sbectol ecofeirniadol, bydd myfyrwyr yn dadansoddi darlleniadau hanesyddol o’r tywydd, ynghyd â ffenomena naturiol eraill a oedd, yn ôl y diffiniad Clasurol, yn perthyn i ‘feteoroleg.’ Ystyrir darlleniadau Beiblaidd, gwleidyddol a gwyddonol o dywydd eithafol a ffenomena naturiol fel llifogydd, sychder, sêr gwib, goleuni’r gogledd (S. aurora borealis) a daeargrynfeydd. Olrheinir hefyd y modd y mae meteoroleg Glasurol yr Oesoedd Canol yn ildio i feteroroleg wyddonol fodern erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Mewn geiriau eraill, olrheinir y newid o fydolwg canoloesol i fydolwg modern. Mae perthynas y modiwl hwn â maes hinsoddeg hanesyddol (S. historical climatology) yn golygu bod y modiwl yn cyfrannu at y ddadl ehangach ynghylch newid hinsawdd.

Cynnwys

Wythnos 1
Darlith & Seminar
Y cyd-destun syniadol
• Beth yw ecofeirniadaeth? Sut mae cymhwyso ecofeirniadaeth at lenyddiaeth gyn-Ramantaidd? Perthnasedd ecofeirniadaeth i’r gwaith o ddehongli neu ailddehongli llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar, gyda golwg benodol ar newid hinsawdd ac ecolegol.

Wythnos 2
Darlith
• Beth yw meteoroleg? Meteoroleg Glasurol a’r bydolwg Beiblaidd (cwmpasu’r tywydd a ffenomena naturiol a chosmolegol eraill); Meteoroleg Wyddonol (gwahaniaethu rhwng ffenomena’r tywydd a ffenomena naturiol eraill); hinsoddeg hanesyddol, Oes yr Iâ Fechan (S. Little Ice Age) a’r Oes Anthroposen (S. Anthroposcene Era).
Seminar
• Y newid o Feteoroleg Glasurol i Feteoroleg Wyddonol ‘ar waith’: englynion meteorolegol Tomos ab Ifan, Hendreforfudd (fl.1596–1633); Hugh Jones, Maesglasau (1749–1825) a Chydymaith i’r Hwsmon (1774), dyddiaduron William Bulkeley (1691–1760), a Gwallter Mechain (1761–1849) a’r Bwrdd Amaeth a’i ddyddiaduron tywydd.

Wythnos 3
Darlith
Ffynonellau a Themâu
• Arolwg o ffynonellau llenyddol pwysicaf y cyfnod cyn 1800: deunydd amrywiol a gwasgaredig (barddoniaeth, gan mwyaf); cywyddau; englynion; carolau haf; baledi ac almanaciau’r ddeunawfed ganrif; dyddiaduron
Seminar
• ‘Y Tywydd a Thywydd Eithafol’: llifogydd; eira; sychder

Wythnos 4
Seminar
• ‘Ffenomena naturiol eraill’: sêr gwib (Glyndŵr); daeargrynfeydd (gan gynnwys darlleniadau o ddaeargryn Lisbon a’i bwysigrwydd fel y ddamwain naturiol fodern gyntaf); aurora borealis (dehongliadau gwleidyddol a Christnogol)
Darlith
Testunau a astudir yn fanwl
• Yr Oesoedd Canol: ymateb beirdd i lifogydd, afonydd a thirluniau hylifol, e.e. testunau gan Fadog ab Gronw Gethin (Dyfrdwy), Lewys Glyn Cothi (Tywi), Guto’r Glyn (Malltraeth, Efyrnwy), Siâms Dwn (Trannon).

Wythnos 5
Darlith & Seminar (neu 2 x seminar)
• Yr Oesoedd Canol: ymateb beirdd i lifogydd, afonydd a thirluniau hylifol

Wythnos 6
Darlith & Seminar
• Englynion meteorolegol Tomos ab Ifan, Hendreforfudd (fl. 1596–1633) (ffenomena a welwyd yng Nghymru a’r byd; diddordebau meteorolegol; bydolwg Beiblaidd).

Wythnos 7
Darlith & Seminar
• Carolau Haf (Cymru: bydolwg Beiblaidd; cofnodi’r tywydd).
• Baledi’r 18g (Cymru a’r byd: tywydd eithafol; damweiniau naturiol; dehongli crefyddol a gwleidyddol).

Wythnos 8
Darlith & Seminar
• Hugh Jones, Cydymaith i’r Hwsmon (1774) (Cymru: bydolwg Beiblaidd; yr hin a’r amaethwr).

Wythnos 9
Darlith a Seminar
• William Williams, Pantycelyn (1717–1791): Aurora Borealis (1777) (ac, efallai, Pantheologia (1762)) (Cymru a’r byd; darlleniadau Beiblaidd a gwyddonol; addysgu darllenwyr).

Wythnos 10
Darlith a Seminar
• Almanaciau’r 18g: coelion am y tywydd; cofnodi tywydd eithafol (‘Cofrestrau’); rhagolygon tywydd hirdymor; traethodau ar wyddoniaeth a chosmoleg; arwahanrwydd almanacwyr fel John Harris a Mathew William (awdur Drych y Ddaear a’r Ffurfafen, 1784). (Cymru a’r byd; seryddiaeth ofergoelus (S. astrology) v. seryddiaeth wyddonol (S. astronomy); addysgu darllenwyr.

Nod

Gwreiddir y modiwl hwn yn arbenigedd ymchwil y cydlynydd a chyfranwyr eraill mewn testunau o’r Canol Oesoedd a’r Cyfnod Modern Cynnar sy’n ymateb i dywydd eithafol a ffenomena naturiol eraill, a hynny mewn ffrâm ecofeirniadol. I fyfyrwyr a ddilynodd y modiwl ‘Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol’ (CY35520) bydd y modiwl hwn yn sicrhau elfen o ddilyniant ac yn eu galluogi i gymhwyso eu gwybodaeth gyffredinol ynghylch ecofeirniadaeth i destunau a genres penodol iawn. Ni fydd myfyrwyr nad ydynt wedi dilyn CY35520 o dan anfantais oherwydd cyflwynir myfyrwyr i egwyddorion ecofeirniadaeth yn sesiwn agoriadol y modiwl, a rhoddir y theori ar waith yn ystod y modiwl ar ei hyd. Bydd y modiwl hwn yn apelio at fyfyrwyr yr Adran Ddaearyddiaeth sy’n astudio newid hinsawdd a hinsoddeg hanesyddol. Bydd y modiwl ecofeirniadol hwn yn fodd o sicrhau bod portffolio yr Adran yn adlewyrchu cyfoesedd a pherthnasedd ein portfolio.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn y traethawd a’r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. Datblygir sgiliau llafar wrth gyd-drafod mewn seminarau
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r fframwaith beirniadol, y cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Canfod a defnyddio ffynonellau llenyddol a beirniadol addas ar gyfer y traethawd a’r arholiad; gwella eu perfformiad yn unol â’r adborth a roddir i’r traethawd.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy gymhwyso ecofeirniadaeth i destunau hanesyddol. Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6