Module Information

Cod y Modiwl
MT39020
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg mewn Ysgol Uwchradd
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Taith Maes 11 x Teithiau Maes 5 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd hir (3,000 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Traethawd byr (2,000 o eiriau)  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (20 munud o hyd)  20%
Asesiad Semester Asesiad gwaith cwrs  10%
Asesiad Semester Aseiniadau yn yr Ysgol  5%
Asesiad Ailsefyll Ail gyflwyno'r aseiniadau y methwyd ynddynt  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gwerthuso a thrafod pwysigrwydd Mathemateg mewn Addysg Uwchradd

Trafod dilyniant a datblygiad rhai syniadau Mathemategolo Addysg Gynradd i Uwchradd

Dangos dealltwiraeth o gymhlethdod y broses ddysgu a chysylltu profiadau dysgu personol a syniadau cyfredol o sut mae disgyblion yn dysgu Mathemaeteg.

Dadansoddi'n feirniadol rhai dulliau dysgu gan gynnwys y cysyniad o wahaniaeth fel strategaeth o ymateb i anghenion dysgu unigol.

Dadansoddi'n feirniadol pwysigrwydd amcanion dysgu a'u perthynas a dysgu ac addysgu effeithiol

Gwerthuso cydrannau allweddol a strwythuro cynllun gwers gan roi ystyriaeth o'r amcanion dysgu diffiniedig yn ogystal a rheolaeth o'r gweithgaredd dysgu

Gwerthuso sut mae dulliau dysgu rhyngweithiol yn gwella dysgu Mathemateg, a bod yn ymwybodol o'r posibiliadau o gyfathrebiad dilafar yn y dosbarth.

Disgrifo'r farn gyfredol am brif bwrpas asesu a rhai o'r egwyddorau sy'n hydreiddio ymarfer da, yn ogystal a thrafod a dadansoddi rhai cynlluniau a pholisiau marcio Mathemateg

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr o addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Bydd y myfyrwyr yn adlewyrchu ar ddulliau addysgu athrawon profiadol ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r sgiliau allweddol ar gyfer addysgu Mathemateg

Nod

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr o addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Bydd y myfyrwyr yn adlewyrchu ar ddulliau addysgu athrawon profiadol ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r sgiliau allweddol ar gyfer addysgu Mathemateg

Cynnwys

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr o addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Bydd y myfyrwyr yn adlewyrchu ar ddulliau addysgu athrawon profiadol ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r sgiliau allweddol ar gyfer addysgu Mathemateg

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrywr yn cadw dyddiaduron adlewyrchol o'u profiadau ar leoliad gwaith ac yn ysgrifennu portfolio yn crynhoi'r profiad. Byddant yn rhoi cyflwyniad llafar unigol i weddill y dosbarth yn ogystal a chyflwyno gwers yn yr ysgol. Bydd yr holl weithdai a'r aseiniadau yn cynnwys trafodaethau llafar yn ogystal a chyfathrebu ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniadau i'r myfyrywr o'r sialensau sydd ynghlwm ag addysgu Mathemaeteg mewn ysgol uwhcradd ac o bosib yn eu hysgogi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn paratoi problemau a datrysiadau ar gyfer cyflwyno gwers yn yr ysgol
Gwaith Tim Bydd trafodaeth grwp yn chwarae rhan allweddol yng ngweithdai'r modiwl. Bydd yn gyfle i'r myfyrwyr ranneu eu profiadau a syniadau all fod o gymorth i eraill
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn ymarfer eu sgiliau cyfathrebu ac yn cael y cyfle i ymdrin a Mathemateg yn Gymraeg yn y gweithle
Rhifedd Disgwylir i'r myfyrwyr gymorthwyo a tasgau rhifyddol mewn dosbarth yn ogystal a gosod tasgau Mathemaetgol yn eu gwers.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i'r syniadau a'r theoriau dysgu Mathemateg gan ddefnyddio'r rhestr ddarllen a roddir
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i gefndir a chyd-destun y syniadau a'r theoriau a gyflwynir gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff canlyniadau o'r chwiliadau eu trafod yn yr aseiniadau a'r portfollio

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6