Module Information

Cod y Modiwl
DA11910
Teitl y Modiwl
Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 1
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Dylai myfyrwyr fod yn cymryd o leiaf 30 credyd o blith modiwlau Daearyddiaeth Lefel 1 (GG/DA)
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Tiwtorial 11 x Tiwtorial 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  1500 gair  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad  5-muned  20%
Asesiad Semester Traethawd  1500 gair  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 gair  40%
Asesiad Ailsefyll Sgript a deunydd gweledol yn lle cyflwyniad  500 gair  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 gair  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos ymwybyddiaeth o’r safonau, disgwyliadau, ac arferion Daearyddiaeth ar lefel prifysgol

2. Trafod cysyniadau allweddol mewn Daearyddiaeth mewn modd deallus.

3. Adnabod ffynonellau priodol o ddata ac adnoddau ar gyfer Daearyddiaeth, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a gwefannau, gan ddangos gwerthfawrogiad o'r materion sy'n ymwneud â'u defnyddio.

4. Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig sydd o arddull a safon priodol i waith cwrs lefel prifysgol.

5. Ymgymryd â gwaith paratoadol annibynnol priodol ar gyfer dosbarthiadau, gan gynnwys darllen ac ymchwil.

Nod

Cynlluniwyd y modiwl tiwtorial yn fodiwl sy'n helpu myfyrwyr sy'n cymryd o leiaf 30 credyd o fodiwlau Daearyddiaeth. Fe fydd yn sylfaen i gael arolygaeth glos a rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

Cynnwys

Cyfuna’r modiwl gyfrifoldebau bugeiliol a datblygiad personol y tiwtor personol gyda sgiliau astudio sy’n allweddol ar gyfer llwyddiant mewn addysg uwch. Mae’r deg sesiwn (sy’n cynnwys sesiynau tiwtor personol) yn ystyried y themâu canlynol:
• Gwerthuso ac adolygu adnoddau llyfrgell a dysgu;
• Ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd academaidd;
• Ymateb i adborth;
• Technegau adolygu;
• Technegau cyflwyno.

Caniateir trafod agweddau eraill o ddatblygiad personol - megis nodi gwasanaethau prifysgol a lleol, disgwyliadau a heriau bywyd prifysgol, rheolaeth amser ac adnoddau; myfyrio ar berfformiad academaidd, a chyflogadwyedd a dyheadau gyrfa - yn y sesiynau tiwtor personol penodedig.

Disgrifiad cryno

Y mae'r craidd mewn Daearyddiaeth yn cynnwys elfennau tiwtorial wedi’u hasesi, gyda thiwtoriaid personol academaidd yn arwain grwpiau bychain oddeutu pum myfyriwr. Datblygir sgiliau astudio a phersonol yn y modiwl hwn, gan archwilio dyheadau gyrfaol, a cheir trafodaethau academaidd yn seiliedig ar faes llafur a ddiffiniwyd. Asesir gwaith cwrs ar ddadleuon a themâu allweddol mewn daearyddiaeth, gan feithrin ystod o sgiliau academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys:
• Cynllunio gwaith a gosod targedau academaidd a phersonol;
• Defnyddio'r llyfrgell a chreu rhaglen ddarllen effeithiol; dulliau cymryd nodiadau, cydnabod ffynonellau a pharatoi llyfryddiaeth;
• Cywain, dadansoddi a dehongli data;
• Techneg ysgrifennu traethawd Daearyddiaeth a thechneg arholiad (caiff myfyrwyr eu cyflwyno i sgiliau ysgrifennu da a'r meini prawf a ddefnyddir wrth asesu gwaith ysgrifenedig);
• Gwerth adborth, a sut i ymateb iddo.

Asesir y modiwl drwy dri aseiniad: mae’r aseiniad cyntaf (1,500 gair, 40%) yn cynnwys traethawd (1,200 gair, 80%) a sylwebaeth yn nodi sut mae myfyrwyr wedi ymateb i adborth ffurfiadol (300 gair, 20%). Cyflwyniad sy’n bum munud o hyd yw’r ail aseiniad (20%), a thraethawd arall yw’r drydydd aseiniad (1,500 gair, 40%)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol, ac i gyflwyno ar lafar mewn modd clir a phroffesiynol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae materion cyflogadwyedd a datblygiad wedi eu hintegreiddio i’r modiwl drwy’r sesiynau tiwtora personol.
Datrys Problemau Ni thargedir hwn yn benodol
Gwaith Tim Er nad yw wedi’i hasesu, bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio fel tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth; asesa rhan o’r aseiniad gyntaf sut ymatebwyd i adborth.
Rhifedd Heb ei asesu’n uniongyrchol yn benodol yn y modiwl
Sgiliau pwnc penodol Targeda’r tair aseiniad dadleuon a themâu allweddol mewn
Sgiliau ymchwil Gofynnir i fyfyrwyr i ymchwilio a gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y gwaith cwrs
Technoleg Gwybodaeth Gofynnir i fyfyrwyr i ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer y ddau draethawd, ac meddalwedd cyflwyno ar gyfer y cyflwyniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4