Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 6 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 - Traethawd ysgrifenedig 2,500 0 EIRIAU | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - Traethawd ysgrifenedig 2,500 0 EIRIAU | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1 - Traethawd ysgrifenedig 2,500 0 EIRIAU | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2 - Traethawd ysgrifenedig 2,500 0 EIRIAU | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos gwybodaeth a brif themau hanes diwyllianol oes Fictoria
2. Arddangos dealltwriaeth o drafodaethau hanesyddiaethol ynglyn â hanes diwyllianiol oes Fictoria
3. Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol â gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd wrth astudio’r cyfnod Fictorianaidd
4. Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol a chynhyrchu dadleuon priodol
Nod
Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i rai o’r dulliau a’r agweddau hanesyddol a ddefnyddir er mwyn dadansoddi diwylliant cyfnod Fictoria, gan dalu sylw arbennig i syniadau Fictoraidd ynglŷn â’r berthynas rhwng y corff a hunaniaeth. Fel y cyfryw, mae’r modiwl yn ychwanegu at rai presennol mewn hanes modern, hanes meddygaeth a hanes cymdeithasol ac economaidd.
Disgrifiad cryno
Pwy oedd y Fictoriaid yn meddwl oedden’ nhw? Sut oeddynt yn meddwl am eu hunain a’u diwylliant? Roedd Fictoriaid o bob dosbarth yn ymybodol eu bod yn byw mewn byd oedd yn newid yn gyflym ac roedd ganddynt gryn dipyn i’w ddweud ar y mater. Yn aml, roedd perthynas glòs rhwng syniadau ynglŷn â delwedd gorfforol yn cyd-fynd gyda synidau ynglŷn â moesoldeb ac fel canlyniad roedd trafodaethau ynglŷn â sut i drin y corff yn chwarae rhan bwysig yn eu hymgeision i greu delweddau o’u hunain a fyddai’n briodol i fyd newydd diwydiannol, trefol a modern. Bydd y modiwl yma yn edrych ar sut roedd y Fictoriaid yn edrych ar eu hunain o nifer o wahanol agweddau, gan gynnwys ffasiwn, ymddygiad, meddygaeth a rhyw. Bydd yn defnyddio nifer o ffynonellau gwahanol gan gynnwys llyfrau ar ymddygiad, llawlyfrau meddygol, hysbysebion a chylchgronau.
Cynnwys
1. Ail-ymweld a’r sterioteip Fictoraidd
2. Darllen y Genedl
3. Bywyd Preifat a Chyhoeddus
4. Gofod Gyhoeddus
5. Marwolaeth
6. Menywod
7. Dynion
8. Rhyw
9. Hunan-wellhad
10. Cyrff a Meddyliau
11. Ffasiwn
12. Gofal y Corff
13. Bwyd
14. Arddangosfa
15. Gweld eu Hunain
16. Gwallgofion, Troseddwyr a Thramorwyr
17. Nerfusrwydd a Dirywiad
18. Edrych yn Ôl
Seminarau:
1. Pwy oedd y Ficroriaid
2. Paratoi traethodau
3. Sfferau ar Wahan
4. Cyrff Disgybliedig
5. Consiwmeriaeth a Diwylliant
6. Edrych yn Ôl
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Ddim yn briodol |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6