Module Information

Cod y Modiwl
DA28610
Teitl y Modiwl
Cyfathrebu Cymdeithas a Gwyddor
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
Gweithdy 1 x Gweithdy 1 Awr
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 2 Awr
Seminar 7 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ffilm 5 munud o hyd mewn arddull dogfen  Ffilm 5-munud o hyd mewn arddull dogfen, wedi ei gynhyrchu mewn grwp  40%
Asesiad Semester Myfyrdod unigol, 500 gair  Myfyrdod unigol ar yr hyn a ddysgwyd, 1, 500-gair  30%
Asesiad Semester Poster  Poster addysgiadol academaidd ar gyfer plant ysgol, syn cyd-fynd ar ffilm, wedi ei gynhyrchu mewn grwp  30%
Asesiad Ailsefyll Bwrdd stori ar gyfer y ffilm  Bwrdd stori unigol ar gyfer y ffilm mewn arddull dogfen  Os methir y modiwl, bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen sydd a marc syn gyfatebol a marc syn methu, ond gydar dewis o ailsefyll pob elfen. Defnyddir theitlau newydd ar gyfer y traethawd.  40%
Asesiad Ailsefyll Myfyrdod unigol, 500 gair  Myfyrdod unigol ar yr hyn a ddysgwyd  Os methir y modiwl, bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen sydd a marc syn gyfatebol a marc syn methu, ond gydar dewis o ailsefyll pob elfen. Defnyddir theitlau newydd ar gyfer y traethawd.  30%
Asesiad Ailsefyll Poster  Poster addysgiadol academaidd ar gyfer plant ysgol, syn cyd-fynd ar ffilm, wedi ei gynhyrchun unigol  Os methir y modiwl, bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen sydd a marc syn gyfatebol a marc syn methu, ond gydar dewis o ailsefyll pob elfen. Defnyddir theitlau newydd ar gyfer y traethawd.  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod testun daearyddol gwyddonol a/neu gymdeithasegol allweddol, a dangos ei bwysigrwydd y tu allan i'r academi.

Cynhyrchu deunydd sy'n cyfathrebu materion cymdeithasegol a/neu wyddonol allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.

Gweithio mewn tim i gynhyrchu ffilm a phoster proffesiynol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.

Ymdrin yn feirniadol ag ystod o ffynonellau a thestunau, a'u hymgorffori mewn i gyfryngau penodol.

Dangos tystiolaeth amlwg o ymchwil estynedig o amgylch pynciau llosg yn naearyddiaeth ddynol a/neu ffisegol.

Disgrifiad cryno

Cyflwyna'r modiwl hanfodion cyfathrebu gwybodaeth gymdeithasegol a /neu wyddonol at gynulleidfaoedd ehangach i'r myfyrwyr, gan godi cwestiynau am yr academi gyhoeddus. Cychwynna'r modiwl drwy astudio cwestiynau am berthnasedd, a sut ceisiwyd ateb y cwestiynau hyn gan ysgolheigion drwy nodi eu heffeithiau trawiadol ar gymdeithas. Ystyria Rhan B ystod o ffilmiau y gall myfyrwyr ddefnyddio ar gyfer u prosiectau ffilm. Agweddau allweddol o gyfathrebu yw ffocws Rhan C, sy'n manylu ar farchnata a theilwra negeseuon ar gyfer cynulleidfaoedd. Myfyria'r rhan olaf ar gyflogadwyedd myfyrwyr, sut gallant hyrwyddo'u hunain, a datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy.

Er mwyn cyfarwyddo myfyrwyr ag arferion a thechnolegau cynhyrchu ffilmiau, cyflwyna'r sesiynau cynnar y cysyniadau hyn. Cyflwyna sesiwn 2 egwyddorion cynhyrchu ffilmiau i'r myfyrwyr, tra rhoddir cyfle iddynt gyfrannau syniadau am gynhyrchu ffilm fer a derbyn adborth arno yn sesiwn 3. Nod sesiynau 10 ac 11 yw darparu adborth oddi wrth gyd-fyfyrwyr, a 'pitshio' syniadau am ffilm derfynol sy'n ymateb i'r adborth hwn. Cynhelir gweithdy terfynol yn sesiwn 15 er mwyn ateb cwestiynau myfyrwyr am gynhyrchu ffilmiau yn sesiwn 15. Dangosir ac asesir y ffilmiau byrion yn y sesiwn olaf.

Cynnwys

Rhan A - 'Nid byd, byd heb wybodaeth'? Prifysgolion, cymdeithas a chyfathrebu?

1 - Cyflwyniad
2 - Gweithdy cynhyrchu fideo
3 - Sesiwn cynnig syniadau ffurfiadol
4 - Tu hwnt i'r academi 1: dulliau traddodiadol
5 - Tu hwnt i'r academi 2: technoleg a pherfformiad

Rhan B - Cyfathrebu data

6 - Ffynonellau hanesyddol
7 - Ffynonellau ystadegol
8 - Polisi a deddfwriaeth
9 - Cyfweliadau a hanesion llafar
10 - Gweithdy adborth ffurfiadol
11 - Sesiwn cynnig syniadau/ymateb i adborth terfynnol

Rhan C - Sgiliau cyfathrebu

12 - Ysgrifennu datganiad i'r wasg
13 - Adnabod cynulleidfa
14 - Cyfathrebu data: ystadegau, ddiagramau, a modeli
15 - Sesiwn Q+A

Rhan Ch - Casgliadau a gwerthuso
16 - Cyflogadwyedd a hyrwyddo'ch hun
17 - Myfyrdod: cyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy
18 - Sesiwn gwylio'r ffilmiau - Canolfan y Celfyddydau gyda'r nos?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblyga'r modiwl sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y modiwl drwy'r myfyrdodau dysgu a'r posteri; asesir sgiliau cyfathrebu ar-lafar drwy'r ffilmiau byrion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynorthwya'r modiwl i fyfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Trafoda'r cwrs yn benodol themâu a fydd o fudd mawr i'r rhai sydd am gyrfa tu allan i'r academi. Asesir hyn drwy'r myfyrdod ar yr hyn a ddysgwyd
Datrys Problemau Datblyga'r modiwl sgiliau datrys problemau mewn nifer o ffyrdd. Gofynnir i fyfyrwyr i ddadansoddi ffynonellau a thestunau, a’u chyfathrebu at gynulleidfaoedd penodol. Bydd rhaid i fyfyrwyr ymdrin a phroblemau dylunio ffilm drwy gynhyrhu'r ffilm fer a asesir. Mae'n bosib y bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau tasgau datrys problemau yn ystod y darlithoedd a'r gweithdai.
Gwaith Tim Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio mewn tîm er mwyn cynhyrchu'r ffilm a'r poster. Mae'n bosib y bydd cyfleodd pellach i gyd-weithio mewn gweithgareddau datrys problemau mewn darlithoedd.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy fynychu a chyfrannu yn y darlithoedd, a chwblhau ystod o asesiadau, fe ddatblygir ystod o sgiliau dysgu.
Rhifedd Ni ddatblygir hwn yn benodol gan y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Mae'r modiwl yn caniatáu’r myfyrwyr i ddatblygu ac arfer sgiliau sy'n benodol i'r ddisgyblaeth y byddant wedi meithrin ym mlwyddyn gyntaf y cwrs ac ym modiwlau cydamserol yr ail flwyddyn, gan gynnwys technegau dadansoddi testunau academaidd, a phynciau llosg yn naearyddiaeth ddynol a/neu ffisegol. Datblygir sgiliau dadansoddi myfyrwyr drwy'r gwaith cwrs a asesir, ac o bosib mewn trafodaethau yn y dosbarth.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr i ymchwilio a syntheseiddio ystod o ffynonellau academaidd wrth baratoi eu hasesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Gofynna'r asesiadau i fyfyrwyr i wneud gwaith ymchwil annibynnol drwy ddefnyddio peiriannau chwilio llyfrgelloedd a llyfryddiaeth. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr i finio'u sgiliau ymchwilio ac ymarfer eu sgiliau TG drwy ysgrifennu'r myfyrdodau dysgu. Bydd defnyddio technolegau golygu hefyd yn datblygu sgiliau TG.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5