Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 20 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Tasgau ysgrifenedig wythnosol 20 tasg ysgrifenedig | 35% |
Asesiad Semester | Prawf lafar (15 munud) Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt. | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Tasgau | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Prawf Llafar (15 munud) Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt. | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr | 35% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
ysgrifennu Cymraeg safonol a chywir.
ymgydnabod â rheolau gramadeg y Gymraeg.
allu esbonio gwallau iaith yn hyderus.
allu treiglo’n gywir.
allu defnyddio patrymau cystrawennol amrywiol.
adnabod mathau gwahanol o gymalau a’u defnyddio’n gywir mewn brawddegau.
defnyddio priod-ddulliau Cymraeg yn eu gwaith ysgrifenedig eu hunain.
wybod ystyr nifer o ddiarhebion Cymraeg a’u defnyddio’n naturiol mewn sgwrs ac ar bapur.
ymgydnabod â chywirdeb Cymraeg llafar a ffurfiol.
wybod sut i ddefnyddio cyweiriau’r iaith yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.
Nod
Darpara’r modiwl hwn sylfaen gref ar gyfer defnyddio’r iaith ysgrifenedig yn gywir i fyfyrwyr y mae’r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Gan eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd a pheth hyfforddiant gramadegol ar Lefel 1 a 2, bydd y modiwl hwn yn fwy ymestynnol am ei fod yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer y rhuglder a gafodd ei feithrin hyd at y flwyddyn olaf. Bydd modd iddynt ymarfer yr hyn a ddysgwyd o’r blaen drwy lunio darnau mewn Cymraeg llenyddol a ffurfiol.
Cynnwys
Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:
1. Orgraff
2. Cenedl Enwau
3. Treigladau
4. Cyweiriau’r iaith
5. Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith
6. Cystrawennau
7. Cymalau
8. Priod-ddulliau
9. Diarhebion Cymraeg
10. Cyfieithu
Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith. |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio. |
Gwaith Tim | Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6