Module Information

Cod y Modiwl
CYM6010
Teitl y Modiwl
Datblygu Sgiliau Cyfieithu (yn y Gweithle)
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll ymarferion cyfieithu a golygu  80%
Asesiad Semester cyflwyniad llafar ar bwnc penodol  5-10 munud o hyd  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar ar bwnc penodol  5-10 munud o hyd 
Asesiad Semester ymarferion cyfieithu a golygu  80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos dealltwriaeth o’r gwahanol gyd-destunau ar gyfer cyfieithu yng Nghymru gyfoes

Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ddamcaniaethau cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith yn ymarferol)

Adnabod gwahanol gyweiriau ac arddulliau ysgrifennu

Cymhwyso’r adnabyddiaeth o gyweiriau ac arddulliau ysgrifennu wrth fireinio eu sgiliau cyfieithu eu hunain

Gallu trafod gwaith amrywiol gyfieithwyr a deall y broses o olygu gwaith cyfieithu

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt, rhoddir cyflwyniad i ddamcaniaethau cyfieithu perthnasol a thrafodir gwahanol gyweiriau iaith a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyfieithydd proffesiynol. Mae gwedd ymarferol bwysig i’r modiwl hwn, gyda’r bwriad o baratoi gweithwyr ar gyfer gweithio mewn swyddi cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno gweithwyr i faes cyfieithu yn gyffredinol ac i waith y cyfieithydd proffesiynol yng Nghymru gyfoes, gan gynnig cyd-destun sylfaenol i’r maes.

Cynnwys

Bydd y sesiynau yn cynnwys gweithdai a fydd yn trafod yr elfennau canlynol:
i. Crefft y cyfieithydd

ii. Cyd-destunau cyfieithu

iii. Damcaniaethau Cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith mewn modd ymarferol)

iv. Hanes cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt.

v. Cyweiriau iaith.

vi. Mireinio sgiliau a thrafod gwaith cyfieithwyr.

vii. Adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau’r aseiniadau

i. Crefft y cyfieithydd

ii. Cyd-destunau cyfieithu

iii. Damcaniaethau Cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith mewn modd ymarferol)

iv. Hanes cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt.

v. Cyweiriau iaith.

vi. Mireinio sgiliau a thrafod gwaith cyfieithwyr.

vii. Adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau’r aseiniadau

Amserlen enghreifftiol

Diwrnod cyswllt 1

9.00 – 10.30 Croeso a sesiwn 1
Crefft y cyfieithydd

10.30 – 12.30 Sesiwn 2
Cyd-destunau cyfieithu - gweithdy

12.30 – 1.00 Cinio

1.00 – 3.00 Sesiwn 3
Damcaniaethau cyfieithu perthnasol, a’u rhoi ar waith

3.00 – 4.30 Sesiwn 4
Hanes Cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt.
Gwaith ymarferol - gweithdy

Diwrnod cyswllt 2

9.00 – 10.30 Croeso a sesiwn 1
Cyweiriau iaith - gweithdy

10.30 – 12.30 Sesiwn 2
Mireinio sgiliau a thrafod gwaith cyfieithwyr

12.30 – 1.00 Cinio

1.00 – 3.00 Sesiwn 3
Datblygu sgiliau cyfieithu - gweithdy

3.00 – 4.30 Sesiwn 4
Adolygu’r cynnwys a pharatoi ar gyfer aseiniadau

(Cyfanswm o 14 awr)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu yn gyson ac, ar sail adborth a gweithdai, yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau cyfieithu drwy wneud cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg mewn amrediad o gyweiriau gwahanol.
Datrys Problemau Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio mewn gwahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau) i darddiad a defnydd geirfa cyn dewis a dethol yn ddeallus pa eirfa a chyweiriau i’w defnyddio.
Gwaith Tim Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa ond ni fydd hyn yn cael ei asesu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi’r cyfieithiadau. Bydd y cyflwyniad llafar yn gwneud defnydd o Bwerbwynt neu Prezzie.
Rhifedd Ni chaiff gwybodaeth rifyddol y myfyriwr ei asesu yn y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau, ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp i gyd, ond ni fydd hyn yn cael ei asesu.
Sgiliau ymchwil Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg a chyweiriau i’w defnyddio a sut i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn y darnau prawf cyfieithu. Wrth drafod gwaith ei gilydd a chyfieithwyr eraill byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur ynghyd â gwerthuso a dod i gasgliadau clir ynghylch y defnydd o iaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7