Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Taith Maes | 2 x Teithiau Maes 2 Awr |
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Atodol | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 3000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd: 3000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gyfarwydd a^ detholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a rhai o'i gyfoeswyr.
2. Byddant yn gallu diweddaru rhai cywyddau gan Ddafydd ap Gwilym i Gymraeg Diweddar.
3. Byddant yn gyfarwydd a^ hynt y gyfundrefn farddol yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
4. Byddant yn gwybod am y dylanwadau cyfandirol a fu ar y canu serch Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
5. Byddant yn gyfarwydd a^ thrafod crefft ac arddull y cywydd deuair hirion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn gynefin a^ phynciau technegol fel y gynghanedd a chrefft dyfalu.
6. Byddant yn gyfarwydd a^'r ysgolheictod diweddaraf ym maes astudio'r Cywyddwyr a dylent fedru trafod barn ysgolheigion a beirniaid yn ddeallus.
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ganu Dafydd ap Gwilym a rhai o feirdd eraill y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6