Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | 6 x Darlithoedd 1 Awr |
Tutorial | 11 x Tiwtorial 4 Awr |
Tutorial | 21 x Tiwtorial 1 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau) | 100% |
Supplementary Assessment | traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau) | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Wrth gwblhau’r modiwl hwn, dylai’r myfyrwyr fedru dangos:
1. Dealltwriaeth o gymhlethdodau a gofynion llunio portffolio profiad gwaith.
2. Esiamplau o flaenoriaethau’r cyd-destun cymhwysol o ddydd i ddydd.
3. Esiamplau o’r rolau a’r sgiliau y mae’r lleoliad cymhwysol yn gofyn amdanynt.
4. Esiamplau o’r ymarfer moesegol a phroffesiynol yn y lleoliad cymhwysol.
5. Gallu myfyrio ar sgiliau, a rhoi tystiolaeth ohonynt, er mwyn gwella cynnydd personol a chyflogadwyedd.
Brief description
Modiwl lleoli yw SC20620 sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr feithrin ac ymarfer eu sgiliau yn y gweithle. Nod y modiwl yw datblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyriwr mewn meysydd sy’n bwysig ar gyfer recriwtio graddedigion yn ôl yr Asiantaeth Addysg Uwch a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Er enghraifft, datrys problemau, myfyrio, sgiliau ymchwil, cyfathrebu, gwella eich dysgu a’ch perfformiad eich hun, datblygiad personol a chynllunio gyrfa a sgiliau pwnc sy’n berthnasol i seicoleg. Caiff myfyrwyr hefyd olwg ar y cyd-destun cynhwysol a’r rolau sy’n gysylltiedig â’r gweithle er mwyn hwyluso eu syniadau eu hunain am lwybrau gyrfa a dyheadau. Bydd y lleoliad gwaith yn gyfle i bob myfyriwr gael profiad mewn meysydd proffesiynol, gwirfoddol neu feysydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Bydd pob myfyriwr yn gyfrifol am sicrhau ei leoliad ei hun.
Content
Paratoi ar gyfer lleoliad
Sgiliau trosglwyddadwy
Moeseg ac ymddygiad proffesiynol yn y gweithle
Yr ymarferydd myfyriol
Gyrfaoedd mewn seicoleg a chynllunio gyrfa
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ystyried ac ymarfer eu sgiliau rhif mewn sawl cyd-destun. |
Communication | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ymarfer eu gwrando, siarad, ac ysgrifennu ar gyfer gwahanol ddibenion a gwahanol gynulleidfaoedd. |
Improving own Learning and Performance | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Anogir myfyrwyr i ystyried eu harddull ddysgu eu hunain, dewisiadau personol, ac amcanion ar gyfer y dyfodol. Byddant yn cael blas ar ddysgu yng nghyd-destun y gweithle ac yn monitro eu cynnydd eu hunain tuag at eu hamcanion dysgu. |
Information Technology | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, efallai bydd myfyriwr yn arsylwi neu’n ymarfer effeithiolrwydd sgiliau TG yn y lleoliad proffesiynol ac ymarferol. |
Personal Development and Career planning | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ystyried eu sgiliau eu hunain yng nghyd-destun y lleoliad cymhwysol. Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i baratoi, neu gynllunio ar gyfer, llwybrau gyrfa’r dyfodol a llwybrau cynnydd. |
Problem solving | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddatrys problemau yn y lleoliad cymhwysol; gall hyn gynnwys adnabod problemau, gwerthuso atebion posib, meithrin gwydnwch wrth wynebu problemau, neu feddwl creadigol wrth ddatrys problemau. |
Research skills | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddefnyddio dulliau ymchwil yn y lleoliad cymhwysol a myfyrio ar eu sgiliau. |
Subject Specific Skills | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y modiwl hwn, bydd y myfyriwr yn deall ac yn rhoi eu gwybodaeth am seicoleg ar waith yn y lleoliad cymhwysol. Bydd myfyrwyr yn cael blas ar ymarfer proffesiynol a moesegol mewn sawl cyd-destun amrywiol. |
Team work | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, bydd y myfyrwyr yn cael blas ar ddeinameg grŵp, amcanion grŵp, a’u cyfraniad eu hunain i waith tîm effeithiol. |
Notes
This module is at CQFW Level 5