Module Information

Cod y Modiwl
GF34500
Teitl y Modiwl
Cyfraith Gyhoeddus
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Rhagofynion
LA15710 neu GF14230 neu LA14230 neu LA34230 neu GF14720 neu LA14720 neu GF34720 neu LA34720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 46 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 6 x Seminarau 1 Awr
Gweithdy 2 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Exam  67%
Asesiad Semester Essay (2000 words)  33%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Exam  67%
Asesiad Ailsefyll Essay (2000 words)  33%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro sut y mae trefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod cynigion ar gyfer diwygio;
2. Dadansoddi'r drefn bresennol a gwerthuso'r cryfderau a'r gwendidau;
3. Trafod deunyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddiadol;
4. Adnabod problemau yn y drefn gyfansoddiadol a defnyddio eu gwybodaeth ar gyfer awgrymu atebion posibl (er enghraifft, gan gyfeirio at ddeunyddiau cymharol);
5. Addasu egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd o ffaith er mwyn awgrymu atebion posibl i achosion;
6. Adnabod a gwerthfawrogi'r goblygiadau i gyfraith gyfansoddiadol ddatblygiadau cyffredinol cyfraith a gwleidyddiaeth, a dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaidd / ryngwladol yn ogystal a'r rhyngweithio rhwng elfennau canolog a datganoledig y cyfansoddiad.
7. Dangos gwybodaeth o reoliad gweithgareddau gweinyddol ym Mhrydain a medru dadansoddi deddfwriaeth ac achosion allweddol.
8. Dangos dealltwriaeth o ffactorau cyd-destunol, megis y ddeinameg wleidyddol sy'n ffurfio rol a phwerau cyfreithiol y pwyllgor gwaith.
9. Dangos dealltwriaeth o'r proses adolygu barnwrol a'i ganlyniadau.

Disgrifiad cryno

Yn gonfensiynol, rhennir cyfraith gyhoeddus yn gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith weinyddol. Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol am nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Themâu pwysig y cwrs yw a yw hynny yn cael effaith yn ymarferol a'r ffordd y mae'r Cyfansoddiad wedi addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae'r hyn y mae yn ei olygu, pam ei fod felly ac a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol ymhlith y cwestiynau y byddwn yn edrych arnynt yn y cwrs hwn sy'n ceisio cyflwyno myfyrwyr i astudio cyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol ac i athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn arbennig. Mae cyfraith weinyddol yn ymwneud ag arfer grym y wlad, ac effaith gweithgareddau'r llywodraeth ar y dinesydd yn cynnwys addysg, rhedeg ein carchardai, cynllunio, trafnidiaeth, system budd-daliadau lles a llawer mwy.

Cynnwys

1. Cyflwyniad cyffredinol i gyfraith gyfansoddiadol: cyfansoddiadau yn gyffredinol; gwahanol fathau o gyfansoddiad; statws cyfraith gyfansoddiadol mewn perthynas â chyfreithiau eraill y wlad; darllen ac ysgrifennu cyfansoddiadau.
2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain: ffynonellau cyfreithiol cyfansoddiad y DU - prif ddeddfwriaethau a deddfwriaeth eilaidd; pwerau uchelfreiniol, cyfraith gwlad; lle cyfraith yr UE a chyfraith ryngwladol yn system y DU. Ffynonellau anghyfreithiol y cyfansoddiad - confensiynau cyfansoddiadol, ffurfio, adnabod a chodeiddio posibl.
3. Athrawiaeth Sofraniaeth Seneddol - ystyr ac arwyddocâd athrawiaeth glasurol Sofraniaeth Seneddol; Sofraniaeth Seneddol yng nghyd-destun Cyfansoddiad cyfoes y DU a'i ddatblygiad, yn cynnwys ystyried effaith ymaelodi â'r UE ar yr athrawiaeth o Sofraniaeth Seneddol.
4. Rheol y gyfraith - arwyddocâd ac ystyr Rheol y Gyfraith; Rheol y Gyfraith yng Nghyfansoddiad cyfoes y DU a'i ddatblygiad.
5. Gwahaniad pwerau - ystyr ac arwyddocâd yr egwyddor o wahanu pwerau; gwahanu pwerau a'i rôl yng Nghyfansoddiad y DU.
6. Strwythur tiriogaethol y Deyrnas Unedig a datganoli - cyflwyniad i ffurfiant y DU; deddfau perthnasol a therminoleg gyfreithiol; pynciau cyffredinol ynghylch rhannu pwer yn wledydd; datganoli yn y DU - sefydliadau a phwerau; nodweddion ffederal ac unedol gwladwriaethau.
7. Sefydliadau a phrosesau deddfu - sefydliadau deddfu; pwerau a phrosesau deddfu; craffu ar y broses ddeddfu.
8. Pwerau gweithredol ac atebolrwydd - Sefydliadau gweithredol; Pwer uchelfreiniol a galluoedd neilltuedig; systemau ar gyfer sicrhau atebolrwydd am weithredu gweithredol.
9. Amddiffyn hawliau dynol yn y Deyrnas Unedig - pynciau cyffredinol yn ymwneud ag amddiffyn hawliau mewn cyfansoddiadau - cynnwys a statws hawliau, amddiffyniadau hawliau dynol; y drefn yn y DU cyn Deddf Hawliau Dynol 1998; cynnwys a statws Deddf Hawliau Dynol 1998; dadlau parhaus ynghylch newid.
10. Natur a phwrpas cyfraith weinyddol - adnabod swyddogaethau amrywiol cyfraith weinyddol.
11. Y wladwriaeth weinyddol fodern - gyrru'r ffiniau yn ôl a thwf Rheolaeth Newydd y Cyhoedd - moderneiddio'r Wladwriaeth Les; preifateiddio - creu asiantaethau, gosod gwaith ar gytundeb.
12. Cyflwyniad i adolygu barnwrol - sail gyfreithiol y drefn adolygu barnwrol; pa ddeddfau y gellir eu herio - pwy all wneud cais am hawliad a phryd y gellir eithrio adolygu barnwrol; unioni
13. Mecanweithiau cwyno nad ydynt yn farnwrol - system yr Ombwdsmon - cyflwyniad i system ombwdsmon y sector cyhoeddus.
14. Rôl llywodraeth leol - beth yw llywodraeth leol a beth mae'n ei wneud?; y newid o 'ddarparwr' gwasanaethau i 'hwylusydd'.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Paratoi, a thrafod, mewn seminarau. (Asesu? Ie (ysgrifenedig yn unig))
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith
Datrys Problemau Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau
Gwaith Tim Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn benodol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion
Sgiliau ymchwil Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Technoleg Gwybodaeth Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6