Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 4 aseiniad unigol | 40% |
Asesiad Semester | Aseiniad i'w gwblhau yn y dosbarth | 40% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar ar bwnc perthnasol | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 4 aseiniad unigol | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad i'w gwblhau yn y dosbarth | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar ar bwnc perthnasol | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb mynegiant
Hunanwerthuso gan adnabod cryfderau ac anghenion wrth gwblhau tasgau ysgrifenedig
Gwella ansawdd a mireino mynegiant personol
Nod
Pwrpas y modiwl yw atgyfnerthu sgiliau iaith y myfyrwyr a rhoi cyfle iddynt ddatblygu mwy o hyder yn eu meistrolaeth o ramadeg y Gymraeg, a’u harfogi ymhellach i ddrafftio darnau ysgrifenedig cywir a sicrhau mynegiant llafar o’r safon uchaf. Bwriad y modiwl hefyd yw cynnig cefnogaeth ieithyddol ehangach i’r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi dilyn trywydd academaidd traddodiadol yn y Gymraeg.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn gosodir tasgau iaith heriol er mwyn cryfhau gafael y myfyrwyr ar yr iaith a’i chyweiriau. Canolbwyntir ar bwyntiau gramadegol ymestynnol sydd yn achosi trafferthion i nifer, a bwriedir dyfnhau dealltwriaeth y myfyrwyr o gywirdeb drwy gyfrwng sesiynau adolygu dwys.
Cynnwys
ii. Cynhelir sesiynau unigol ar-lein neu drwy rwydwaith fideo er mwyn trafod y tasgau iaith a osodir a chyflwyno adborth.
iii. Cynhelir 2 weithdy arall wyneb yn wyneb yn ystod y modiwl er mwyn dadansoddi gwallau, trafod gramadeg y frawddeg a thrafod nodweddion gwahanol lenddulliau. Bydd y sesiynau hyn hefyd yn cynnwys gwaith ehangach ar sgiliau prawfddarllen a golygu, a sgiliau cyflwyno.
iv. Cynhelir gweithdai amrywiol gan arbenigwyr iaith yn ymwneud â datblygu sgiliau hyfedredd yn yr iaith.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yn ystod y gweithdai ac wrth iddynt ymwneud â’r elfen paru a mentora. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar drwy gyfrwng y cyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y sesiynau unigol wyneb yn wyneb. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y gweithdai a’r sesiynau yn cynnig cyfle iddynt ystyried eu gyrfaoedd wrth iddynt wella eu sgiliau proffesiynol. Bydd y cyflwyniadau llafar hefyd yn gyfle iddynt ddatblygu sgiliau personol pellach ac ymgyfarwyddo â nodweddion gweithleoedd. |
Datrys Problemau | Disgwylir i’r myfyrwyr ddatrys problemau ieithyddol wrth gwblhau aseiniadau. Ceir cyfle hefyd yn ystod y gweithdai i ddangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddant hefyd yn trafod adborth ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Yn ystod y modiwl bydd y myfyrwyr yn derbyn adborth rheolaidd ar eu sgiliau ieithyddol ac o ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith er mwyn gwella eu perfformiad. Rhoddir pwyslais mawr ar ailddrafftio a thrafod anghenion penodol er mwyn gwella perfformiad a sicrhau cynnydd. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr iaith eraill |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir sgiliau iaith yn gyson drwy holl dasgau a nodweddion eraill y modiwl. Mae sicrhau iaith gyhyrog a chywir yn rhan greiddiol o ddatblygu sgiliau cyfieithu. |
Sgiliau ymchwil | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus wrth gywiro, golygu a phrawfddarllen. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar ieithyddol er mwyn cyflwyno aseiniadau. Bydd gofyn iddynt hefyd ddefnyddio meddalwedd cyflwyno megis PwerBwynt a Prezi. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7