Module Information

Cod y Modiwl
CT22120
Teitl y Modiwl
Cyfraith a Pholisi Cymru
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
LA13110 neu LA33110 LA15710, LC10420, LC13110 (Or welsh medium equivalent GF /CT)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect ymchwil ar agwedd  o gyfraith Cymru o ddewis (3000 gair)  50%
Asesiad Semester 1 Awr   Trafodaeth lafar ar ffurf viva fechan  ar agweddau o gyfraith Cymru  50%
Asesiad Ailsefyll Ail sefyll y rhan a fethir  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Deall a thrafod agweddau penodol a manwl o gyfraith a pholisi datganoledig Cymru mewn modd sydd yn briodol ar gyfer gwaith academaidd.

2. Dangos gwybodaeth o'r gwahaniaethau mewn sylwedd rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr, ac oblygiadau hynny mewn ymarfer.

3. Dangos gwybodaeth o polisiau Cymreig yng nghyd-destu cyfreithiau rhanbarthau eraill y du, Cymru a Lloegr fel awdurdodaeth a'r DU fel gwladwriaeth.

4. Egluro arwyddocad cyfreithiau a pholisiau datganoledig, ac sut mae newidiadau yn yr rhain yn effeithio ar hawliau a budddiannau yr unigolyn.

5. Dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol, a dadansoddi arwyddocad yr ymchwil hwnnw, gyda chyfeirnodi priodol.

6. Dangos dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau cyfraith a pholisi Cymru o fewn cyd-destun y setliad datganoli.

7. Datblygu dealltwriaeth o ragolygon Cyfraith Cymru at y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Ers 1999, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu deddfu ar sawl maes cyfreithiol, ac erbyn hyn y mae sawl agwedd o gyfraith Cymru sydd yn wahanol iawn i gyfraith Lloegr. Amcan y modiwl hwn felly fydd i drin a thrafod rhai o’r materion hyn, sef cyfaith gofal iechyd, cyfraith addysg, cyfraith tai, a dwyieithrwydd yn y gyfraith.

Cynnwys

1. Cymru – y setliad datganoli
2. Iechyd a chyfraith a pholisi iechyd
3. Addysg yng Nghymru
4. Cartrefi a thai
5. Dwyieithrwydd cyfreithiol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau ysgrifenedig a sgiliau trafod ar lafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu hyder ar gyfer cyfweliadau.
Datrys Problemau Canfod a dewis deunyddiau perthnasol.
Gwaith Tim Trafodaethau o fewn y sesiynau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymateb i sylwadau ac adborth.
Rhifedd Peth gwaith efo ystadegau.
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o’r gyfraith. Cyflwyno dadl. Ysgrifennu a chyflwyno ar lafar.
Sgiliau ymchwil Prosiect ymchwil a gwaith paratoi.
Technoleg Gwybodaeth Gwaith ymchwil a chanfod deunyddiau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5