Module Information
Cod y Modiwl
BG32110
Teitl y Modiwl
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol, Iwerddon
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Taith Maes | 2 x Teithiau Maes 8 Awr |
Taith Maes | 4 x Teithiau Maes 9 Awr |
Seminar | 1 x Seminar 3 Awr |
Ymarferol | 6 x Sesiynau Ymarferol 4 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Gwaith cwrs 100% (adroddiadau ar brosiectau dosbarth a phrosiectau unigol, casgliad herbariwm, cyfres o brofion byr, cyflwyniad seminar ac asesiad o nodlyfr maes). Yr herbariwm ar nodlyfr maes i gael eu cyflwyno ar ddiwedd y cwrs. Adroddiadau prosiect i gael eu cyflwyn gyda sesiwn seminar yn mis Hydref erbyn dechrau semester 1. | 25% |
Asesiad Semester | Gwaith cwrs 100% (adroddiadau ar brosiectau dosbarth a phrosiectau unigol, casgliad herbariwm, cyfres o brofion byr, cyflwyniad seminar ac asesiad o nodlyfr maes). Yr herbariwm ar nodlyfr maes i gael eu cyflwyno ar ddiwedd y cwrs. Adroddiadau prosiect i gael eu cyflwyn gyda sesiwn seminar yn mis Hydref erbyn dechrau semester 1. | 25% |
Asesiad Semester | Gwaith cwrs 100% (adroddiadau ar brosiectau dosbarth a phrosiectau unigol, casgliad herbariwm, cyfres o brofion byr, cyflwyniad seminar ac asesiad o nodlyfr maes). Yr herbariwm ar nodlyfr maes i gael eu cyflwyno ar ddiwedd y cwrs. Adroddiadau prosiect i gael eu cyflwyn gyda sesiwn seminar yn mis Hydref erbyn dechrau semester 1. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd estynedig ac arholiad llafar. Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol dilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn gallu:
- gwahaniaethu rhwng prif gymunedau planhigol yr ardal.
- adnabod prif rywogaethau'r planhigion uwch, mwsoglau, cennau a ffyngau.
- deall rol anifeiliaid mewn rheoli tyfiant a dadelfeniad planhigion.
Nod
Prif amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr brif brosesau ecolegol planhigion, anifeiliaid a dadelfeniad o fewn cymunedau calchfaen ar y Burren. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried sut mae llystyfiant a phriddoedd wedi datblygu ers diwedd yr Oes Ia Dyfneintaidd, ryw 10,000 o flynyddoedd yn ol. Archwilir cymunedau planhigion ac anifeiliaid i weld sut y gellir ymestyn y system Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (National Vegetation Classification, NVC) ar gyfer Prydain Fawr i ddiffinio cymunedau planhigion yn Iwerddon. Archwilir nifer o fathau o olyniaeth ecolegol a chynhyrchir modelau i ddangos cydberthynasau rhwng y cymunedau gwahanol ac oddi mewn iddynt, yn ogystal a'r paramedrau microamgylcheddol cysylltiedig. Ystyrir hefyd y gwahanol ffyrdd y mae dulliau ffermio modern wedi newid y tirwedd, a'r strategaethau mwyaf priodol ar gyfer diogelu'r enghreifftiau gorau o dirweddau Gwyddelig goroesol ynghyd a'r hystod unigryw o gydberthynasau planhigol. Bydd casglu a dadansoddi data o'r maes, a'r cynnwys mewn cyfres o adroddiadau a fydd yn cael eu hasesu, yn rhan fawr o'r modiwl. Dysgir y modiwl yng Nghanolfan Maes Prifysgol Galway, Carron, Co. Clare.
Elfen fawr o'r modiwl fydd archwilio'r ffactorau hynny sy'r cyfyngu ar ledaeniad detholiad o blanhigion uwch, anifeiliaid, mwsoglau, cennau a ffyngau. Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth ar ffactorau microhinsoddol, priodweddau isbriddoedd a rhyngweithiadau troffig. Bydd yr olaf o'r rhain yn ymdrin a chystadleuaeth mewn perthynas a chystadleuaeth am olau, d'r a maetholion.
Elfen fawr o'r modiwl fydd archwilio'r ffactorau hynny sy'r cyfyngu ar ledaeniad detholiad o blanhigion uwch, anifeiliaid, mwsoglau, cennau a ffyngau. Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth ar ffactorau microhinsoddol, priodweddau isbriddoedd a rhyngweithiadau troffig. Bydd yr olaf o'r rhain yn ymdrin a chystadleuaeth mewn perthynas a chystadleuaeth am olau, d'r a maetholion.
Cynnwys
- Archwiliad o gymunedau planhigol y Burren gyda phwyslais ar gyfansoddiad ac ecoleg: a) cymunedau calchbalmant b) cymunedau celli c) cymunedau glaswelltir calchaidd, rhostir, hafn a chors;
- Astudiaeth ar gytrefu ac olyniaeth mewn celli ac ar galchbalmantau. Archwilir datblygiad cymunedau planhigol sy'r gysylltiedig a nodweddion ar y palmantau hyn (pyllau toddiad, pantiau, cornentydd, rhigolau a greiciau) mewn perthynas a ffactorau microdopograffigol a microhinsoddol. Bydd hyn yn cynnwys archwiliad o brif nodweddion morffolegol ac atgynhyrchiol y brif rywogaethau i ddarganfod sut y gallent fod yn dra addasedig i'r cynefinoedd.
- Cydberthynasau rhwng mathau gwahanol o briddoedd a chymunedau planhigion.
- Rol anifeiliaid mewn dadelfeniad a llysysoriaeth.
- Ecoleg ffyngau saprotroffig a mycorhisal.
- Materion cadwraeth a rheolaeth o fewn Parc Cenedlaethol y Burren.
- Cyflwyniad i micro-lysddaearyddiaeth.
- Prosiect ar gymuned neu fosaic llystyfiant penodol, neu gr'r penodol o blanhigion.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6