Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cynllun gofal neu ddysgu ar gyfer grŵp oedran neu blwyddyn penodol gyda sylwebaeth feirniadol (1500 gair). | 30% |
Asesiad Semester | Portffolio o 3500 o eiriau wedi'u seilio ar leoliad (au). | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Cynllun gofal neu ddysgu ar gyfer grŵp (Rhaid ail-wneud pob elfen o'r asesiad a fethodd os bydd marc cyfartalog y myfyriwr yn disgyn yn is na'r marc pasio gofynnol o 40%. Bydd cwestiynau aseiniad newydd yn cael ei osod.) oedran neu blwyddyn penodol gyda sylwebaeth feirniadol (1500 gair). | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o 3500 o eiriau wedi'u seilio ar leoliad (au). (Rhaid ail-wneud pob elfen o'r asesiad a fethodd os bydd marc cyfartalog y myfyriwr yn disgyn yn is na'r marc pasio gofynnol o 40%. Bydd cwestiynau aseiniad newydd yn cael ei osod.) | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Gwerthuso'n feirniadol y dulliau o weithio gyda phlant ac ymarferwyr.
2. Trafod yn feirniadol ddulliau o weithio gyda phlant.
3. Archwilio'n feirniadol safbwyntiau moesegol ynghylch gweithio gyda phlant.
4. Cynllunio a gwerthuso'n feirniadol weithgaredd dysgu neu ofal sy'n berthnasol i leoliad addysgol neu ofal plant.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr amrywiaeth o fewnwelediadau i agweddau perthnasol ac angenrheidiol ar weithio gyda phlant. Bydd disgwyl i fyfyrwyr feithrin gwybodaeth am y cysyniadau allweddol sy'n ganolog i weithio gyda phlant a bydd disgwyl iddynt archwilio ystod o ddulliau o astudio arferion mewn gwahanol leoliadau addysgol. Bydd yn ofynnol i bob myfyriwr sy'n dewis cymryd y modiwl hwn dalu am wiriad DBS.
Cynnwys
Darlith a seminar 2: Ymgysylltu a phlant
Darlith a seminar 3: Gweithio gyda theuluoedd
Darlith a seminar 4: Arweinyddiaeth a gwaith tim
Darlith a seminar 5: Creu amgylchedd dysgu
Darlith a seminar 6: Dulliau ymchwil a moeseg ymchwil
Darlith a seminar 7: Amrywiaeth ddiwylliannol
Darlith a seminar 8: Dulliau'r cwricwlwm
Darlith a seminar 9: Adnabod a defnyddio strwythurau cymorth cymunedol
Darlith a seminar 10: TGCh: offer ar gyfer dysgu effeithiol mewn lleoliadau plentyndod
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol yn y darlithoedd a’r seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig. Mae angen cymhwyso safonau uchel o lythrennedd ar leoliadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cyfleoedd i weithio mewn lleoliad addysgol. |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol. |
Gwaith Tim | Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp. Mae angen gwaith tîm hefyd ar leoliad. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell. Mae angen myfyrio ar brofiad lleoliad ar gyfer asesiad. |
Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. Cymhwyso rhif yn ofynnol ar leoliad. |
Sgiliau pwnc penodol | 1. Cynllunio gweithgareddau dysgu a gofal. 2. Myfyrio ar ymarfer. |
Sgiliau ymchwil | Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a rhai o dasgau'r seminar. |
Technoleg Gwybodaeth | Dylai aseiniadau ysgrifenedig gael eu cyflwyno’n electronig ac mae un o dasgau'r seminar yn gofyn am ddatblygu cyflwyniad PowerPoint. Mae angen cymhwyso technoleg ar leoliad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5