Module Information

Cod y Modiwl
CY11220
Teitl y Modiwl
Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  1500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 o eiriau  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr  

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos dealltwriaeth o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith);

dangos dealltwriaeth o brif fudiadau llenyddol y cyfnod fel yr amlygant eu hunain yng ngwaith llenorion y cyfnod: Moderniaeth, Ôl-foderniaeth, Dadeni’r Gynghanedd, Ffeminyddiaeth;

medru trafod detholiad o destunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yng nghyd-destun canon yr awdur, ynghyd â’u cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith), yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.

Nod

Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg, yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.

Cynnwys

Rhoddir sylw i ddetholiad o nofelau, straeon byrion a cherddi gan ystod o awduron.

Wythnos 1
Canu telynegol
John Morris-Jones – ‘Cwyn y Gwynt’
Crwys – ‘Y Border Bach’
Iorwerth C. Peate – ‘Y Gegin Gynt yn yr Amgueddfa Werin’

Wythnos 2
Saunders Lewis, Monica

Wythnos 3
Canu myfyriol
R. Williams Parry, ‘Adref’
Gwyn Thomas – ‘Croesi Traeth’
Steve Eaves, ‘Y Canol Llonydd Distaw’

Wythnos 4
Kate Roberts, Ffair Gaeaf a Storïau Eraill

Wythnos 5
Canu gwleidyddol
Gwenallt, ‘Rhydcymerau’
I. D. Hooson, ‘Y Pabi Coch’
Iwan Llwyd, ‘Iawn, gei di ofyn cwestiwn personol’

Wythnos 6
T.H. Parry-Williams: Ysgrifau

Wythnos 7
Canu ysgafn
Geraint Løvgreen, ‘Y Diwrnod Cyntaf’
Twm Morys, ‘Y Gwyddel Gwyn a Du’
Grahame Davies, ‘DIY’

Wythnos 8
Islwyn Ffowc Elis, Marwydos

Wythnos 9
Canu lle
T. Gwynn Jones, ‘Ystrad Fflur’
T. H. Parry-Williams, ‘Tŷ’r Ysgol’
Iwan Llwyd, ‘Far Rockaway’

Wythnos 10
Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4