Module Information

Cod y Modiwl
CYM0620
Teitl y Modiwl
Y Diwydiant Cyhoeddi Creadigol yng Nghymru
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Dyddlyfr  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  Ailgyflwyno neu ddiwygio unrhyw elfennau o'r modiwl na gyrhaeddodd y marc llwyddo. Gosodir tasg newydd yn lle'r Dyddlyfr.   50%
Asesiad Ailsefyll Un dasg olygyddol  30%
Asesiad Semester Dyddlyfr hunanfyfyriol  Dyddlyfr hunanfyfyriol yn pwyso a mesur y profiad gwaith 1,000-1,500 o eiriau)  20%
Asesiad Semester Traethawd  Traethawd ar agwedd ar ddiwydiant creadigol Cymru (2,000 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Un dasg olygyddol  Un dasg olygyddol; un dasg golygu creadigol; un dasg yn cywiro proflenni.  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos eu dealltwriaeth o'r broses gyhoeddi ac o rolau gwahanol a'r cyfrifoldebau yn y diwydiant creadigol Cymreig. E.e. rol y golygydd a'r asiant; rol yr awdur mewn perthynas a'r diwydiant creadigol yn hytrach na'r proses creadigol (sef cyflwyno gwaith i'r wasg a'r proses cyhoeddi); rol sefydliadau megis CLlC a gweisg annibynnol Cymru.

dangos gallu i wneud ymchwil ffeithiol i'r meysydd dan sylw.

meistroli sgiliau penodol: confensiynau golygyddol; golygu copi a golygu creadigol; darllen a marcio proflenni; paratoi llawysgrif ar gyfer y wasg.

medru trafod agweddau creadigol ac ymarferol y diwydiant creadigol Cymreig yn briodol gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant hwnnw.

Disgrifiad cryno

Y rhesymeg dros lunio'r modiwl dewisol hwn yw pontio rhwng cymuned greadigol Adran y Gymraeg Aberystwyth a'r diwydiant creadigol ehangach. Darperir cyflwyniad i'r diwydiant creadigol yng Nghymru a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyflwyno eu gwaith creadigol i weisg a chyhoeddwyr. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi cyfle iddynt rwydweithio gydag awduron a chynrychiolwyr o'r diwydiant creadigol proffesiynol.

Bydd y modiwl hwn yn gyflwyniad i wahanol agweddau ar y diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gynnwys edrych ar bob agwedd ar lywio cyfrol drwy'r wasg.

Nod

Nod y modiwl hwn yw rhoi troslwg o'r diwydiant cyhoeddi creadigol cyfoes yng Nghymru a chyflwyno myfyrwyr i wahanol agweddau ar y diwydiant hwnnw mewn seminarau a gweithdai rhyngweithiol, gan ystyried pob agwedd ar lywio cyfrol drwy'r wasg: cynllunio a strwythuro cyfrol; egwyddorion golygyddol a chysondeb; golygu testunau llenyddol; golygu creadigol (ffuglen); golygu copi (sgiliau a chonfensiynau marcio); sut i hwyluso gwaith y cysodwr; darllen proflenni; marchnata; cyhoeddi ar eich liwt eich hunain; e-lyfrau ac ysgrifennu ar gyfer y we; adnoddau print ac electronig defnyddiol. Wrth ddilyn y rhaglen hon, gwneir yn fawr o gymuned greadigol Adran y Gymraeg ac o gysylltiadau'r Adran a sefydliadau ac unigolion perthnasol: Cyngor Llyfrau Cymru; gweisg a chyhoeddwyr; cyrff ariannu; cystadlaethau eisteddfodol (ar wastad lleol a chenedlaethol); sefydliadau sy'r cefnogi llenorion trwy gynnig cyrsiau a grantiau (Llenyddiaeth Cymru, T? Newydd); fforymau i awduron (`Y Neuadd?, Taliesin). Ar wedd ymarferol, nod y modiwl yw pontio cymuned greadigol Adran y Gymraeg Aberystwyth a'r diwydiant creadigol ehangach yng Nghymru gyfoes, a rhoi fframwaith proffesiynol i'r darpar lenorion sy'r dilyn yr MA Ysgrifennu Creadigol.

Cynnwys

Cynhelir seminarau a gweithdai rhyngweithiol wythnosol i archwilio pob agwedd ar lywio cyfrol drwy'r wasg (10 sesiwn dwyawr):

1. Rhagarweiniad i'r diwydiant cyhoeddi creadigol yng Nghymru;
2. cynllunio a strwythuro cyfrol;
3. egwyddorion golygyddol a chysondeb;
4. golygu testunau llenyddol;
5. golygu creadigol (ffuglen);
6. golygu copi (sgiliau a chonfensiynau marcio);
7. sut i hwyluso gwaith y cysodwr;
8. darllen proflenni;
9. marchnata;
10. cyhoeddi ar eich liwt eich hunain; e-lyfrau ac ysgrifennu ar gyfer y we; adnoddau print ac electronig defnyddiol.

Bydd y modiwl hwn hefyd yn cynnwys elfen o brofiad gwaith gyda sefydliadau a chwmniau proffesiynol, e.e. CLlC a gweisg annibynnol. Gellid teilwra'r profiad gwaith yn unol a diddordebau'r myfyrwyr unigol: golygu creadigol, marchnata, ac ati.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio’n annibynnol er mwyn cyflawni’r tasgau, ac mae cyfathrebu yn rhan annatod o strwythur y modiwl, sef gweithdai rhyngweithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dysgir sgiliau ymarferol a fydd yn ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr yn y diwydiant creadigol. Cynhwysir tridiau o brofiad gwaith ar y modiwl hwn hefyd.
Datrys Problemau Cywirdeb wrth olygu copi, golygu creadigol â darllen a marcio proflenni.
Gwaith Tim Mae nifer o’r sgiliau yn rhai personol; rhoddir sylw i hyn yn yr aseiniad sy’n gwerthuso’r profiad gwaith.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn rhyngweithio â’i gilydd mewn gweithdai/seminarau, ac yn llunio blog neu ddyddlyfr hunanfyfyriol fel rhan o’r modiwl.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Golygu copi; golygu creadigol; darllen a marcio proflenni.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio rhaglenni megis Microsoft Office (Word, Powerpoint) wrth baratoi tasgau; digwylir iddynt hefyd werthfawrogi pwysigrwydd GT yn y diwydiant creadigol (e.e. rhaglenni cysodi, marchnata, gwefannau, e-lyfrau)
Technoleg Gwybodaeth Gweler rhif 2, defnyddio Bwrdd du AberLearn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7