Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Taith astudio/Adroddiad yn seiliedig ar ymweliad. | 50% |
Asesiad Semester | Taith astudio/Seminar a phoster. Grwp yn seiliedig ar ymweliad | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Amlinellu nodau ac amcanion systemau ffermio ac adnabod y rheoliadau ynglyn a ffermio yn y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
2. Adnabod y prif egwyddorion sy'n rheoli systemau cnydio a sut i'w haddasu i gynllunio a rheoli cylchdroi cnydau.
3. Adnabod y prif ffactorau sy'n dylanwadu ar systemau da byw ac asesu'r effaith ar reoli da byw a'u perfformiad.
4. Trafod rol y farchnad a ffactorau eraill sy'n dylanwadau ar gynhyrchiant.
5. Trafod cyfraniad ffermio i ansawdd bwyd, ac amcanion polisi amgylcheddol a chymdeithasol.
6. Chwilio a chyflwyno gwybodaeth o ystod o ffynonellau.
7. Meithrin sgiliau tim ymarferol gan gynnwys gweinyddiaeth, gosod dyddiadau cau a dogfennau.
8. Bod yn gyfrifol am yr hyn y maent yn ei ddysgu a'u datblygiad proffesiynol eu hunain.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cynnig cyflwyniad i amcanion, egwyddorion, arferion a pherfformiad systemau ffermio a'r ffactorau naturiol, economaidd a chymdeithasol sy'n llunio amaethyddiaeth gyfoes.
Cynnwys
Cyflwyniad i strwythur y diwydiant amaeth yn y DU / UE
Systemau ffermio - elfennau a dosbarthiad
Dylanwad polisi
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y ddau ymweliad (gan gynnwys seminarau gyda'r nos yn dilyn yr ymweliadau a'r seminar a asesir yn datblygu sgiliau cyfathrebu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gwneir cysylltiadau â diwydiant yn ystod y daith astudio a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y gwaith cwrs. |
Datrys Problemau | Bydd hyn yn rhan o'r gwaith cwrs a osodir. |
Gwaith Tim | Mae'r daith astudio a'r gwaith cwrs cysylltiedig yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer rhyngweithio a thrafod mewn grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn cydweithio ar brosiectau a fydd yn gofyn iddynt adnabod eu cryfderau a'u gwendidau personol a chwilio am y cymorth hanfodol i'w helpu i wella eu gwaith eu hunain a gwaith y grwp. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Mae'r modiwl yn ymwneud a rhyngweithio rhwng elfennau systemau amaethyddol, rhwng lefelau hierarchaidd systemau amaethyddol, rhwng systemau amaethyddol a systemau defnyddio'r tir eraill, a rhwng systemau amaethyddol a'u hamgylchfyd naturiol a chymdeithasol. Ei nod yn benodol yw annog integreiddio gwybodaeth ymhlith y disgyblaethau hynny sy'n sail i amaethyddiaeth. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymchwil cyn ac yn ystod y daith astudio yn ogystal a chwblhau'r gwaith cwrs |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd cyflwyno'r gwaith cwrs yn datblygu ymhellach y sgiliau TG a gyflwynwyd yn semester 1. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4