Module Information

Cod y Modiwl
DA10810
Teitl y Modiwl
Newid Hinsawdd
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 1 x Gweithdy 2 Awr
Darlith 7 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ffug Uwchgynhadledd ar Newid Hinsawdd (2 awr)  - Cyflwyniad Pwerbwynt unigol (5 munud) a dadl grŵp (1 awr)  40%
Asesiad Semester Gwaith ysgrifenedig - Erthygl newyddion  (1500 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Sgript a chyflwyniad Pwerbwynt unigol  - Cyflwyniad Pwerbwynt (10 munud) a gwaith ysgrifenedig  40%
Asesiad Ailsefyll Gwaith ysgrifenedig - Erthygl newyddion  (2000 o eiriau)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Amlinellu cyd-destunau hanesyddol, ffisegol a dynol (cymdeithasol, gwleidyddol) y ddadl newid hinsawdd gyfredol, a disgrifio'r gwahaniaethau rhanbarthol a byd-eang yn sgil effeithiau'r newidiadau hinsoddol rhagweledig;

2. Gwerthuso'r gwahanol gynrychioliadau’r ddadl newid hinsawdd (e.e. yn y cyfryngau gwyddonol a phoblogaidd) yn feirniadol;

3. Asesu manteision ac anfanteision y gwahanol gynlluniau arfaethedig er gyfer addasu at newidiadau hinsoddol rhagweledig y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Mae’n anodd osgoi newid hinsawdd: fel pwnc ar y newyddion, fel testun dadleuol ar gyfryngau cyhoeddus, ac wrth brofi effeithiau cynyddol ein hinsawdd yn newid o ddydd i ddydd. Er bod mwy a mwy o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd, nifer sylweddol o astudiaethau academaidd mewn i effeithiau newid hinsawdd, a llwyth o drafodaethau gwleidyddol pwysig ynglŷn â’n hymateb byd-eang i’r broblem, mae’n bwnc sy’n parhau i bolareiddio barn. Ai pobl sydd wedi achosi/gwaethygu effeithiau newid hinsawdd? Ydy’r blaned ar gylchrediad cynhesu naturiol? Oes modd lleihau effeithiau newid hinsawdd y dyfodol? Pwy sydd fod derbyn cyfrifoldeb dros ddatrys problemau newid hinsawdd?

Mae’r modiwl hwn yn ystyried nifer o agweddau daearyddol i’r ddadl newid hinsawdd gyfredol, o’r effeithiau ffisegol, i’r dadleuon gwleidyddol a’r canfyddiadau cymdeithasol sydd wrth graidd pwnc llosg ein cenhedlaeth. Byddwn yn ymdrin â’r gwahanol safbwyntiau ffeithiol a chysyniadol mewn modd critigol, ac yn ystyried ein rôl mewn addasu i hinsawdd newidiol y dyfodol.

Cynnwys

Gorolwg o bynciau'r darlithoedd:

1) Newid hinsawdd: trawiadau
Effeithiau ffisegol newid hinsawdd ar raddfa bydol a rhanbarthol; hanes y ddadl newid hinsawdd gyfredol; modeli newid hinsawdd y dyfodol a chynrychioli ansicrwydd.

2) Newid hinsawdd: canfyddiadau
Canfyddiadau a chynrychiolaethau llywodraethau, diwydiant, a’r cyhoedd o newid hinsawdd; rôl y cyfryngau a gwyddonwyr wrth gyfathrebu ffeithiau a chanfyddiadau; adroddiadau asesu’r Panel Rhynglywodraethol (IPCC).

3) Newid hinsawdd - addasiadau
Ffyrdd o leddfu ac addasu tuag at fyd carbon isel a chynaliadwy; addasiadau unigol a chynlluniau gwrthbwyso carbon; goblygiadau ffordd o fyw carbon isel i’r unigolyn, i ddiwydiant, ac i’r economi.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae asesu gwahanol gyfryngau cyfathrebu wrth galon dadl newid hinsawdd, gyda gwahanol garfannau'n cynhyrchu gwahanol cynrychioliadau ysgrifenedig, gweladwy, ac ar lafar. Canolbwyntia'r modiwl ar ddarparu sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu gwerthuso'r honiadau a rhagolygon am newid hinsawdd sy'n cystadlu â'i gilydd, yn enwedig drwy bwysleisio arwyddocâd gwahanol ffyrdd o gyfathrebu mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu’u sgiliau cyfathrebu wrth gyflwyno dadleuon agoriadol yn unigol i’r Ffug Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd, ac wedyn parhau i ddadlau’r gwahanol safbwyntiau a pholisiau fel grŵp.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Newid hinsawdd yw un o'r pynciau llosg byd-eang mwyaf pwysig; daeth yn eitem sefydlog ar yr agenda gwyddonol, cymdeithasol, a gwleidyddol yn gyflym. Fel ymhelaethir ar ddechrau a thrwy gydol y modiwl, mae angen graddedigion sydd yn hyddysg yn natur amlochrog dadl newid hinsawdd, boed yn y gwyddorau, llywodraeth, diwydiant, neu yng nghymdeithas. Yn benodol, mae yna alw am rai â medrau adnabod, asesu, a gwerthuso honiadau a chynrychioliadau newid hinsawdd sy'n cystadlu a'i gilydd. Wrth gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr cefndir cadarn ar gyfer dilyn modiwlau mwy arbenigol yn naearyddiaeth ddynol a/neu ffisegol sy'n ymhelaethu ar themâu newid hinsawdd. Byddant yn medru cystadlu am ystod o yrfaoedd sy'n ymwneud â'r amgylchedd ar sail eu sylfaen gwybodaeth.
Datrys Problemau Newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd, ond, ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw atebion a dderbyniwyd yn unfrydol neu'n eang ar sut i leddfu ac/neu addasu i newidiadau hinsoddol y dyfodol. Mae gan bob strategaeth ar gyfer lleddfu/addasu fanteision ac anfanteision, yn enwedig wrth ystyried gwahanol gyd-destunau daearyddol. Yn sgil hyn mae medrau datrys problemau yn rhan allweddol o'r ddadl newid hinsawdd.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at Fwrdd Trello y modiwl, gan weithio fel tîm i ddatblygu banc o adnoddau defnyddiol ar gyfer y ddadl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy gydol y modiwl mae’n rhaid i’r myfyrwyr gymryd cyfrifoldeb dros gwaith ymchwil eu hunain, a chadw ar ben unrhyw ddatblygiadau yn y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd cwestiynau byr yn y darlithoedd a chyfraniadau at y Bwrdd Trello yn galluogi’r myfyrwyr i nodi’u cynnydd o gymharu a’u cymdogion.
Rhifedd Mae'r gallu i ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata rhifiadol a graffigol yn elfennau canolog i'r ddadl newid hinsawdd.
Sgiliau pwnc penodol Deall yr amrywiaeth lleol, rhanbarthol a byd-eang agweddau dynol a ffisegol system y Ddaear, yn arbennig yng nghyd-destun y ddadl newid hinsawdd.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn cynnal ymchwil eu hunain er mwyn paratoi tuag at y Ffug Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd. Bydd rhaid dadansoddi a chrynhoi data mewn modd effeithiol er mwyn cyflwyno’u dadleuon a dylanwadu ar y polisiau sy’n cael eu trafod.
Technoleg Gwybodaeth Mae adnabod a gwerthuso gwahanol ffynonellau gwybodaeth ar y we (dibynadwyedd, geirwiredd, ac ati) yn elfen hollbwysig o’r ddadl newid hinsawdd. Bydd y sgiliau hyn yn angenrheidiol er mwyn ymchwilio a pharatoi tuag at y Ffug Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd. Diwsgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno dadleuon agoriadol gan ddefnyddio technoleg addas e.e. Pwerbwynt neu Prezzi.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4