Module Information

Cod y Modiwl
TC31700
Teitl y Modiwl
Ysgrifennu Sgript
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 11 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1. Portffolio o Ddrafftiau a Deunydd Creadigol  40%
Asesiad Semester 2. Sgript Orffenedig (60 munud i’w pherfformio)  60%
Asesiad Ailsefyll 1. Portffolio o Ddrafftiau a Deunydd Creadigol  40%
Asesiad Ailsefyll 2. Sgript Orffenedig (60 munud i’w pherfformio)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos dealltwriaeth fanwl o wahanol gonfensiynau a thechnegau ysgrifennu ar gyfer llwyfan theatr, ynghyd a'r gallu i strwythuro deunydd yn effeithiol.

2. Arddangos dealltwriaeth fanwl o'r technegau llwyfannu a fydd fwyaf manteisiol wrth lwyfannu'r darnau dramataidd a ysgrifennir ganddynt.

3. Arddangos gallu i gyd-destunoli eu gwaith mewn perthynas ag arddull a chonfensiynau testunau, dramodwyr a genrau dramataidd eraill.

4. Arddangos annibyniaeth greadigol a deallusol wrth gymhwyso'r elfennau a'r egwyddorion a ddysgwyd iddynt yn y seminarau/gweithdai.

Nod

Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu darn o waith creadigol sylweddol, ac i adeiladu ar sgiliau a feithrinwyd ym modiwl TC21300/20 Sgiliau Sgriptio yn yr ail flwyddyn.

Bydd cynnydd yn y disgwyliadau asesu, a bydd hefyd angen i'r myfyrwyr sicrhau bod eu gwaith o safon led-broffesiynol gan fydd eu gwaith yn cael ei ddatblygu gyda chymorth ymarferwyr profiadol o'r sector.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i nifer o’r sgiliau sylfaenol sy’n berthnasol i’r grefft o ysgrifennu sgriptiau drama megis ymateb i sbardun, trefnu amser, canoli ar dasgau penodol o fewn i amserlen benodedig, sgiliau cynllunio a pharatoi, sgiliau llunio monolog a deialog, y grefft o lunio cymeriad, sgiliau adolygu a golygu ac ymateb yn bositif i feirniadaeth allanol. Fe fydd pwyslais ar ddatblygu o ymarfer ac ymarferion cyson i’r broses greadigol o lunio, datblygu a golygu sgript sylweddol ar gyfer y llwyfan.

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
Darlithoedd: 11 x 2 awr yr wythnos (Semester 1)
Seminarau/Tiwtorialau: 10 x 1 awr (Semester 1)
Seminarau/Tiwtorialau: 6 x sesiwn hanner awr o diwtora unigol (Semester 2)

Bydd y modiwl yn cynnwys 11 gweithdy 2 awr yn y semester cyntaf, ynghyd ag 10 seminar wythnosol. Cynhelir 6 sesiwn hanner awr o diwtora un-i-un yn yr ail semester.

Bydd y gweithdy agoriadol yn cynnig sylfaen ar gyfer y gwaith creadigol ar hyd y modiwl, gan awgrymu dulliau o ganfod ysbrydoliaeth, strategaethau a thechnegau ar gyfer ymchwil a chyfansoddi a chofnodi datblygiad y prosiect terfynol. Strwythurir y gweithdai canlynol yn ôl pum bloc o ddwy sesiwn yr un; bydd sesiwn gyntaf pob bloc yn cael ei arwain gan ddramodydd gwadd ac yn canolbwyntio ar elfen benodol o ysgrifennu drama. Bydd y seminar wythnosol yn canolbwyntio ar ystod o destunau dramataidd ac yn dadansoddi arddull dramodwyr penodol; bydd modd dethol testunau yn ôl diddordebau ac amcanion aelodau’r grŵp ar gyfer eu gwaith ei hunain.

Strwythur arfaethedig gweithdai’r semester cyntaf:

Sesiwn 1: Chwilio a Chanfod Ysbrydoliaeth
Sesiwn 2: Strwythur Dramataidd (1)
Sesiwn 3: Strwythur Dramataidd (2)
Sesiwn 4: Creu Cymeriad (1)
Sesiwn 5: Creu Cymeriad (2)
Sesiwn 6: Monolog (1)
Sesiwn 7: Monolog (2)
Sesiwn 8: Deialog (1)
Sesiwn 9: Deialog (2)
Sesiwn 10: Creu Cyfanwaith (1)
Sesiwn 11: Creu Cyfanwaith (2)

Cynhelir cwrs preswyl dwys am ddau ddiwrnod yn gynnar yn yr ail semester i ddatblygu’r sgriptiau dan arweiniad cyfarwyddwyr proffesiynol.

Fe fydd y penwythnos dwys yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddod i gysylltiad gyda chorff sylweddol o waith newydd sgriptwyr ifanc eraill. Bydd hefyd yn darparu cyfle i fyfyrwyr dderbyn sylwadau gan sgriptwyr proffesiynol ar y gwaith a'r syniadau a ddyfeisiwyd ganddynt yn ystod y semester cyntaf.

Bydd y sesiynau twitora un-i-un yn rhoi cyfle i adolygu a thrafod y gwaith gyda’r tiwtor, a’i baratoi ar gyfer ei gyflwyno’n derfynol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd pwyslais arbennig ar sgiliau cyfathrebu yn y modiwl: disgwylir i'r myfyrwyr ystyried a datblygu gwahanol ddulliau o gyfathrebu gweledigaeth ddramataidd wrth lunio darnau ysgrifenedig, ac fe fydd y seminarau/gweithdai ymarferol a'r sesiynau twitorial yn gosod pwyslais arbennig iawn ar y gallu i gyfathrebu wrth drafod problemau a gosod nodau ymarferol i'w cyflawni.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y profiad o weithio'n ddwys ar ddarn o waith creadigol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o sgiliau a fyddai'n angenrheidiol petaent yn dilyn gyrfa broffesiynol fel awdur sgriptiau.
Datrys Problemau Un o brif dasgau ymarferol y modiwl fydd datblygu sgiliau ymarferol i ddatrys y problemau creadigol sy'n codi wrth geisio llunio sgript dramataidd gorffenedig, ac wrth geisio dychmygu pa fath o amodau perfformio a chynhyrchu a fydd fwyaf cymwys ar gyfer llwyfanu'r deunydd.
Gwaith Tim Ni asesir sgiliau gwaith tîm yn ystod y modiwl, ond ar gyfer ac yn ystod y penwythnos dwys bydd angen i’r myfyrwyr weithio gydag ymarferwyr theatr broffesiynol, a sicrhau bod eu gwaith ysgrifenedig wedi’i baratoi ar eu cyfer, a chyd-weithio gyda’r ymarferwyr wrth ymarfer a thrafod y sgript.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe roddir cyfle pwysig i'r myfyrwyr ddatblygu eu dysgu a gwella eu perfformiad unigol yn ystod y modiwl trwy gyflwyno aseiniad paratoadol cyn mynd ati i greu darn o waith gorffenedig terfynol. Fe fydd y broses o drafod y deunyddiau paratoadol ynghyd a'r adborth a dderbynnir ar ôl cyflwyno'r aseiniad cyntaf yn allweddol bwysig wrth gynnig persbectif ar y brif dasg ymarferol. Fe fydd y trafodaethau seminar hefyd yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o adborth a roddir i waith aelodau eraill y dosbarth.
Rhifedd Ni ddatblygir sgiliau gwybodaeth rhifyddol yn ystod y modiwl
Sgiliau pwnc penodol Erbyn diwedd y modiwl, bydd disgwyl i’r myfyrwyr fod wedi ysgrifennu sgript a fydd yn cymryd hyd at awr i’w pherfformio. Disgwylir i'r gwaith fod o safon greadigol a dramatwrgiaethol briodol ar gyfer modiwl Lefel 3, ynghyd a bod addas ar gyfer ei pherfformio mewn cyd-destun cyhoeddus. Bydd angen i'r sgript orffenedig fod wedi’i olygu a’i osod adlewyrchu’r disgwyliadau proffesiynol a pwnc-benodol hynny.
Sgiliau ymchwil Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyriwr ystyried sut i gael gwybodaeth gefndirol angenrheidiol ar gyfer creu a diffinio cymeriadau a/neu sefyllfa ddramataidd neilltuol. Er nad asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, fe fydd ansawdd y gwaith ymchwil yn cyfrannu'n bwysig at lwyddiant yr aseiniad terfynol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwil gweithiau a dramodwyr eraill perthnasol, ac olrhain sut effeithiwyd eu gwaith eu hunain o ganlyniad.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u sgriptiau wedi'u prosesu'n eiriol; ac fe fydd y gwaith ymchwil a gyflawnir wrth baratoi'r aseiniadau ymarferol yn gofyn gallu i weithio'n effeithiol ar-lein. Bydd cyfle i fyfyrwyr ystyried meddalwedd penodol ar gyfer ysgrifennu sgriptiau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6