Module Information

Cod y Modiwl
CT13120
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymchwil Troseddeg 1
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 3 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
Seminar 3 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ymarfer Ansoddol  (2,000 gair)  50%
Asesiad Semester Ymarfer Meintiol  (1,000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Ymarfer Ansoddol  (2,000 gair)  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  50%
Asesiad Ailsefyll Ymarfer Meintiol  (1,000 gair)  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall rhai cysyniadau a thechnegau ystadegol sylfaenol (e.e. mesur canolduedd, cydberthyniad)

Cynnal cyfweliad ansoddol

Llunio holiadur arolwg

Gwerthfawrogi’r cryfderau a’r cyfyngiadau cyffredinol mewn perthynas â dulliau meintiol ac ansoddol o gasglu a dadansoddi data mewn sefyllfaoedd troseddegol

Darllen astudiaethau troseddegol empeiraidd a’u hasesu’n feirniadol

Deall cyfyngiadau data empeiraidd a sut y gall data meintiol ac ansoddol gael ei gamddefnyddio

Disgrifiad cryno

Cyflwynir y myfyrwyr i rai o egwyddorion sylfaenol cynllunio ymchwil, trin a dehongli data gan ddefnyddio methodolegau ansoddol a meintiol. Bydd cyfleodd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, gan ddatblygu sgiliau arsylwi a chynnal cyfweliadau un-i-un

Cynnwys

Ymchwil arolwg sampl

Cynllunio holiaduron

Cyfweliadau ansoddol

Dulliau meintiol sylfaenol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn ddisgwyliedig yn yr asesiadau crynodol. Bydd y darlithoedd, y seminarau a’r dosbarthiadau ymarferol yn defnyddio strategaethau cyfathrebu llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y sgiliau a ddysgir ar y modiwl hwn yn sylfaen ardderchog ar gyfer gweithgareddau ymchwil mewn gwaith ôl-raddedig neu swydd yn y dyfodol
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr nodi a chanfod atebion wrth ddadansoddi data ac wrth ddefnyddio gwahanol ddulliau ansoddol.
Gwaith Tim Disgwylir i fyfyrwyr wneud rhywfaint o waith tîm yn ystod y gweithgareddau yn y seminarau
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn dysgu ac yn ymarfer sgiliau ymchwil penodol ar gyfer asesiadau ffurfiannol a chrynodol
Rhifedd Mae defnyddio rhifau yn rhan annatod o’r broses o ddadansoddi data
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl hwn yn defnyddio enghreifftiau a data troseddegol penodol
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o ddulliau ymchwil ac yn defnyddio TG wrth wneud hynny
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn dibynnu ar TG yn y dosbarthiadau ymarferol ac ar gyfer eu hasesiadau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4