Module Information

Cod y Modiwl
HA36620
Teitl y Modiwl
Menywod a’r Berthynas rhwng y Rhywiau ym Mhrydain, c.1800-1950
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 6 x 1 Hour Seminars
Darlith 20 x 1 Hour Lectures
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Disgrifio ac asesu bywydau a phrofiadau menywod yn ystod y cyfnod sydd dan sylw;

2. Dangos dealltwriaeth fanwl o’r newidiadau ym mherthynas y rhywiau ym Mhrydain fodern a’r gallu i ddadansoddi ac asesu’r rhesymau am y newidiadau hyn;

3. Lleoli profiadau cyfnewidiol menywod a pherthynasau rhwng y rhywiau yng nghefndir ehangach hanes cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol Prydain.

4. Datblygu’r gallu i bwyso a mesur cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol ac i’w herio lle bo’n briodol.

Nod

Mae’r modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy’r Gymraeg yn Rhan Dau. Cyflwynir y myfyrwyr i rai o brif brofiadau menywod ym Mhrydain fodern ac ystyrir syniadau pwysig ynglŷn â chysylltiadau’r rhywiau.

Disgrifiad cryno

Mae’r cwrs yn arolygu hanes menywod a’r berthynas rhwng y rhywiau ym Mhrydain yn ystod y cyfnod modern. Mae’n ystyried profiadau amrywiol a chyfnewidiol menywod mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, ac mae’n lleoli’r datblygiadau hyn yn hanes ehangach Ynysoedd Prydain. Ymhellach, mae’r cwrs yn archwilio’r diffiniadau rhyw cyfnewidiol a’u heffaith ar gysylltiadau’r rhywiau. Lleolir yr agweddau hyn o brofiadau menywod mewn fframwaith amseryddol sydd yn arolygu hanes menywod o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ddechrau’r Ail Ryfel Byd.

Cynnwys

Darlithiau:
1. Rhagarweiniad
2. Menywod cyn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
3. ‘Sfferau ar wahân’
4. Menywod a’r Chwyldro Diwydiannol
5. Menywod a Gwneuthuriad y Dosbarth Gweithiol
6. Menywod, Priodas a’r Teulu
7. Menywod a Dyngarwch
8. Y Mudiad Ffeministaidd Cynnar
9. Rhywioldeb Fictorianaidd
10. Menywod, Hil a’r Ymerodraeth
11. ‘Y Fenyw Newydd’ yn ystod y 1890au
12. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Ferched I
13. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Ferched II
14. Menywod a’r Rhyfel Byd Cyntaf
15. Gwaith menywod yn ystod yr Ugeinfed Ganrif
16. Ffeministiaeth Rhwng y Rhyfeloedd
17. Menywod a’r Ail Ryfel Byd
18. Menywod a’r Wladwriaeth Les

Seminarau:
1. Y cysyniad o sfferau ar wahân
2. Menywod a Gwleidyddiaeth yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
3. Puteindra
4. Menywod a phleidiau gwleidyddol, c.1880-1914
5. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Fenywod
6. Rhyfel a Newid Cymdeithasol yn ystod yr Ugeinfed Ganrif

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6