Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 3 x Gweithdai 1 Awr |
Darlith | 18 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 4 x Seminarau 1 Awr |
Gwylio Ffilm | 3 x Sesiynau Gwylio 3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x 2 awr Arholiad a welir o flaen llaw) | 60% |
Asesiad Semester | Perfformiad seminar | 10% |
Asesiad Semester | 1 x 1,000 o eiriau adolygiad | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (1 x 2 awr Arholiad a welir o flaen llaw) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x 1,000 o eiriau adolygiad | 30% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x 500 or eiriau Adolygiad byr yn lle perfformiad seminar | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Trafod cysyniadau megis 'achos', 'ffynonellau', 'tystiolaeth', 'dadl hanesyddol' a 'hanesyddiaeth'
2. Gwerthuso ac asesu dadleuon hanesyddol ynghylch natur grym yng nghysylltiadau rhyngwladol y 19eg a'r 20fed ganrif
3. Dangos dealltwriaeth o'r rhesymau pam y bu'r grymoedd Ewropeaidd yn dominyddu'r gymdeithas ryngwladol yn y 19eg Ganrif
4. Trafod y newidiadau yn y cydbwysedd grym rhyngwladol yng nghyd-destun dadleuon ynghylch gwreiddiau'r ddau ryfel byd
5. Egluro a gwerthuso globaleiddio cydbwysedd grym a thwf grymoedd o'r tu allan i Ewrop
6. Dadansoddi a thrafod dadleuon hanesyddiaethol ynghylch gwreiddiau'r Rhyfel Oer a'r modd y cafodd ei gynnal
7. Dadansoddi a thrafod dadleuon hanesyddiaethol ynghylch twf mudiadau gwrthdrefedigaethol a dirywiad imperialaeth Ewropeaidd
8. Trafod syniadau ynghylch rheoli cymdeithas ryngwladol a swyddogaethau newidiol mudiadau rhyngwladol yng nghysylltiadau rhyngwladol y 19eg a'r 20fed ganrif
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn archwilio tueddiadau a phatrymau eang yn hanes rhyngwladol y 19eg a'r 20fed ganrif. Rhennir y modiwl yn bedair adran thematig fydd yn archwilio gwahanol agweddau ar hanes rhyngwladol o fewn i'r fframwaith pellgyrhaeddol 'creu'r byd modern'. Bydd yr adran gyntaf yn edrych ar dueddiadau cyffredinol a datblygiadau hanesyddiaethol sy'n berthnasol i astudio Hanes Rhyngwladol. Bydd yr ail yn archwilio'r gwahanol gysyniadau ac arwyddion grym a'r syniad o gydbwysedd grym. Bydd y drydedd adran yn archwilio'r ymwneud rhwng y byd gorllewinol a'r gwledydd anorllewinol eraill a bydd yr adran olaf yn ystyried syniadau newydd am drefn a rheoli cymdeithas ryngwladol.
Nod
Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i bynciau, tueddiadau a dadleuon 'mawr' gwleidyddiaeth fyd-eang, a'r astudiaeth o Hanes Rhyngwladol. Bydd yn gosod sylfaen ar gyfer astudio Hanes Rhyngwladol ar lefel gradd Anrhydedd. Cyflwynir sail mewn technegau ac ymagweddau sy'n berthnasol i'r pwnc i'r myfyrwyr, a fydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol sgiliau ysgolheigaidd a chyflogadwyedd.
Cynnwys
Rhennir y darlithoedd yn 4 adran: 1. Hanes a Hanesyddiaeth; 2. Llinynnau Grym; 3. Chwyldro a Newid yn y Byd Anorllewinol; 4. Ideoleg ac Esblygiad y Gymdeithas Ryngwladol. Bydd y seminarau yn canolbwyntio ar bynciau yn ymwneud â’r themâu eang isod: Ffynonellau a Sgiliau Hanes Rhyngwladol; Trefn y Byd a’r Gymdeithas Ryngwladol yn y 19eg a’r 20fed ganrif; Ideoleg a Diwylliant yn Hanes Rhyngwladol; Technoleg, Imperialaeth a Thwf y Gorllewin, Symud o gydbwysedd grym Ewropeaidd i gydbwysedd grym byd-eang; Dad-drefedigaethu a Thwf y Byd Anorllewinol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut i ddefnyddio'r rhain yn effeithiol. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol |
Datrys Problemau | Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno traethawd a pharatoi ar gyfer trafodaethau seminar, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata ac amcangyfrif ateb i'r broblem; rhesymu'n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Defnyddir hefyd gyfleusterau Blackboard megis y byrddau negeseuon a'r fforymau ac anogir myfyrwyr i gynnig eu sylwadau ar y negeseuon. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd Arddangos technegau ymchwil sy'n benodol i'r pwnc Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau cymdeithasol a gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth. |
Sgiliau ymchwil | Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio ffynonellau'r cyfryngau a'r we, yn ogystal a thestunau academaidd mwy confensiynol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu'n rhannol ar eu gallu i ddwyn ynghyd adnoddau priodol a diddorol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno'u gwaith yn electronig drwy'r Rhith-Amgylchedd Dysgu, Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we. Disgwylir i fyfyrwyr hefyd ddefnyddio'r adnoddau a fydd ar gael ar y Rhith-Amgylchedd Dysgu, Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4