Module Information

Cod y Modiwl
DAM3560
Teitl y Modiwl
Traethawd Hir Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd Hir rhwng 13,000-15,000 gair  100%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar 15 munud i cyflwyno eu traethawd hir  10%
Asesiad Semester 1 x Traethawd Hir rhwng 13,000-15,000 gair  90%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos arbenigedd ymchwil yn eu disgyblaeth academaidd neu faes astudaieth
2. Cynllunio, dylunio a gweithredu darn o waith ymchwil neu ymchwiliad hanesyddol, daearyddol neu wleidyddol.
3. Cynhyrchu traethawd hir ysgrifenedig sylweddol mewn arddull academaidd briodol sy’n amlygu sgiliau beirniadol a dadansoddol
4. Arddangos ymwneud systematig gyda dadleuon allweddol sy’n berthnasol i’r pwnc a ddewiswyd
5. Cyflwyno’r canfyddiadau ymchwil mewn dull proffesiynol o ran cyflwyniad a chyfeirnodi

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn ymwneud gyda ymchwilio a chyflwyno’r traethawd hir MA, darn o waith ymchwil annibynnol rhwng 13,000 a 15,000 mil o hyd wedi ei oruchwylio gan aelod penodol o staff o un o’r adrannau canlynol o fewn Athrofa ADGHS: Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Hanes a Hanes Cymru.

Cynnwys

Cyfanswm o 5 cyfarfod 30 munud o hyd gydag aelod o staff a chynhadledd traethawd hir.

Semester 1: dau gyfarfod
Cyfarfod 1: gyda goruchwylydd arfaethedig a/neu y cydlynydd MA i adnabod pwnc dilys a goruchwylydd.
Cyfarfod 2: i drafod paratoi cynnig traethawd hir (i’w gwblhau fel rhan o’r asesiad ar HYM0120 neu GGM1220)

Semester 2: 3 chyfarfod gyda’r goruchwylydd traethawd hir, gan gynnwys cyfarfod i drafod adborth ar y cynnig traethawd hir, ar eu cyflwyniad yn y Fforwm Traethawd Hir, ac adborth ar bennod ddrafft.
y Fforwm Traethawd Hir (ym mis Chwefror neu fis Mawrth) – ble bydd myfyrwyr yn gwneud cyflwyniad llafar ar eu cynlluniau traethawd hir ac a gaiff ei asesu fel rhan o’r modiwl hwn. Bydd y Fforwm yn gyfle i ystyried gwahanol fathau o brosiectau yn ymwneud â Chymru, y mathau o ffynonellau, methodolegau a pherspectifau y gellir eu defnyddio. Bydd staff o’r tair adran yn mynychu’r fforwm gan arwain at drafodaethau ar wahanol safbwyntiau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7