Module Information

Cod y Modiwl
HP34520
Teitl y Modiwl
Milwyr, Myfyrwyr a Masnachwyr: Teithio a Symudedd yn Ewrop Ganoloesol (Rhan 1)
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x dadansoddiad o ddogfen 1,500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Asesiad llafar  25%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Dadansoddiad o ddogfen 1 - 1 x 1,500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Dadansoddiad o ddogfen 2 - 1 x 1,500 o eiriau  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gwerthfawrogi natur hanfodol symudedd yn yr oesoedd canol a’r cysylltiadau rhyngwladol rhwng cymdeithasau.
2. Trafod cysyniadau canoloesol am deithio ac ymwneud yn ddeallus gyda’r cyd-destunau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a chrefyddol.
3. Deall a gwerthuso gwahanol drafodaethau a dadansoddiadau a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.
4. Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol.
5. Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.
6. Gweithio ar eu pennau eu hunain yn ogystal â gyda ei gilydd, ac i chwarae rhan mewn trafodaethau gyda’r grŵp.

Nod

1. Cyflwyno cysyniadau allweddol am deithio a symudedd yn yr Oesoedd Canol.
2. Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol amrywiol o’r cyfnod.
3. Annog myfyrwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd am y ffactorau a effeithiai ar symudedd ac effaith teithio ar gymdeithas.

Disgrifiad cryno

Roedd teithio yn rhan bwysig o fywyd Canoloesol. Bwriad y modiwl hwn yw annog myfyrwyr i werthfawrogi pwysigrwydd teithio a’u galluogi i ddeall effaith symudedd ar bob agwedd o fywyd. Trafodir nifer o faterion gwahanol megis mudo, syniadau gwir a dychmygol am y byd, a ffactorau oedd yn hwyluso a rhwystro teithio. Defnyddir amrywiaeth o ffynonellau er mwyn cael golwg ar syniadau Canoloesol am deithio a’r modd oedd Ewrop Ganoloesol yn gymuned ryngwladol.

Cynnwys

Rhowch amlinelliad o’r cynnwys, fesul wythnos, gan nodi’r darlithoedd, y seminarau a/neu unrhyw ddulliau cyflwyno eraill.

Addysgir y modiwl trwy gyfrwng 10 seminar dwy awr yr un. Dyma syniad o’r seminarau:
1. Cyflwyniad: y modiwl a ffynonellau allweddol
2. Golwg Canoloesol ar y byd
3. Tirwedd ac agwedd at deithio
4. Teithio ar y tir
5. Teithio ar y mor
6. Teithio lleol: cymunedau ynysig?
7. Ymfudo
8. Cymunedau alltud
9. Tu hwnt i Wledydd Cred
10. Casgliad: asesu’r Oesoedd Canol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol Ddim yn briodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio Technoleg Gwybodaeth: Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6