Module Information

Module Identifier
ADM1430
Module Title
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Co-Requisite
Co-Requisite
Co-Requisite
Pre-Requisite
Gofynion Mynediad TAR

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Aseiniad 1  3000 gair (cyfwerth) Portffolio Datblygu Gwersi a Myfyrio: Cynllunio a Gwerthuso Gwersi (yn seiliedig ar olyniaeth o wersi)  40%
Semester Assessment Aseiniad 2  3000 gair (cyfwerth) Portffolio Datblygu Gwers a Myfyrio: Astudiaeth Achos - datblygu a chaffael sgiliau dysgwr allweddol i gynnwys amddiffyniad llafar i gyfoedion, tiwtor a mentor  60%
Supplementary Assessment Rhaid ail-gymryd pob elfen a fethwyd o'r asesiadau os yw marc cyfartalog y myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol o 50%. Bydd hyn yn gofyn am gwestiynau newydd, cynllun gwers newydd a sesiwn addysgu. 
Supplementary Assessment Aseiniad 1  3000 gair (cyfwerth) Portffolio Datblygu Gwersi a Myfyrio: Cynllunio a Gwerthuso Gwersi (yn seiliedig ar olyniaeth o wersi)  40%
Supplementary Assessment Aseiniad 2  3000 gair (cyfwerth) Portffolio Datblygu Gwers a Myfyrio: Astudiaeth Achos - datblygu a chaffael sgiliau dysgwr allweddol i gynnwys amddiffyniad llafar i gyfoedion, tiwtor a mentor  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Arddangos dealltwriaeth feirniadol o'r cysyniadau a'r gweithdrefnau technegol sy'n gysylltiedig â dylunio asesiadau mewn cyd-destunau addysgol;

2. Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif faterion i'w hystyried wrth ddylunio trefniadau asesu priodol;

3. Gwerthuso gwers yn feirniadol trwy dynnu ar ddata perfformiad dysgwyr a chyfiawnhau sut mae targedau dysgwyr yn cael eu gosod;

4. Dangos dealltwriaeth feirniadol o werthuso gwersi trwy asesu cymheiriaid ar werthusiad gwersi cyfoed arall;

5. Gwerthuso'n feirniadol ddatblygiad sgil dysgwr allweddol a'i gaffaeliad gan ddysgwyr;

6. Cyflwyno’n feirniadol amddiffyniad llafar o ddatblygiad a chaffaeliad sgiliau allweddol dysgwr;

7. Myfyrio'n feirniadol ar effeithiolrwydd cynllun gwersi.

Brief description

Dyluniwyd y modiwl craidd hwn i fodloni Cylchlythyr Llywodraeth Cymru Rhif: 008/2017, Meini Prawf ar Gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Athrawon Cychwynnol yng Nghymru. Mae'r modiwl hwn yn rhoi pwyslais cryf ar asesu, ei gysyniadau technegol, ei ddyluniad a'i ddatblygiad, a'i ddefnydd. Oherwydd natur integredig y rhaglen byddwch yn ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o strategaethau asesu ar draws y sectorau Cynradd ac Uwchradd. Bydd y profiadau estynedig hyn yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ddofn o werthuso dysgwyr a gwersi, a'i bwysigrwydd wrth lywio targedau dysgwyr a chynlluniau gwersi dilynol. Byddwch hefyd yn barod i ddatblygu sgiliau allweddol ac i asesu sut mae dysgwyr yn ennill sgiliau allweddol.

Content

Yn y modiwl hwn, bydd yr unedau canlynol yn cael eu trafod mewn perthynas â'r Safonau newydd ar gyfer SAC, fel y dangosir yn Schemapp 1 Adran B. Mae'r unedau cynnwys ar gyfer y 7 wythnos yn y brifysgol fel a ganlyn a byddant yn tynnu ar ystod eang o strategaethau asesu sy'n berthnasol i addysgu'r Meysydd / Pynciau Dysgu Arbenigedd a Chyfoethogi yn y sectorau Cynradd ac Uwchradd.

Bydd pob uned yn cynnwys cyfuniad dwy awr o ddarlithoedd a seminarau. Bydd y rhain yn darparu'r egwyddorion sylfaenol y mae'n rhaid eu defnyddio ar ymarfer addysgu.
Uned 1 - Y broses asesu: profiad a chwestiynau. Pam asesu? Beth sy’n gwneud asesiad ‘da’? - Rhai cysyniadau allweddol fel dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau. - Y cysylltiad rhwng cwricwlwm, addysgeg ac asesu.
Uned 2 - Dibenion a swyddogaethau asesu. - Deall dulliau asesu - Y berthynas rhwng asesiad ffurfiannol a chrynodol. - Rôl asesu wrth ddatblygu cymhelliant i ddysgu.
Uned 3 - Asesu ar gyfer dysgu: pwrpas, amodau, gwerthoedd, egwyddorion ac enghreifftiau. - Hyrwyddo dysgu ymreolaethol fel y nod eithaf. - Dysgu proffesiynol athrawon fel amod ar gyfer datblygu asesiad ystafell ddosbarth effeithiol ar gyfer dysgu.
Uned 4 - Dylunio cynllun asesu: manyleb, cwmpas a dibenion. - Adolygiad o systemau Asesu: Cwricwlwm Cenedlaethol; Llwybr 14-19 - TGAU, Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru; Dyfodol Llwyddiannus
Uned 5 - Data gwerthuso ac asesu - Defnyddio data asesu yn effeithiol - Hunanwerthuso ysgolion yn arwain at wella ysgolion
Uned 6 - Sgiliau cwestiynu ac adborth - Cwestiynu ar lefel uwch
Uned 7 - Gwerthuso sgiliau allweddol: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
Uned 8 - Cofnodi asesiad - Cyfleu canlyniadau asesu i ddysgwyr, athrawon a rhieni
Uned 9 - Hunan-fyfyrio a gwerthuso myfyrwyr. - Cyflwyniad i asesiad cymheiriaid. - Asesiad cymheiriaid o athrawon dan hyfforddiant

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd data cyrhaeddiad perfformiad myfyrwyr a dosbarthiadau unigol yn cael ei ystyried gyda’r pwrpas o ddangos ansawdd dysgu dysgwyr.
Communication Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn trafodaethau seminar (prifysgol ac ysgol bartner arweiniol) ac wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau.
Improving own Learning and Performance Bydd asesu ar gyfer dysgu yn cael ei ymgorffori mewn llawer o sesiynau i ganiatau i ddysgwyr fyfyrio ar eu perfformaid eu hunain ac i ddatblygu strategaethau i wella. Bydd cymryd rhan mewn asesiadau cymheiriad yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i gael dealltwriaeth feirniadol ddyfnach o asesu. Anogir athrawon dan hyfforddiant i archwilio eu profiadau Arbenigedd a Chyfoethogi yn eu Pasbort Dysgu Proffesiynol.
Information Technology Bydd pob aseiniad wedi ei gyflwyno ar brosesydd geiriau a bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG wrth ymchwilio i'w haseiniadau.
Personal Development and Career planning Bydd myfyrio beirniadol yn cael ei ddatblygu trwy aseiniadau ysgrifenedig yn ogystal â thrwy asesiadau cymheiriaid a gweithgareddau yn ystod seminarau a lleoliadau ysgol. Mae cryfderau a blaenoriaethau athrawon dan hyfforddiant ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol, yn ffurfio elfen o'r portffolio. Bydd cwblhau'r portffolio yn galluogi myfyrwyr i nodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n cadarnhau eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i lywio eu Pasbort Dysgu Proffesiynol.
Problem solving Bydd gofyn i athrawon dan hyfforddiant werthuso cyrhaeddiad dysgwyr. I wneud hyn bydd yn rhaid iddynt ddylunio a gweithredu'r strategaethau asesu mwyaf priodol ar gyfer ystod o alluoedd dysgwyr.
Research skills Bydd ymchwil yn cael ei ddatblygu trwy gydol y modiwl ond yn enwedig o ran dylunio a datblygu asesiadau.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau canlynol sy'n ganolog i grefft asesu, megis: dadansoddi data, gwerthuso, gosod targedau, sgiliau meddwl, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau.
Team work Bydd gweithgareddau seminar yn cynnwys gwaith grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 7