Module Information

Cod y Modiwl
GQ23420
Teitl y Modiwl
Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (Arholiad a welir o flaen llaw)  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (Arholiad a welir o flaen llaw)  pre seen exam schedule am  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x 2,500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gwerthfawrogi y gwahaniaethau rhwng y cysyniad o ryfel 'diarbed' a rhyfel 'cyfyngedig' ynghyd â gwreiddiau hanesyddol y cysyniadau hyn.
2. Dangos ymwybyddiaeth o ystod o fframweithiau cysyniadol er mwyn deall yr ymwneud cymhleth a chyfnewidiol rhwng rhyfel a chymdeithasau.
3. Dangos dealltwriaeth o'r lefelau gwahanol o fobileiddio cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan rhyfelwyr yn ystod rhyfeloedd penodol.
4. Cloriannu'r mathau gwahanol o straen a roddwyd ar gymdeithas yn sgil mathau gwahanol o ryfeloedd.
5. Archwylio'r cysylltiad rhwng syniadau, cymdeithas, economi, gwleidyddiaeth a natur rhyfel.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn datblygu o'r cwestiynau cychwynnol 'Beth yw rhyfel?' a 'Beth yw heddwch?' er mwyn ymdrin â dwy deipoleg boblogaidd o ryfel: ‘rhyfel diarbed’ a ‘rhyfel cyfyngedig’. Drwy ystyried enghreifftiau o ystod hanesyddol a daearyddol eang, mae’r modiwl yn annog y myfyrwyr i archwilio’r berthynas rhwng cymdeithasau a’r math(au) o ryfela a arferir gan eu lluoedd arfog ar adegau penodol yn eu hanes. Drwy archwilio rhyfel diarbed a rhyfel cyfyngedig, mae’r modiwl hefyd yn annog y myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o pam y mae cymdeithasau a llywodraethau’n mynd ati i ryfela yn wahanol yn dibynnu ar y cyd-destun, a sut y mae ffactorau economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu ar ryfela. Mae’r modiwl felly’n cysylltu natur rhyfel â’r broses bolisi, ac yn hybu dealltwriaeth ymhlith y myfyrwyr o pam y mae gwleidyddion yn dewis gweithredu’n filwrol, a pham y mae’r gweithredu hwnnw’n digwydd fel ag y mae. Er mwyn ysgogi trafodaeth, bydd y modiwl yn defnyddio enghreifftiau gan gynnwys: y Rhyfeloedd Byd; Rhyfeloedd Napoleon; rhyfela yn yr henfyd; rhyfela yn yr oesoedd canol; ymgyrchoedd ‘plismona’ ymerodrol; gweithredwyr milwrol preifat; Fietnam a rhyfeloedd eraill ar ôl yr Ail Ryfel Byd; a rhyfeloedd cartref.

Cynnwys

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys: strategaethau rhyfel a heddwch; rhyfela hyd at y cyfnod cyn-fodern; rhyfela chwyldroadol a Napoleonaidd; Prototeipiau: Ryfel Cartref America a rhyfeloedd i uno'r Almaen; yr Ail Ryfel Byd; rhyfeloedd Indochina a Fietnam; rhyfel Iran-Irac 1980-88.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5