Module Information

Cod y Modiwl
CC39440
Teitl y Modiwl
Prosiect Hir
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
CS39440 Prif bynciau yn unig
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Rhaid i'r myfyrwyr fod wedi cofrestru yn yr Adran ar gynllun gradd anrhydedd sengl neu Brif Bwnc
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Tiwtorial 11 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Arddangosiadau ymarferol canol term  5%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig (hyd at 20,000 o eiriau)  a gwaith technegol cysylltiedig. a gwaith technegol cysylltiedig. a gwaith technegol cysylltiedig.   95%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno elfennau o'r gwaith cwrs a fethwyd/  nas cyflwynwyd, neu elfennau o werth cyfatebol.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gallu i ddadansoddi problem, datblygu modd o ymchwilio i’r broblem neu ei datrys, a chwblhau darn o waith dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter.

Arddangos gallu i ennill profiad mewn maes penodol, trwy astudio hunangyfeiriedig yn bennaf.

Arddangos gallu i ddefnyddio’r prif bethau a gyflawnwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau gradd yn annibynnol.

Llunio arfarniad beirniadol ysgrifenedig a llafar o’u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dull o weithredu

Disgrifiad cryno

Rhaid i'r myfyrwyr gwblhau darn o waith technegol ac ysgrifenedig sylweddol, dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter. Fel arfer, bydd y prosiectau yn cynnwys datblygu darn o feddalwedd o'r datganiad cychwynnol drwy'r camau manylu a chynllunio, i weithredu a phrofi'r gwaith yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr â'r cefndir priodol yn gallu cyflawni prosiect sy'n cynnwys elfen o galedwedd. Gall prosiectau eraill ymchwilio i feysydd technegol a datblygu meddalwedd a phrosesau i asesu'r meysydd hynny.

Trwy weithio ar y prosiect hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gymhwyso a datblygu eu sgiliau wrth drafod problem benodol, cwblhau'r prosiect a dogfennu'r broses. Bydd y myfyrwyr yn datblygu cynnyrch gorffenedig o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys llunio dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennau sy’n trafod y penderfyniadau cynllunio a wnaethpwyd. Bydd prosiectau ymchwil hefyd yn pwysleisio'r broses ymchwil ac yn gwerthuso'r canlyniadau.

Cynnwys

Bydd hyd at 10 darlith yn gysylltiedig â'r posiect.

Darperir amryw ddeunyddiau ysgrifenedig, gan roi cyfarwyddyd ynghylch cyflawni'r prosiect, materion asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr drefnu eu hamser ar y prosiect bob wythnos a chyfarfod a^’u goruchwyliwr yn rheolaidd. Asesir y cwrs hwn ar sail cyflawni technegol, yn o^l tystiolaeth a gyflwynir drwy arddangosiadau, y gwaith technegol a'r canlyniadau, ynghyd ag adroddiad ysgrifenedig sylweddol.

Nod

Cyflawni darn sylweddol o waith technegol sy'n tynnu'r holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod cwrs y myfyriwr at ei gilydd. Adrodd ynghylch y gwaith technegol ar ffurf arddangosiadau, trafodaethau ac adroddiad ysgrifenedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dylai'r modiwl hwn fod o fudd i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad).
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dylai'r modiwl hwn helpu myfyriwr i ddeall potensial eu gradd benodol ar gyfer sicrhau swydd, a darparu deunydd sylweddol ar gyfer eu portfolio.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn elfen gynhenid o weithredu systemau Cyfrifiadura.
Gwaith Tim Amherthnasol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gofynnir i'r myfyriwr ystyried ei ddysgu a'i berfformiad ei hun.
Rhifedd Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifadura.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir mwy o wybodaeth fanwl mewn rhai sgiliau sy'n benodol i'r pwnc o ganlyniad i weithio ar y prosiect. Bydd sgiliau yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr.
Sgiliau ymchwil Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth defnyddio systemau cyfrifiadura.
Technoleg Gwybodaeth Mae technoleg gwybodaeth yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifiadura.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6