Module Information

Cod y Modiwl
DA22100
Teitl y Modiwl
Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gyfun fel arfer
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Tiwtorial 22 x Tiwtorial 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 gair  30%
Asesiad Ailsefyll Cynnig traethawd hir/prosiect  1800 gair  40%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad llenyddiaeth  1500 gair  30%
Asesiad Semester Cynnig traethawd hir/ prosiect  1800 gair  40%
Asesiad Semester Adolygaid llenyddiaeth  Bydd myfyrwyr sy'n methu'r modiwl fel arfer yn cael ailsefyll, trwy ail-gyflwyno aseiniadau a fethwyd a/neu cyflwyno unrhyw aseniadau na chyflwynwyd.  1500 gair  30%
Asesiad Semester Traethawd  Dylai myfyrwyr nodi bod mynychu dosbarthiadau tiwtorial yn orfodol, yn ogystal a chyflwyno gwaith a osodir gan y tiwtor erbyn y dyddiad cau.  1500 gair  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Ysgrifennu mewn arddull academaidd.

2. Trafod llenyddiaeth gyfoes mewn Daearyddiaeth yn feirniadol.

3. Dangos gwybodaeth o ddatblygiad Daearyddiaeth dros y degawdau diwethaf.

4. Trafod a dadansoddi’r defnydd o safbwyntiau damcaniaethol gwahanol o fewn Daearyddiaeth.

5. Adnabod problem neu bwnc ymchwil a dylunio strategaeth ymchwil briodol.

6. Dangos gwerthfawrogiad o natur a defnydd priodol o wahanol strategaethau methodolegol mewn Daearyddiaeth.

7. Dangos ymwybyddiaeth o faterion moesegol mewn ymchwil Daearyddiaeth.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n dilyn cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl, Prif Bwnc a Chyfun mewn Daearyddiaeth. Ni all myfyrwyr eraill ei gymryd ond trwy drefniant arbennig gyda Chydgysylltydd y Modiwl. Y mae'n fodiwl sy'n darparu sail i gyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.

Y mae iddo bedwar nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell o gyswllt clos, fe fydd yn ymdrin â phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar feysydd trafod cyfoes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a/ neu Ddaearyddiaeth Ddynol. Yn drydydd, bydd yn datblygu sgiliau ymchwil drwy adnabod blychau llunio cwestiynau ymchwil, a dylunio strategaethau ymchwil. Yn olaf, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithiol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.

Mae Tiwtorial yr Ail Flwyddyn yn ymdrin â’r sgiliau astudio canlynol:
Gwaith prosiect/traethawd hir [gan gynnwys dylunio /llunio problem ymchwil; ffynonellau data a thechnegau; llunio llyfryddiaeth; technegau ysgrifennu adroddiadau]
Cyflwyniadau llafar
Cyngor a hunanasesu gyrfaol
Damcaniaethau daearyddol: gofodol/integredig/ecolegol/systemig/gwerthusol

Asesir y modiwl drwy dair elfen: traethawd (1,500 gair, 30%); adolygiad llenyddiaeth (1,500 gair, 30%); a chynnig traethawd hir/prosiect cydanrhydedd (1,800 gair, 40%).

Nod

• Datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad myfyrwyr o Ddaearyddiaeth fel disgyblaeth academaidd cyfoes a'i esblygiad hanesyddol
• Meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o faterion damcaniaethol a methodolegol mewn Daearyddiaeth
• Datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol ac ysgrifennu academaidd myfyrwyr
• I gefnogi paratoadau myfyrwyr ar gyfer y Traethawd Hir neu Brosiect Prif Bwnc / Anrhydedd Gyfun
• Darparu cymorth ar gyfer modiwlau craidd mewn Daearyddiaeth
• Datblygu sgiliau astudio myfyrwyr
• Datblygu sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr

Cynnwys

Cyfuna’r modiwl gyfrifoldebau bugeiliol a datblygiad personol y tiwtor personol gyda sgiliau astudio sy’n allweddol ar gyfer llwyddiant mewn addysg uwch. Mae’r deg sesiwn (sy’n cynnwys sesiynau tiwtor personol) yn ystyried y themâu canlynol:
• Crynhoi a chyfosod llenyddiaeth academaidd;
• Llunio a chefnogi dadleuon;
• Dadleuon a seiliau deallusol i ddaearyddiaeth ffisegol a/neu ddaearyddiaeth ddynol;
• Technegau adolygu;
• Llunio Cwestiynau ymchwil
• Moeseg a diogelwch mewn gwaith maes;
• Technegau cyflwyno.

Caniateir trafod agweddau eraill o ddatblygiad personol - megis nodi gwasanaethau prifysgol a lleol, disgwyliadau a heriau bywyd prifysgol, rheolaeth amser ac adnoddau; myfyrio ar berfformiad academaidd, a chyflogadwyedd a dyheadau gyrfa - yn y sesiynau tiwtor personol penodedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae materion cyflogadwyedd a datblygiad wedi eu hintegreiddio i’r modiwl drwy’r sesiynau tiwtora personol.
Datrys Problemau Gofynnir i fyfyrwyr adnabod problem ymchwil ac i lunio strategaeth ymchwil
Gwaith Tim Er nad yw wedi’i hasesu, bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio fel tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth; asesa rhan o’r aseiniad gyntaf sut ymatebwyd i adborth.
Rhifedd Heb ei asesu’n uniongyrchol yn benodol yn y modiwl
Sgiliau pwnc penodol Targeda’r tair aseiniad dadleuon a themâu allweddol mewn daearyddiaeth.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i fyfyrwyr i ymchwilio a gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y gwaith cwrs
Technoleg Gwybodaeth Gofynnir i fyfyrwyr i ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer y gwaith cwrs.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5