Module Information

Cod y Modiwl
HA13820
Teitl y Modiwl
Oes y Fictoriaid
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 5 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,000 o eiriau  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   (1 x arholiad 1.5 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,000 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 1.5 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos dealltwriaeth o hanes diwylliannol a deallusol oes Fictoria

Dadansoddi hanesyddiaeth oes Fictoria.

Myfyrio ar a dadansoddi yr adnoddau hanesyddol gwahanol sydd ar gael er mwyn astudio oes Fictoria.

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig wrth drafod y cyfnod.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i hanes diwylliannol a deallusol oes Fictoria. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i astudio ystod o themâu megis addysg, crefydd, diwylliant poblogaidd a gwyddoniaeth. Fe fyddant yn cael cyfle i brofi nifer o agweddau hanesyddiaethol gwahanol tuag at y cyfnod ac i ddatblygu gwybodaeth o'r adnoddau hanesyddol gwahanol sydd ar gael er mwyn astudio oes Fictoria. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach yn rhan 2.
Sut le oedd y byd pan esgynnodd y frenhines Fictoria ei gorsedd ym 1837? A pha fath o fyd oedd yna pan fu hi farw ym 1901? Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i hanes diwylliannol a deallusol oes Fictoria. Byddwch yn cael cyfle i astudio ystod o themâu megis addysg, crefydd, diwylliant poblogaidd a gwyddoniaeth y cyfnod er mwyn deall y gwahanol ffyrdd roedd y Fictoriaid yn meddwl am y byd a'u lle ynddo. Fe fyddwch yn cael cyfle i brofi nifer o agweddau hanesyddiaethol gwahanol tuag at y cyfnod ac i ddatblygu gwybodaeth o'r adnoddau hanesyddol gwahanol sydd ar gael er mwyn astudio oes Fictoria.

Cynnwys

Darlithoedd:
1. Cyflwyniad
2. Pwy oedd y Fictoriaid?
3. Fictoria ei Hun
4. Rhwysg a Rhodres
5. Y Cartref Fictoraidd
6. Crefydd a Hunaniaeth
7. Twf Gwybodaeth Boblogaidd
8. Dysgu Darllen
9. Y Chwyldro Cyfathrebu
10. Yr Arddangosfa Fawr
11. Twf Technoleg
12. Byd Adloniant
13. Gweld y Byd
14. Y Byd ar Werth
15. Esblygiad
16. Mapio'r Ymerodraeth
17. Addysgu'r Dorf
18. Edrych yn Ôl

Seminarau:
1. Diffinio Oes Fictoria
2. Paratoi traethawd
3. Hamdden a bywyd bob dydd
4. Gwyddoniaeth, technoleg a chred
5. Ail-ddiffinio oes Fictoria

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr i nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol ar gyfer seminarau a thraethodau.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gydweithio o fewn tïm drwy weithgarwch y seminar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dychwelir gwaith ysgrifenedig o fewn tiwtorial a rhoddir cyngor ar sut i wella ar dechnegau ymchwil ac ysgrifennu y myfyrwyr.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Datblygu ymwybyddiaeth o ffynonellau priodol a llenyddiaeth hanesyddol yn gysylltiedig ag astudiaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu gwaith academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r rhyngrwyd yn addas

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4