Module Information

Cod y Modiwl
CY21320
Teitl y Modiwl
Golwg ar Ferched mewn Llenyddiaeth hyd tua 1500
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   60%
Asesiad Semester Gwerthfawrogiad beirniadol  (2,500 gair)  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   60%
Asesiad Ailsefyll Gwerthfawrogiad beirniadol  (2,500 gair)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig rhyweddol a ffeminyddol ehangach.

2. Medru disgrifio a thrafod y prif ddulliau llenyddol o bortreadu merched a ddefnyddid gan feirdd a llenorion Cymraeg yr Oesoedd Canol, gan osod y dulliau hyn yn eu cyd-destun diwylliannol Cymreig ac Ewropeaidd.

3. Dangos dealltwriaeth o statws a swyddogaethau’r ferch yng Nghymru’r Oesoedd Canol.

4. Medru egluro natur a chyfyngiadau’r prif ffynonellau a ddefnyddir i archwilio’r maes.

5. Medru dadansoddi a thrafod ddetholiad o destunau rhyddiaith a barddoniaeth, naill ai yn y gwreiddiol, neu mewn cyfiethiad neu ddiweddariad.

Disgrifiad cryno


Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno fframwaith beirniadol ffeminyddol, lle’r ferch yn y gymdeithas Gymreig ganoloesol, y safbwynt gwrywaidd (S. ‘the male gaze’) ac ymdrechion llenorion gwrywaidd i daflunio llais y ferch. Astudir detholiad o destunau gwreiddiol sy’n rhoi sylw i ferched a’r modd y portreadir hwynt yn y testunau hynny.

Cynnwys

Cyflwyno’r maes: y cyd-destun beirniadol a hanesyddol

Wythnos 1
Darlith & Seminar
Cyflwyniad i fframwaith astudiaethau rhywedd a ffeminyddiaeth, sef y cyd-destun Ewropeaidd ac Engl-Americanaidd; rôl y beirniad ffeminyddol; lle’r modiwl hwn yn hanesyddiaeth y ddisgyblaeth; cyfiawnhau bodolaeth modiwl fel hwn fel rhan o’r ddadl dros brif-ffrydio astudiaethau rhywedd/ffeminyddiaeth.

Wythnos 2
2 Darlith
Y cyd-destun hanesyddol: agweddau mytholegol, crefyddol, meddygol tuag at y ferch; statws a swyddogaeth y ferch, gan gynnwys gwisgoedd; y tyndra rhwng duwioldeb a rhywioldeb.

Wythnos 3
Darlith & Seminar
Y cyd-destun hanesyddol (parhad)
Testunau penodol: taflunio lleisiau merched

Wythnos 4
2 x Darlith
Y canu cynnar: ‘Pais Dinogad’ a llais y fam;
‘Canu Heledd’ a llais y ferch yn y canu englynol cynnar.

Wythnos 5
Seminar
‘Canu Heledd’
Darlith
Pedeir Keinc y Mabinogi (PKM): merched a’r Mabinogi; rhywioldeb yn y Mabinogi;

Wythnos 6
Darlith & Seminar
PKM: Rhiannon.

Wythnos 7
Darlith & Seminar
PKM: Blodeuwedd a Branwen.

Wythnos 8
Darlith & Seminar
Cerddi’r Gogynfeirdd i fenywod: ‘Gorhoffedd’ Hywel ab Owain Gwynedd; ‘Rhieingerdd Efa’ Cynddelw Brydydd Mawr.

Wythnos 9
Darlith & Seminar
Merched Dafydd ap Gwilym: Morfudd, Dyddgu ac eraill.

Wythnos 10
Darlith & Seminar
Merched a chanu serch yr Oesoedd Canol: y ferch ddelfrydol?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Gofynnir i fyfyrwyr ddarllen, ysgrifennu a thrafod deunyddiau y mae eu cyd-destunau’n amrywio’n fawr. Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniad ysgrifenedig, ac i fabwysiadu cywair academaidd priodol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy werthuso ac ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r fframwaith beirniadol, y cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn ymarfer sgiliau trafod a pherswadio trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae’r aseiniadau ar gyfer y modiwl hwn yn asesu gwaith y myfyrwyr yn ffurfiannol. Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Trwy gymhwyso theori ffeminyddol i destunau hanesyddol. Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Deall a gwerthuso amrywiol ddulliau ymchwil: ffeminyddiaeth, ysgolheictod testunol, beirniadu llenyddiaeth. Trwy gynllunio a chynnal ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir technoleg at ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau) a phrosesu geiriau. Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol yn effeithiol, yn ogystal ag adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5