Module Information

Cod y Modiwl
HC22320
Teitl y Modiwl
Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   1 x arholiad 2 awr  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos ymwybyddiaeth o hanes y Rhyfel Mawr a’i effeithiau ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru.

2. Dangos ymwybyddiaeth o’r materion ynglŷn â methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau amrywiol, megis papurau newydd, hunangofiannau a hanes llafar, i astudio’r gorffennol.

3. Astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol, gan gynnwys ffynonellau printiedig, clywedol a gweledol.

4. Creu a chynnal dadleuon hanesyddol yn llafar ac ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Nid oes dadlau mai’r Rhyfel Mawr oedd un o drobwyntiau mawr hanes Cymru. Yn sgil y rhyfel fe ddaeth effeithiau pellgyrhaeddol y rhyfel ar Gymru, a’i thrigolion, yn nhermau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â’r gost dynol a drawodd gymunedau a theuluoedd Cymreig. Fe newidiodd y darlun wrth i’r ymladd barhau a ffyrnigo, a’r aberth ddod yn fwyfwy poenus. Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r Cymry yn derbyn y ddadl mai ‘rhyfel cyfiawn’ oedd hwn yn ystod y brwydro, ond dros y blynyddoedd canlynol fe ddaeth tro ar fyd, a dadrithio nid yn unig gyda’r modd yr ymladdwyd y rhyfel, ond gydag achos Prydain yn ei gyfanrwydd.

Bydd 'Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry' yn cynnig arolwg eang o ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru, ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg. Ni fydd yr astudiaeth yn cyfyngu ei hunan i ddigwyddiadau 1914-18, ond yn hytrach bydd yn trafod y cyfnod o ddechrau’r 20fed Ganrif i'r presennol. Byddwn yn ystyried tystiolaeth o nifer o ffynonellau amrywiol er mwyn ceisio deall effaith yr ymladd ar feddylfryd y Cymry ar y pryd, ac yn y degawdau ers y cadoediad. Defnyddiwn ysgrifau milwyr cyffredin a’u teuluoedd yn ogystal â datganiadau gwleidyddion a newyddiadurwyr; astudiwn farddoniaeth a chynnyrch artistiaid ac fe glywn leisau’r cyn-filwyr mewn cyfweliadau a wnaethpwyd degawdau wedi’r brwydro. Wrth astudio sut mae'r rhyfel wedi cael ei bortreadu a'i gofio yn y Gymraeg byddwn yn dadansoddi sut mae’r newidiadau yn y coffáu yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn asesu amrywiaeth o ffynonellau sy’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr, er mwyn cynnig trosolwg i’r myfyrwyr o sut mae dealltwriaeth y Cymry o’r rhyfel a’i effeithiau wedi newid. Bydd y myfyrwyr yn cael y profiad o ddadansoddi ystod eang o ffynonellau, e.e. papurau newydd a chylchgronau, llythyrau, cartŵns a deunydd gweledol eraill, hunangofiannau, cyfweliadau gyda chyn-filwyr a rhaglenni teledu. Trwy ystyried amrywiaeth eang o ddeunydd, o gyfnod y rhyfel ei hunan a’r degawdau canlynol, bydd y myfyrwyr yn gallu dod i gasgliadau am effaith yr ymladd ar y genedl a’i ddylanwad dros y degawdau.

Cynnwys

Wythnos 1) Cyflwyniad
Cyflwyniad i’r modiwl; sut mae’r ddealltwriaeth o’r Rhyfel Mawr wedi newid dros y degawdau.
Trafodaeth o sut mae’r myfyrwyr yn edrych ar y Rhyfel, a’r delweddau sydd yn gyfarwydd i’r Cymry; trafod rhaglen Y Rhwyg (1988), a gyflwynwyd gan Dr John Davies

(Wythnos 2) Arwain at y rhyfel
Sut oedd y Cymry yn gweld y byd hyd at Awst 1914; Rhyddfrydwyr ac Anghydffurfwyr; Lloyd Geoge: ei gyfraniad a’i gymeriad. Sut oedd y Cymry yn deall realiti rhyfel ym 1914: faint ohonyn nhw oedd yn poeni am ryfel; faint ohonyn nhw oedd yn paratoi at ryfel?

(Wythnos 3) Awst 1914 i Ragfyr 1915
Sut ymateb cafwyd yng Nghymru i ddechreuad y rhyfel? Pa garfannau oedd y mwyaf brwd; faint o wrthwynebiad a gafwyd? Pa fath o bwysau a roddwyd ar ddynion ifainc i ymrestru? Pa ymatebion a gafwyd gan ferched Cymru?

(Wythnos 4) Ymladd
Gyda’r ymladd yn parhau i ffyrnigo, sut lwyddodd cymunedau yng Nghymru i ddygymod â’r sefyllfa? Sut lwyddodd teuluoedd i ymdopi tra bod eu dynion ifainc yn gwasanaethu? Sut oedd y dynion ifainc hynny yn deall eu rôl hwythau yn y rhyfel? Faint o wirionedd yr ymladd oedd yn hysbys trwy’r wasg i’r bobl gartref? Sut newidiodd syniadau pobl Cymru am wareiddiad?

(Wythnos 5) Hyd at 1918
Safbwyntiau sosialwyr am y rhyfel; gorfodaeth filwrol a gwrthwynebwyr cydwybodol; creu ‘mythiau’ Coedwig Mametz a Hedd Wyn; argyfyngau 1917 a 1918; parhad ‘iaith 1914’?

(Wythnos 6) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch
Ymatebion y Cymry i ddiwedd y rhyfel; buddugoliaeth Lloyd George yn etholiad 1918; Cytundeb Versailles; dathliadau heddwch, ac yna elfennau o anfodlonrwydd yn dod yn fwyfwy amlwg.

(Wythnos 7) Yn sgil y Dadrithio: Y Llewod a’r Asynnod;
Newid safbwyntiau wrth i gyflwr economaidd Cymru a gweddill y byd dirywio yn y 1920au; dirwasgiad a dadrithiad. Ymateb llenyddol: dylanwad All Quiet on the Western Front ar draws Ewrop a chwedl Hedd Wyn yng Nghymru. Atgofion Lloyd George, a rhoi’r bai ar y cadfridogion.

(Wythnos 8) Cyfnod yr Ail Ryfel Byd
Trafodaeth am y Rhyfel Mawr yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd
+ Cyflwyniadau Myfyrwyr

(Wythnos 9) Atgofion hen wŷr
Trafferthion gydag atgofion cyn-filwyr, er gwaethaf eu hatyniad amlwg; atgofion Griffith Williams, Bob Owen ac Ithel Davies

(Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel
Sut mae haneswyr cyfoes yn ceisio rhoi’r cyfan mewn i gyd-destun diwylliannol. Portreadu’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg heddiw: Lleisiau’r Rhyfel Mawr (2008) + coffáu canmlwyddiant y Rhyfel

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn prosiect
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5