Module Information

Cod y Modiwl
FG37540
Teitl y Modiwl
Prosiect (40 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
PH25520 neu FG25520.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 4 x Gweithdai 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Arolwg Llenyddiaeth (Semester 1)  15%
Asesiad Semester Chwiliad llenyddiaeth (Semester 1)  5%
Asesiad Semester Cynllun Prosiect (Semester 1)  5%
Asesiad Semester Adroddiad Terfynol (Semester 2)  45%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (Semester 2)  15%
Asesiad Semester Marc cynnydd (Semester 2)  10%
Asesiad Semester Canlyniadau Cychwynnol (Semester 2)  5%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg.
2. Adnabod, ac adolygu'n feirniadol llenyddiaeth wyddonol mewn maes dewisol.
3. Llunio cynllun prosiect a'i weithredu ar sail dealltwriaeth dda o'r ffiseg dan sylw ac o'r llenyddiaeth cefndir.
4. Adnabod adnoddau i ymgymryd â phrosiect gwyddonol.
5. Crynhoi eu canfyddiadau mewn adroddiad cynhwysfawr.
6. Cyflwyno ac amddiffyn y gwaith ar lafar.

Nod

Mae'r myfyrwyr yn dysgu i ymchwilio problem wyddonol neilltuol o'u dewis mewn dyfnder, gan wneud defnydd llawn o'r llenyddiaeth wyddonol. Maent yn gyfrifol am gynllunio a rheoli eu prosiect, a byddant yn defnyddio dulliau cyffredin o gyflwyno eu canlyniadau gwyddonol i'r gymuned ar ffurf adroddiadau llafar ac ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn ar darparu prosiect blwyddyn olaf i fyfyrwyr BSc a phrosiect canolradd i fyfyrwyr MPhys. Bydd yr holl fyfyrwyr yn ymgymryd a phrosiect a byddant yn gweithio mewn parau dan gyfarwyddyd eu goruchwylydd prosiect personol, ac yn cyflwyno eu canlyniadau mewn cyflwyniad llafar ac adroddiad prosiect terfynol unigol. Bydd goruchwylydd neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r Cynllun Prosiect a'r Cyflwyniad Llafar yn Gymraeg. Cynlluniwyd nifer o gerrig milltir (strategaeth chwilio llenyddiaeth, adolygiad llenyddiaeth llawn, cynllun prosiect a dogfen canlyniadau rhagarweiniol) i gadw ffocws y prosiect ac i sicrhau bod y baich gwaith yn cael ei ddosbarthu'n weddol hafal drwy'r flwyddyn. Mae prosiectau gwahanol angen pwysiad gwahanol o waith labordy, cyfrifiaduro, dadansoddi, a.y.b., ond fel canllaw dylai'r cyfanswm amser ar y prosiect fod yn 400 awr.

Cynnwys

Cyfnod chwiliad y llenyddiaeth (chwiliad llenyddiaeth ac adolygiad)
Cyfnod cynllunio (cynllun prosiect, adnoddau)
Cyfnod arbrofol (gwaith arbrofol, dogfen canlyniadau rhagarweiniol)
Cyfnod lledaenu (cyflwyniad llafar, adroddiad llafar)

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6