Module Information

Cod y Modiwl
CT23220
Teitl y Modiwl
Y Gyfraith ar Waith
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig  (1500 gair)  60%
Asesiad Semester Dyddiadur adfyfyriol  (1500 gair)  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig  (1500 gair)  60%
Asesiad Ailsefyll Dyddiadur adfyfyriol  (1500 gair)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Nodi, esbonio a dadansoddi agweddau sylfaenol ar weithrediad y gyfraith.

2. Dangos dealltwriaeth dda o’r damcaniaethau, y cysyniadau a’r egwyddorion sy’n sail i weithrediad y system gyfreithiol ehangach o fewn cyd-destun cyfoes.

3. Defnyddio a chymhwyso sgiliau priodol i ddadansoddi’r dylanwadau eang ac amrywiol ar y system gyfreithiol.

4. Asesu a chloriannu problemau cyfreithiol cyfredol o safbwynt cymdeithasol.

5. Cloriannu agweddau penodol ar y system gyfreithiol o ran gweinyddu cyfiawnder yn deg.

Disgrifiad cryno

Bydd y Gyfraith ar Waith yn darparu trosolwg cynhwysfawr a rhyngweithiol o sut mae’r gyfraith yn gweithredu mewn cymdeithas, trwy edrych ar y modd y’i defnyddir mewn materion a digwyddiadau cyfoes.
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i werthfawrogi sut mae’r gyfraith yn treiddio i bob agwedd ar weithgarwch pobl a’u hymwneud a’i gilydd, gan eu harfogi a phersbectif ehangach a mwy ymarferol ynglyn a chwmpas a chymhlethdod y system gyfreithiol.
Bydd y modiwl hefyd yn lwyfan i ddarparu ymwybyddiaeth a chyngor gyrfaol, gan gynnwys siaradwyr gwadd ac ymweliadau gan weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith.
Bydd sgiliau academaidd yn cael eu cyfuno a gweithgareddau ymarferol, gan gynyddu lefel gyffredinol y cymhwystra academaidd sydd ei angen ar gyfer Lefel 2, yn arbennig meddwl beirniadol a dadansoddi cyfreithiol.
Bydd y modiwl yn gwella sgiliau dadansoddi cyfreithiol myfyrwyr a’u gallu i feddwl yn feirniadol.

Cynnwys

• Nod y modiwl yn gwella hyfforddiant mewn sgiliau cyfreithiol (yn dilyn ymlaen o semester un) mewn modd ehangach sy’n canolbwyntio mwy ar ymarfer.
• Bydd yn canolbwyntio ar greu ymwybyddiaeth am wahanol agweddau o’r ‘Gyfraith ar Waith’. Bydd hyn yn cynnwys ymweliadau llys a darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith.
• Bydd sgiliau beirniadol yn cael eu gwella drwy ganolbwyntio ar ddiwygio’r gyfraith a rol y gymdeithas sifil, ymhlith pynciau eraill.

Sail resymegol y modiwl yw meithrin ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o’r rhan hanfodol y mae’r gyfraith yn ei chwarae ym mhob agwedd ar weithgarwch pobl ac, i’r diben hwnnw, bydd cynnwys y cwrs yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn oherwydd bod digwyddiadau’n newid yn gyson. Serch hynny, bydd yna elfennau craidd cyffredin a gynlluniwyd i sicrhau cyfanrwydd y modiwl, yn ogystal a dilyniant. Bydd y pynciau canlynol yn cael eu cynnwys:

1. Darlithoedd rhagflas ar ystod eang o bynciau – mae hyn yn fuddiol iawn i fyfyrwyr er mwyn gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth yn yr ail a’r drydedd flwyddyn a gwella eu hymwybyddiaeth gyffredinol o ddyfnder a chwmpas y system gyfreithiol.
2. Profiadau ymarferol, megis ymweld a llys barn. Defnyddir profiadau o’r fath nid yn unig i ddysgu gwybodaeth gyfreithiol, ond hefyd i gyfoethogi a hogi eu sgiliau cyffredinol.
3. Cyfraniadau gan siaradwyr allanol ar yrfaoedd ym maes y gyfraith ar bob lefel
4. Bydd sesiynau ymryson cyfreitha anffurfiol yn fodd i fyfyrwyr ymgyfarwyddo a phrotocolau perthnasol yr ystafell llys yn ogystal a gwella sgiliau rhesymu a dadansoddi cyfreithiol
5. Sesiynau trafod i ymgyfarwyddo myfyrwyr ag ystod o bynciau cyfoes ac i ddysgu sgiliau areithio perthnasol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae trafodaethau/gweithgareddau mewn seminarau yn datblygu sgiliau cyflwyno a dadlau ar lafar, fel unigolion ac fel grwp
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwnc a argymhellir i holl fyfyrwyr y gyfraith.
Datrys Problemau Trafodaethau mewn seminarau/paratoi a dadlau
Gwaith Tim Gweithgareddau a thrafodaethau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae cymryd rhan mewn seminarau ac ysgrifennu traethodau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Darllen a deall deunyddiau cyfreithiol. Y gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cyfreithiol.
Sgiliau ymchwil Trafodaethau mewn seminarau/paratoi a dadlau
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5