Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlith | 10 x Darlithoedd 2 Awr |
| Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Aseiniad 1 1 traethawd 2500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Aseiniad 2 Cynllun gwers a cyfiawnhad o 1500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad atodol 1 1 traethawd 2500 o eiriau - Gosodir teitlau aseiniad newydd. | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad atodol 2 Cynllun gwers a cyfiawnhad o 1500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o ddatblygiad mathemategol cynnar plant ifainc.
Adolygu a thrafod yn feirniadol y cysyniadau, y dadleuon a'r egwyddorion ynghylch datblygiad mathemategol.
Archwilio'r feirniadol y ffyrdd y mae plant ifainc yn dysgu mathemateg.
Gwerthuso'r feirniadol effeithiau rhieni, athrawon a pholisiau'r llywodraeth ar ddatblygiad mathemategol cynnar.
Arddangos ymgysylltu beirniadol a'r ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Cynlluniwyd y modiwl hwn er mwyn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o ddatblygiad mathemategol plant ifainc a'r fframwaith damcaniaethol a'r goblygiadau ymarferol ar gyfer addysg fathemategol plant ifainc.
Cynnwys
Darlith a seminar 1: Pam ydym ni'n dysdu mathamateg
Darlith a seminar 2:Sut ddylen ni ddysgu mathamateg
Darlith a seminar 3: Pam a sut ydym ni'n asesu mathemateg?
Darlith a seminar 4: Pam fod arnom ofn mathamateg?
Darlith a seminar 5: Mathemateg yng nghyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar
Darlith a seminar 6:Rhif a mesur
Darlith a seminar 7: Siap, lleoliad symudiad a thrin data
Darlith a seminar 8: Mathameteg ar draws y cwricwlwm
Darlith a seminar 9: Differiad
Darlith a seminar 10: Dawn mewn mathameteg
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn. |
| Datrys Problemau | Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol. |
| Gwaith Tim | Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad. |
| Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar. |
| Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd un o'r tasgau seminar yn gofyn am lunio cyflwyniad PowerPoint. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
