Module Information

Cod y Modiwl
CY11320
Teitl y Modiwl
Cymraeg Ddoe a Heddiw
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad Semester 2  60%
Asesiad Semester Prosiect  Gosodir prosiect sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddadansoddi eu tafodiaith/idiolect eu hunain, gan roi sylw i gyweiriau iaith a’r ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar ein dull o ddefnyddio iaith.   40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Ailsefyll  60%
Asesiad Ailsefyll Gosodir prosiect sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddadansoddi eu tafodiaith/idiolect eu hunain, gan roi sylw i gyweiriau iaith a’r ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar ein dull o ddefnyddio iaith.   40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos dealltwriaeth o hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol a chymdeithaseg iaith.

Dangos dealltwriaeth o ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r famiaith Geltaidd, ei pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd ac Indo-Ewropeaidd eraill, Hen Gymraeg, Cymraeg Canol, a’r heriau mae’r Gymraeg yn ei hwynebu yn y cyfnod diweddar.

Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol tafodieitheg prif nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, ffactorau sy’n ymwneud â chymdeithaseg iaith sy’n effeithio ar hynt tafodieithoedd y Gymraeg

Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol astudiaethau enwau lleoedd, ac o’r elfennau mwyaf cyffredin a geir yn enwau lleoedd Cymru.

Dangos dealltwriaeth o’r heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu mewn perthynas â’r tafodieithoedd, enwau lleoedd, newidiadau demograffaidd, dylanwad y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Cwrs craidd sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol tafodieitheg, astudiaethau lleoedd, a chymdeithaseg iaith.

Nod

Cwrs craidd sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol tafodieitheg, astudiaethau lleoedd, a chymdeithaseg iaith.

Cynnwys

Cwrs craidd sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol tafodieitheg, astudiaethau enwau lleoedd a chymdeithaseg iaith. Ystyrir hefyd yr heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu. Bydd rhai sesiynau ar y tafodieithoedd ac enwau lleoedd yn cymryd ffurf Gweithdy.

1. Yr ieithoedd Celtaidd
2. Y Frythoneg a dylanwad Lladin
3. Datblygiad yr iaith c. 400‑800
4. Hen Gymraeg (1)
5. Hen Gymraeg (2)
6. Cymraeg Canol: rhagymadrodd
7. Cymraeg Canol: dylanwad Saesneg a Ffrangeg
8. Tafodieithoedd yn yr Oesoedd Canol
9. Syniadau canoloesol am yr iaith
10. Trosolwg
11. Ieithyddiaeth
12–17. Tafodieitheg a chymdeithaseg iaith
18–20: Astudiaethau Enwau Lleoedd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r pynciau a’r egwyddorion a drafodir.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y pynciau a chysyniadau allweddol y modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i deall a dadansoddi tafodieithoedd, enwau lleoledd, a ffurfiau hanesyddol ar yr yr iaith Gymraeg.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (prosiectau) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (prosiect a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4