Module Information

Cod y Modiwl
GW39920
Teitl y Modiwl
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 16 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x Traethawd 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (1x arholiad 2 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1x arholiad 2 awr)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gwerthuso’n feirniadol yr anawsterau damcaniaethol a chysyniadol yn ymwneud ag astudio cenedlaetholdeb
2. Adolygu’n feirniadol y prif bersbectifau damcaniaethol ar darddiad cenhedloedd a chenedlaetholdeb
3. Cymhwyso persbectifau damcaniaethol gwahanol i faterion cyfoes yn ymwneud â threfniadau cenedlaetholdeb a hawliadau o genedligrwydd
4. Disgrifio, cymharu a dadansoddi nodweddion allweddol trefniadau cenedlaetholdeb mewn gwahanol leoliadau daearyddol
5. Dynodi a dadansoddi’r prif heriau a osodir gan globaleiddio ac integreiddio Ewropeaidd i ddealltwriaeth draddodiadol o’r ‘genedl’, ‘hunaniaeth genedlaethol’ a ‘dinasyddiaeth’
6. Dadansoddi’n feirniadol, drwy ddefnyddio deunyddiau cynradd, gwahanol ddisgwrs cenedlaethol a chysyniadau o’r genedl.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn deall y trafodaethau damcaniaethol allweddol ynghylch ffurfio, cyfansoddiad a swyddogaeth cenhedloedd mewn gwleidyddiaeth gyfoes. Caiff y ffyrdd mae cenedlaetholdeb wedi’i drefnu a sut mae hawliadau o genedligrwydd wedi digwydd mewn gwahanol gyd-destunau gwleidyddol eu harchwilio. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried goblygiadau globaleiddio ac integreiddio rhyngwladol i ffyrdd o ddeall hunaniaeth, tiriogaethedd ac awdurdod gwleidyddol.

Cynnwys

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Bydd y prif themau a gaiff eu cwmpasu yn ystod gwahanol rannau o’r modiwl yn cynnwys:
- Cysyniadau o genedl a chenedlaetholdeb
- Damcaniaethau cenedlaetholdeb
- Esboniadau o ymddangosiad cenedlaetholdeb fel ffenomen wleidyddol
- Gwahanol fathau o genhedloedd a chenedlaetholdeb yn ymarferol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn datblygu sgiliau i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn glir wrth ysgrifennu a siarad a byddant yn uniongyrchol am eu nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i destun, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno eu hasesiadau ysgrifenedig mewn fformat prosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith i sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynllunnir y modiwl hwn i fireinio a phrofi sgiliau fydd o fudd i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn benodol drwy siarad gyda grwpiau bach, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill. Ymhellach, bydd y gwaith ysgrifenedig yn gofyn bod myfyrwyr yn ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Caiff myfyrwyr eu hannog drwy gydol y modiwl i adfyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un nod canolog yn y modiwl; bydd cyflwyno traethawd yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd yr angen i ymchwilio a pharatoi at seminarau hefyd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau’n cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i’r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu’n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai o faint .
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarferion tîm yn y seminarau. I lawer o bynciau’r modiwl hwn, bydd y seminarau ar ffurf trafodaethau mewn grwpiau bach gyda myfyrwyr yn trafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon dosbarth hyn yn rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn caniatáu i’r myfyrwyr drin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hyrwyddo hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gynullydd y modiwl a myfyrwyr eraill. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd â’u hymchwil eu hunain ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu sut i ateb cwestiynau traethawd a asesir.
Rhifedd NA
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu a’i gilydd • Cymhwyso amrywiaeth o fethodolegau i broblemau gwleidyddol a chymdeithasol hanesyddol a chyfoes cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd, erthyglau cyfnodolion, cyhoeddiadau electronig yr UE, a ffynonellau newyddion ar-lein.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn cyfoethogi eu gallu i ddefnyddio Blackboard, lle bydd deunyddiau i gynorthwyo’r dysgu ar gael. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau i chwilio am, ac asesu dilysrwydd ffynonellau gwybodaeth ar-lein fel rhan o’r gwaith paratoi at ddarlithoedd, seminarau a thasgau a asesir. Caiff gwaith a asesir ei gyflwyno mewn fformat electronig, yn ôl disgwyliadau safonol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6