Module Information
			 Cod y Modiwl
		
FG34410
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Addysgu Ffiseg drwy brofiad gwaith mewn ysgol
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2018/2019
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Ar gael yn semester 1 a 2
Rhagofynion
 PH22510
 
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlith | 2 x Darlithoedd 4 Awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Dyddiadur/log o weithgaredd y myfyriwr yn ystod y profiad gwaith | 30% | 
| Asesiad Semester | Tasg benodol o baratoi deunydd sy'n atgyfnerthu addysgu Ffiseg | 40% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig gan fentor (athro) | 30% | 
| Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
 1. Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion addysgu ffiseg mewn ysgol.
 2. Arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfathrebu ac arddangos cysyniadau ffiseg ar lefel addas i blant ysgol. 
 3. Crynhoi gweithgareddau addysgu yn ystod cyfnod y profiad mewn dyddiadur/log a gwerthuso yn feirniadol y datblygiad yn eu gweithgareddau. 
 4. Llunio tasg benodol wedi'i hanelu at gefnogi addysgu. 
 5. Datblygu ymwybyddiaeth gadarn o bwysigrwydd addysg STEM a'r heriau cysylltiedig. 
 
 
Disgrifiad cryno
 
 Ar gyfer y modiwl, bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ffurfiol cyn y profiad mewn ysgol. Yn yr ysgol disgwylir i fyfyrwyr gyflawni gweithgareddau arsylwi yn bennaf, ac yna symud ymlaen at gynorthwyo gyda gweithgareddau addysgu graddfa fach.
Mae'n ofynnol i'r myfyriwr gael gwiriad llawn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac i'r ysgol gadarnhau y lleoliad gwaith. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb yn y modiwl gysylltu â'r cydlynydd Dysgu ac Addysgu Ffiseg i gael caniatad i gofrestru ar y modiwl.
 
 
Mae'n ofynnol i'r myfyriwr gael gwiriad llawn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac i'r ysgol gadarnhau y lleoliad gwaith. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb yn y modiwl gysylltu â'r cydlynydd Dysgu ac Addysgu Ffiseg i gael caniatad i gofrestru ar y modiwl.
Nod
 
 Mae'r modiwl ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn addysgu, ac yn dymuno cael profiad o leoliad gwaith mewn ysgol leol. Drwy'r profiad gwaith, gydag athro yn fentor, bydd y myfyriwr yn arsylwi a chynorthwyo gyda rhai o'r gweithgareddau.
 
 
 
Cynnwys
 
 Caiff y myfyrwyr:
 
hyfforddiant cychwynnol,
brofiad gwaith mewn ysgol: 10 hanner diwrnod o dan oruchwyliaeth athro,
arsylwi, goruchwylio ac yna gweithgareddau addysgu graddfa fach e.e. cymorth i ddeall testunau yn y pwnc / taflenni enghreifftiau pynciol.
 
 
hyfforddiant cychwynnol,
brofiad gwaith mewn ysgol: 10 hanner diwrnod o dan oruchwyliaeth athro,
arsylwi, goruchwylio ac yna gweithgareddau addysgu graddfa fach e.e. cymorth i ddeall testunau yn y pwnc / taflenni enghreifftiau pynciol.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy'r aseiniadau. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae gan y modiwl, sydd wedi ei seilio ar brofiad yn y gweithle, olwg benodol ar gynllunio ar gyfer gyrfa. | 
| Datrys Problemau | Mae'r sgil o ddatrys problemau yn ganolog mewn Ffiseg ac yn hanfodol ar lefel addysgu mewn ysgol. | 
| Gwaith Tim | Bydd angen rhyngweithio gyda disgyblion ac athrawon. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd yr aseiniadau, profiad a'r adborth yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu perfformiad. | 
| Rhifedd | Mae cwestiynau yn y pwnc yn cynnwys problemau rhifyddol. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen i'r myfyrwyr ymchwilio'r wybodaeth ar y pwnc, gan ddefnyddio deunydd llyfrgell a'r rhyngrwyd. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio testunau perthnasol gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
