Module Information

Cod y Modiwl
GW11220
Teitl y Modiwl
Defnyddio Syniadau Gwleidyddol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   [1x arholiad 2 awr]  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1,500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol i fyfyrwyr gwblhau'r modiwl dylent gallu trafod y canlynol mewn modd ddeallus a beirniadol:

- tarddiad y wladwriaeth a pherthynas y wladwriaeth a syniadau/arferion cysylltiedig megis sofraniaeth a chenedlaetholdeb;
- natur grym mewn gwleidyddiaeth gyfoes ac ymdrechion i ffrwyno a chyfeirio grym trwy ddulliau democrataidd;
- tarddiad cyfalafiaeth a dadleuon cyferbyniol parthed `naturioldeb? a chyfiawnder y gyfundrefn gyfalafol; a,
- y prif ddulliau astudio a ddefnyddir gan y sawl sy'n astudio gwleidyddiaeth.

Yn ogystal, trosgwlyddir nifer o sgiliau sylfaenol i fyfyrwyr er mwyn gwella eu gallu i astudio'r pynciau hyn ac i gyfathrebu ffrwyth eu gwaith.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r astudiaeth o wleidyddiaeth

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw annog myfyrwyr i bwyso a mesur gwahanol ddehongliadau o'r modd y dylai cymdeithas dda gael ei threfnu. Eir ati i wneud hynny trwy gyfrwng astudiaeth o rai o'r prif ideolegau gwleidyddol (rhyddfrydiaeth, sosialaeth, ceidwadaeth a chenedlaetholdeb) a hefyd i rai o'r prif gysyniadau gwleidyddol (e.e. grym, y wladwriaeth, democratiaeth a globaleiddio). Ymhellach, rhoddir sylw manwl i ddadleuon rhai o feddylwyr gwleidyddol pwysicaf y cyfnod modern.

Cynnwys

Ar ol trafod dehongliadau gwahanol o natur gweithgaredd gwleidyddol, bydd y modiwl yn mynd ati i ystyried arwyddocad y cysyniad o ideoleg. Yna ceir cyfres o ddarlithoedd a seminarau sy'n rhoi sylw i bedwar o'r prif ideolegau - rhyddfrydiaeth, sosialaeth, ceidwadaeth a chenedlaetholdeb. Yn dilyn hynny bydd rhan olaf y cwrs yn mynd ati i drafod cyfres o gysyniadau gwleidyddol allweddol, yn eu plith y wladwriaeth, sofraniaeth a democratiaeth. At ei gilydd, bydd y modiwl yn caniatau trafod cyson ynglyn a sut yn union y dylai cymdeithas dda gael ei threfnu ac yn helpu'r myfyrwyr i ddatblygu safbwyntiau personol mewn perthynas a themau tebyg i'r rhai a nodir yn yr adran Canlyniadau Dysgu.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu I ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Cant eu hannog i ennill gwybodaeth ac i'w gysylltu a thasgau penodol. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd a hunanreoli sylfaenol. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi. Byddant yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4