Module Information

Cod y Modiwl
CYM6420
Teitl y Modiwl
Cyfieithu ar y Pryd : Arfer ac Ymarfer
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prawf Cyfieithu ar y Pryd 1 + 2  Prawf Cyfieithu 1 + 2 ar y pryd (o’r Gymraeg i’r Saesneg), 10 munud yr un.  60%
Asesiad Semester Adroddiad Adfyfyriol  1000 gair  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dadansoddi’n feirniadol rôl a swyddogaeth y cyfieithydd ar y pryd ac arddangos dealltwriaeth eglur o’r prif ddamcaniaethau ym maes cyfieithu ar y pryd;

2. Llefaru’n glir yn y cywair priodol a deall a dehongli’n gywir wrth gyfieithu ar y pryd;

3. Arddangos sgiliau ymchwil annibynnol ac amgyffred elfennau sylfaenol pwnc arbenigol/technegol a’r derminoleg berthnasol, yn ogystal â chasglu geirfa ddwyieithog ar gyfer y derminoleg honno;

4. Cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn nifer o gyd-destunau a genres gwahanol a gwerthuso eu gwaith eu hunain yn feirniadol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modwl yn adeiladu ar y sgiliau sydd eisoes wedi’u hennill wrth i fyfyrwyr ddilyn y modwl Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd. Yn y modwl hwn yn benodol, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd ymarferol i gyfieithu ar y pryd mewn cyd-destunau gwahanol ac i adfyfyrio ar eu perfformiad.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar ffurf dau ddiwrnod dwys, a bydd y sesiynau wyneb yn wyneb hynny yn cynnwys gweithdai yn ymwneud â’r canlynol:
hanes a theori cyfieithu ar y pryd
dadansoddi’r prif ddamcaniaethau rhyngwladol sy’n gyfoes ym maes cyfieithu ar lafar
• Trafod yr ystod o sgiliau sy’n angenrheidiol wrth gyfieithu ar y pryd yn effeithiol: cywair llais, stamina, rheoli goslef y llais, ynganu, strategaethau cynorthwyo’r cof, cymryd nodiadau, gwrando a siarad ar yr un pryd a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd.
• Ymgyfarwyddo ag adnoddau a fydd yn eu cynorthwyo wrth ymchwilio’n annibynnol i feysydd arbenigol wrth baratoi ar gyfer gwaith cyfieithu ar y pryd, e.e. ffynonellau electroneg, terminoleg a geirfa arbenigol. Canolbwyntir ar loywi Saesneg y myfyrwyr, siarad yn eglur a chyfieithu’n naturiol.
• Ymgyfarwyddo a defnyddio offer fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ymarfer y dechneg o gyfieithu ar y pryd, recordio eu cyfieithiadau a gwerthuso eu perfformiadau gyda thiwtoriaid profiadol. Bydd y myfyrwyr yn ymarfer cyfieithu’n olynol cyn mynd ati i ymarfer cyfieithu ar y pryd.
• Cyfieithu mewn nifer o gyd-destunau gwahanol gan edrych ar genres gwahanol (e.e. iaith busnes, hamdden, cyfarfodydd ffurfiol, darlithiau academaidd cyhoeddus, cyfieithu ym meysydd crefydd, gwleidyddiaeth a’r gyfraith). Anogir y myfyrwyr i werthuso eu gwaith eu hunain, yn ogystal â gwaith ei gilydd. Dadansoddir gwallau iaith ac awgrymir gwelliannau, yn ogystal â thrafod cryfderau a rhannu arfer da.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llafar – trwy drosi’r hyn a gyfathrebir mewn un iaith i iaith arall.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn.
Datrys Problemau Prosesu Gwybodaeth ac ystyried sut i’w throsi i iaith arall ar fyrfyfyr.
Gwaith Tim Ceir sefyllfaoedd torfol sy’n berthnasol i waith cyfieithydd ar y pryd er mwyn cynnig cyfleoedd gwella perfformiad ac ymarfer.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Cyfieithu ar y pryd trwy gyfres o dasgau gyda chyfle i wrando a myfyrio ar eu perfformiad ac ail recordio.
Rhifedd Rhaid trosi gwybodaeth rifyddol, all fod yn dechnegol ar adegau, o un iaith i iaith arall.
Sgiliau pwnc penodol Mae’n fodwl arbenigol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â throsi o un iaith sef y Gymraeg i iaith arall sef y Saesneg.
Sgiliau ymchwil Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir cyfrifiaduron a rhaglenni recordio cydnabyddedig ynghyd ag offer cyfieithu ar y pryd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7