Module Information

Cod y Modiwl
HA21820
Teitl y Modiwl
Concro’r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 1 x Darlith 3 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x adroddiad 500 o eiriau  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  10%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,000 o eiriau  40%
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,000 o eiriau  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes gwladychiad ac imperialaeth yn eu cyd-destun hanesyddol Ewropeaidd ynghyd ag effaith y datblygiadau hyn ar gymdeithas Ewrop.

Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a’u defnyddio mewn modd gwrthrychol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod imperialaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol.

Casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.

Nod

Cynigir y modiwl hwn gan aelod o staff a gyflogir gan y Coleg Cenedlaethol i ddarparu modiwlau ar gyfer myfyrwyr hanes ym mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn cryfhau’r radd cyfrwng Cymraeg. Gan fod Dr Matthews wedi ei leoli yn Abertawe, gwneir defnydd o adnoddau dysgu arlein gan gynnwys gwefan adnoddau dysgu y Coleg Cenedlaethol, sef Y Porth. Y mae’r modiwl felly yn arloesol ar sawl cyfrif.
Nodau’r modiwl:
• I archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain.
• I ystyried effaith syniadau ymerodraethol ar diwylliant y gwledydd hyn.
• I archwilio’r cyfnod wedi’i Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau.

Disgrifiad cryno

n ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ledaenodd ymerodraethau Prydain a Ffrainc (a gwledydd eraill Ewrop) ar draws y byd. Erbyn dechrau’r Rhyfel Mawr roedd y rhan fwyaf o wledydd y byd yn rhan o ymerodraeth Ewropeaidd. I drigolion y gwledydd a feddai ar ymerodraeth (ac yn bennaf Prydain a Ffrainc) roedd mawredd eu hymerodraeth yn achos balchder, ac yn rhan bwysig o’u hunaniaeth. Fodd bynnag, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif fe ddatgymalwyd yr ymerodraethau mawr Ewropeaidd, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer cymdeithas a diwylliant ym Mhrydain a Ffrainc.
Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut treiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut oedd pobloedd ‘eraill’ yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio’r cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o’r syniadau a ddaeth yn eu sgîl yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-China ac Algeria.
Bydd y rhan fwyaf o’r darlithoedd a’r seminarau yn cael eu cynnal dros y cyswllt fideo (yn ystafell fideo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), ond bydd Dr Matthews yn ymweld ag Aberystwyth i gyfarfod â’r myfyrwyr yn gynnar yn y semester. Bydd recordiadau ar gael ar y Porth o bob darlith (naill ai recordiad o sesiwn 2016, neu recordiad o sesiwn 2017). Bydd deunydd paratoadol ar gyfer y seminarau ar gael ar y Porth, a disgwylir i’r myfyrwyr edrych ar y deunydd hwn yn eu hamser eu hunain cyn y sesiynau. Bydd angen elfen o oruchwyliaeth i sicrhau bod y myfyrwyr yn dilyn y cwrs darlithoedd a phenodir aelod o staff yn yr Adran yn Aberystwyth fel cyswllt ychwanegol ar gyfer y myfyrwyr.

Cynnwys

Rhoddir unarddeg o ddarlithoedd ar wefan Y Porth ar gyfer y myfyrwyr, gan eu rhyddhau fesul wythnos gan amlaf, ond ceir mwy o ddarlithoedd yn yr wythnos gyntaf er mwyn sicrhau cyflwyniad i’r modiwl a’i themâu. Cynhelir naw seminar yn ogystal fel a ganlyn:


• (Wythnos 1) Darlith 1 – Cyflwyniad i’r modiwl; cyflwr Ewrop ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Darlith 2 - Cymhlethdodau a thrafferthion astudio imperialaeth

• (Wythnos 2) Darlith 3 - Trosolwg o imperialaeth Brydeinig hyd at 1914
Seminar 1 - Rhesymau dros sefydlu Ymerodraeth; Safbwyntiau’r Cymry ar yr Ymerodraeth Brydeinig yn Oes Victoria

• (Wythnos 3) Darlith 4 - Trosolwg o Imperialaeth Ffrengig: Pam a sut y tyfodd ail ymerodraeth Ffrainc
Seminar 2 - Cymharu’r ymerodraethau ar y pryd; Ideoleg Imperialaidd mewn delweddau

• (Wythnos 4) Darlith 5 - Cyfalafiaeth; Cymunedau; Cristnogaeth;
Seminar 3 - Cymunedau Cymreig ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig; Cenhadon Cymreig


• (Wythnos 5) Darlith 6 - Ffrainc yn yr ymerodraeth, a’r ymerodraeth yn Ffrainc
Seminar 4 - Portreadu’r ymerodraeth a phobloedd brodorol

• (Wythnos 6) Darlith 7 - Ysgwyd cynseiliau ymerodraethau Prydain a Ffrainc: Dau Ryfel Byd a’r Dirwasgiad Mawr
Seminar 5 - Trafodaeth am yr Ymerodraeth yn y Gymraeg yn yr 20fed Ganrif

• (Wythnos 7) Darlith 8 - Dadwladychu Ffrengig – Fietnam ac Algeria
Seminar 6 - Trafodaeth o ymadawiad Ffrainc o Fietnam ac Algeria: Pam oedd dadwladychu Ffrengig mor boenus i Ffrainc?

• (Wythnos 8) Darlith 9 - O’r Ymerodraeth i’r Gymanwlad: Y broses o ganiatáu annibyniaeth i drefedigaethau Prydain
Seminar 7 - Cyflwyniadau o ddiwedd yr Ymerodraeth

• (Wythnos 9) Darlith 10 - Cofio’r Ymerodraeth ac olion antur imperialaidd Ffrainc / Prydain
Seminar 8 - Yr ymerodraeth heddiw
(Wythnos 10) Darlith 11 – Casgliad - gwrthgyferbyniad dwy ymerodraeth fawr
Seminar 9 – Casgliad – gwrthgyferbynnu dwy ymerodraeth fawr + adolygu



Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar, cyflwyniad llafar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud ag imperialiaeth a gwladychiad.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o’r Porth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5